Crynodeb

  • Meddygon iau ar draws y wlad yn ymuno â'r linell biced fel rhan o ymdrech i sicrhau cyflogau uwch

  • Streic wedi dechrau am 07:00 fore Llun, ac yn parhau am dridiau nes fore Iau

  • Bron i 4,000 o feddygon iau yng Nghymru - o flwyddyn gyntaf eu gyrfa i'r rhai sydd ar fin bod yn ymgynghorwyr

  • Llywodraeth yn dweud eu bod yn cydnabod rhwystredigaeth meddygon iau, ond nad oes rhagor o arian i'w gynnig

  1. Streicwyr yn paratoi yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 07:46 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae Gohebydd Iechyd BBC Cymru Owain Clarke tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd, lle mae'r streicwyr yn dechrau paratoi:

    “Mae tua dwsin o feddygon iau a swyddogion, i gyd yn eu siacedi a’u capiau oren, ac maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn tynnu'r posteri, placardiau, baneri a bathodynnau allan o’r bocsys, ac mae’r neges yn glir o ddarllen rheiny.

    "Er enghraifft, un poster o’m blaen i nawr yn dweud '£13.65 yr awr, dyw hynny ddim yn ddigon o dâl ar gyfer doctor'.

    "Un arall yn son am ‘talwch fi gystal â maen nhw’n talu meddygon yn Awstralia'.

    "Hynny'n awgrymu dadl y BMA wrth gwrs fod tâl meddygon iau ddim yn ddigon da, ac un effaith o hynny yw bod pobl naill ai yn gadael i weithio dramor neu'n dewis gadael y proffesiwn meddygaeth yn gyfan gwbl."

    Ysbyty Athrofaol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Meddygon ar streic y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru fore Llun

  2. Y linell biced yn Ysbyty Gwynedd, Bangorwedi ei gyhoeddi 07:38 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae rhai o feddygon Ysbyty Gwynedd sydd ar streic heddiw eisoes wedi ymuno gyda'r linell biced y tu allan i'r ysbyty ym Mangor.

    Gobeithio'u bod nhw'n ddigon cynnes y bore 'ma!

    meddygon iau Bangor
  3. 4,000 o feddygon iau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 07:33 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    gfx

    Mae bron i 4,000 o feddygon iau yng Nghymru, sef 40% o'r gweithlu meddygol.

    Maen nhw'n feddygon sydd wedi cymhwyso, ac yn cynnwys y rheiny sydd newydd adael y brifysgol hyd at y rheiny sydd wedi bod yn y swydd am flynyddoedd lawer.

    Mae pob meddyg sy'n dal i hyfforddi - boed hynny'n hyfforddi i fod yn feddyg teulu neu'n ymgynghorydd mewn ysbyty - yn cael ei ystyried yn feddyg iau.

    O'r 65% o feddygon iau a bleidleisiodd yn ystod y balot ar weithredu diwydiannol y llynedd, fe benderfynodd 98% eu bod o blaid streicio y gaeaf hwn.

    meddygFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Her aruthrol' i'r gwasanaethwedi ei gyhoeddi 07:26 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Owain Clarke
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    "Mae'n debygol y bydd effaith y streic yn sylweddol iawn," meddai'n gohebydd iechyd Owain Clarke.

    "Bydd y gwasanaeth iechyd yn ceisio diogelu gofal brys cymaint a bo modd, gyda meddygon ymgynghorol a staff eraill yn ymgymryd â chyfrifoldebau meddygon iau.

    "Ond fe fydd cannoedd yn llai o lawdriniaethau a miloedd yn llai o apwyntiadau yn digwydd dros y tridiau nesaf, o'i gymharu â'r hyn sy'n arferol.

    "Ar ôl cael gwybod dyddiadau'r streic ganol Rhagfyr, byddai byrddau iechyd wedi bod yn ceisio trefnu llai o apwyntiadau ar gyfer y cyfnod yma.

    "Ond hyd yn oed wedyn mi fydd rhai cleifion yn ymwybodol fod eu triniaethau neu apwyntiadau wedi cael eu gohirio.

    "Yn ôl y Gweinidog Iechyd bydd lefelau gwasanaethau yn debycach i'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ystod gwyliau banc - gydag Eluned Morgan yn cydnabod fod hyn yn her aruthrol."

    desg meddyg teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae ysbytai eisoes wedi trefnu llai o apwyntiadau na'r arfer oherwydd y streic

  5. Ewch i apwyntiad os nad wedi clywed yn wahanolwedi ei gyhoeddi 07:17 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae pob bwrdd iechyd yn dweud y dylai unrhyw gleifion sydd ag apwyntiad wedi'i gynllunio fynd iddo, oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu â nhw i'w aildrefnu.

    Hefyd, os yw'n achos brys, ewch i'r adran ddamweiniau ac achosion brys.

    Mae disgwyl i'r streic effeithio ar ysbytai yn bennaf, ond gallai rhai meddygfeydd gael eu heffeithio hefyd.

    Y cyngor gan fyrddau iechyd yw i bobl ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru , dolen allanoli ddechrau, i gael gwybodaeth am y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Llywodraeth Cymru: 'Dim mwy o arian ar gael'wedi ei gyhoeddi 07:08 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Er fod y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn cydnabod rhwystredigaeth meddygon iau, mae'n dweud nad oes rhagor o arian i'w gynnig.

    "Yr unig le allen ni fynd er mwyn dod o hyd i ragor o arian yw gwneud toriadau yn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd," meddai.

    "A dydw i ddim yn credu y bydd y cyhoedd yn diolch i ni am hynny."

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn dweud nad oes mwy o arian yn y coffrau

  7. Meddygon yn 'ddigalon, rhwystredig a blin'wedi ei gyhoeddi 07:00 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Dywedodd y BMA yng Nghymru bod eu haelodau "wedi cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn" oherwydd bod eu cyflogau bron i draean yn llai erbyn hyn, o gymharu â beth oedd e bymtheg mlynedd yn ôl.

    Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru: "Nid yw unrhyw feddyg eisiau streicio - roeddem wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru wedi deall yn iawn gryfder teimladau meddygon iau yng Nghymru.

    "Yn anffodus, mae'r ffaith nad ydyn nhw wedi gweithredu ar y mater hwn wedi ein harwain ni yma heddiw, yn ddigalon, yn rhwystredig ac yn flin."

    BMA
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru nad yw meddygon yn dymuno streicio ond nad oes dewis arall

  8. Diwrnod cyntaf streic dridiau meddygon iauwedi ei gyhoeddi 06:57 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae'n ddiwrnod cyntaf streic dridiau y meddygon iau yng Nghymru.

    Bydd aelodau'r BMA yng Nghymru yn streicio rhwng 07:00 y bore yma a 07:00 dydd Iau 18 Ionawr.

    Mae pryderon ymysg arweinwyr y gwasanaeth iechyd am effaith y streic yn ystod un o wythnosau prysura'r flwyddyn.

    Dyma'r dewis olaf, medd meddygon iau, i sicrhau "cyflog teg".

    Mae rhai o'n gohebwyr y tu allan i ysbytai Cymru wrth i'r meddygon ymuno â'r linell biced.

    Bydd modd cael y newyddion a'r ymateb diweddaraf yma. Croeso aton ni.

    meddygonFfynhonnell y llun, PA Media