Crynodeb

  • Mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion wedi bod mewn grym ar gyfer Cymru gyfan dros nos

  • Daeth y rhybudd hwnnw, a rhybudd melyn am law ar gyfer y mwyafrif o Gymru, i ben am 06:00

  • Mae rhybudd melyn arall am wynt mewn grym ar gyfer y DU gyfan tan 12:00 ddydd Llun

  1. Ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi ailagorwedi ei gyhoeddi 07:55 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr
    Newydd dorri

    Mae ffordd Blaenau'r Cymoedd bellach wedi ailagor.

    Yn gynharach roedd hi ar gau ger Cefncoedycymer wedi i goeden ddisgyn - mae'r goeden bellach wedi'i symud.

  2. Pa rybuddion sydd mewn grym?wedi ei gyhoeddi 07:52 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer y DU gyfan tan 12:00 heddiw.

    Fe ddaeth y rhybudd oren am wyntoedd cryfion a'r rhybudd melyn am law trwm i ben am 06:00 fore Llun.

  3. Y ffordd rhwng Bala a Llandderfel ar gauwedi ei gyhoeddi 07:45 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Ar y cyfryngau cymdeithasol mae rhai wedi bod yn rhoi adroddiadau am y ffyrdd o'u cwmpas.

    Mae'r ffordd rhwng Bala a Llandderfel wedi cau yn sgil y tywydd garw, fel y noda Sioned Webb.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Dros 30 rhybudd llifogydd 'llai difrifol hefyd'wedi ei gyhoeddi 07:36 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Mae Rhybudd Llifogydd yn golygu bod disgwyl llifogydd a bod angen gweithredu.

    Fore Llun am 07:30 dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod yna dros 30 rhybudd arall mewn grym - rhai sy'n llai difrifol.

    Yn gynharach roedd yna rybudd i bobl sy'n cerdded ar lwybrau i fod yn ofalus "gan y gallai gwyntoedd cryfion achosi i goed a changhennau ddisgyn".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Pedwar rhybudd llifogydd fore Llunwedi ei gyhoeddi 07:28 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod pedwar rhybudd llifogydd mewn grym fore Llun sef ar

    • Afon Nedd yn Aberdulais;
    • Afon Wysg o Aberhonddu hyd at Langrwyne;
    • Afon Conwy ger Ffordd Gwydir;
    • ac Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach.
  6. 'Cael fy nargyfeirio i Gaeredin!'wedi ei gyhoeddi 07:18 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Cafodd hediadau o Amsterdam a Chaeredin oedd i fod i lanio ym Maes Awyr Caerdydd nos Sul eu canslo wrth i'r tywydd waethygu.

    Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd un o gyflwynwyr y BBC - Jennifer Jones - na fydd hi'n cyflwyno ddydd Llun gan ei bod yng Nghaeredin yn lle Bryste!

    Cafodd yr awyren yr oedd hi'n teithio ynddi ei dargyfeirio ond ychwanegodd ei bod hi a'i ffrindiau yn ddiogel.

    Jennifer Jones
  7. Trafferthion ar ffordd Blaenau'r Cymoeddwedi ei gyhoeddi 07:13 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Mae ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi ei rhwystro i'r ddau gyfeiriad yng Nghefncoedycymer ger Merthyr am fod coeden wedi cwympo.

    Y cyngor yw i osgoi'r ardal.

  8. Pont Britannia bellach wedi ailagorwedi ei gyhoeddi 07:06 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Dywed Traffig Cymru bod Pont Britannia bellach wedi ailagor i draffig ac eithrio beiciau, beiciau modur a charafanau.

    Mae cyfyngiad cyflymder 30mya yn parhau i'r holl draffig.

    Nos Sul bu'n rhaid cau'r bont rhwng Gwynedd a Môn rhwng 16:00 a hanner nos oherwydd y pryderon am wyntoedd cryfion.

    Pont Britannia
  9. 200 eiddo yn y de yn parhau heb drydanwedi ei gyhoeddi 07:04 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Yn ôl gwefannau'r National Grid a Scottish Power, roedd nifer o gartrefi ledled Cymru heb bŵer nos Sul.

    Ar un adeg roedd hyd at 3,000 o gartrefi heb drydan.

    Fore Llun mae'n ymddangos mai rhyw 200 eiddo sydd heb drydan yn y de - a hynny yn ardaloedd Abertawe, cymoedd de Cymru ac o gwmpas Castellnewydd Emlyn.

  10. Storm Isha yn taro Cymruwedi ei gyhoeddi 06:56 Amser Safonol Greenwich 22 Ionawr

    Storm Isha yw'r ddiweddaraf i daro Cymru a'r DU.

    Dros nos roedd yna wyntoedd cryfion a chawodydd trymion ar draws Cymru gyda nifer heb drydan.

    Y diweddaraf a'r ymateb i'r storm ar ein llif byw - croeso aton ni.

    tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd