Crynodeb

  • Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru am y tro cyntaf ddydd Mawrth

  • Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol

  • Fe ddefnyddiodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething negeseuon a oedd yn diflannu yn ystod y pandemig, mae'r ymchwiliad wedi clywed

  • Fideo pwerus yn agor y gwrandawiad yng Nghaerdydd, gyda phobl ledled Cymru yn sôn am y boen o golli anwyliaid yn ystod y pandemig

  • Arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion i gael eu holi am "benderfyniadau craidd" a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig

  • Bydd yr ymchwiliad yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth

  1. Cau ysgolionwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywed Mr Poole bod y penderfyniad wedi ei wneud i gau ysgolion yng Nghymru ar 18 Mawrth 2020.

    Bydd angen i'r ymchwiliad, meddai, ystyried a oedd digon o feddwl wedi ei roi i effeithiau'r penderfyniad hwnnw?

    Bydd angen ystyried hefyd, meddai, oedd hi'n gywir i ganiatáu i siopau ailagor ym Mehefin 2020, a bod plant felly yn gallu mynd i siopa ond nid i'r ysgol.

  2. Cartrefi gofal: 'Methiant enfawr'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywed Mr Poole bod y penderfyniad i ryddhau cleifion o'r ysbyty i'r sector gofal wedi cael canlyniadau "trychinebus".

    Mae tystiolaeth, meddai, bod mwy na 1,000 o gleifion yng Nghymru wedi eu rhyddhau i gartrefi gofal heb brawf Covid ym misoedd Mawrth ac Ebril 2020.

    Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ar 5 Mehefin 2020, roedd traean o holl farwolaethau Covid Cymru wedi digwydd mewn cartrefi gofal.

    Does "dim amheuaeth", meddai Mr Poole, bod yna "fethiant enfawr" o reoli heintio wedi bod.

    Mae hyn yn codi mwy o gwestiynau y bydd yn rhaid i'r ymchwiliad eu hystyried, meddai Mr Poole.

    cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Cymru v Yr Albanwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Erbyn hyn mae Mr Poole yn trafod digwyddiadau mis Mawrth 2020, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth.

    Fe wnaed y penderfyniad i ohirio'r gêm ddim ond diwrnod cyn yr oedd hi fod i gael ei chynnal yng Nghaerdydd, a dywed Mr Poole bod 20,000 o gefnogwyr yr Alban wedi teithio i Gaerdydd erbyn hynny.

    Dywed Mr Poole y bydd angen i'r ymchwiliad ystyried a ddylai digwyddiadau torfol o'r fath fod wedi cael eu gwahardd yn gynharach, ac a ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi cynghori yn erbyn cynnal y gêm rygbi, yn ogystal â digwyddiadau torfol eraill fel cyngherddau y Stereophonics yng Nghaerdydd ar 14-15 Mawrth.

    Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cefnogwr o'r Alban - un o 20,000 a wnaeth y daith i Gaerdydd, mae'n debyg - tu allan i ddrysau caeedig Stadiwm Principality ar 14 Mawrth, 2020

  4. Chwefror 2020wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywed Mr Poole bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn fwy ymwybodol o fygythiad Covid erbyn diwedd Chwefror 2020.

    Felly, meddai, mae angen gofyn: beth wnaeth Llywodraeth Cymru i geisio perswadio Llywodraeth y DU am yr angen i ymateb yn gyflym i'r sefyllfa, a beth yn fwy gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ei wneud i geisio lliniaru effeithiau gwasgariad y feirws yng Nghymru?

  5. Dyddiau cynnar Covid - mwy o gwestiynauwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Ers yr egwyl mae Mr Poole wedi bod yn amlinellu rhai o'r dyddiadau allweddol ym mis Ionawr 2020 pan y bu arbenigwyr a gwleidyddion yn dechrau trafod Covid.

    Dywed Mr Poole bod cabinet Llywodraeth y DU wedi trafod Covid am y tro cyntaf ar 31 Ionawr 2020, ond bod y dystiolaeth yn awgrymu na wnaeth cabinet Llywodraeth Cymru drafod Covid am bron i fis arall ar 25 Chwefror.

    Mae digwyddiadau Ionawr 2020 yn codi cwestiynau pellach, yn ôl Mr Poole:

    • A oedd Llywodraeth Cymru'n cymryd o ddifrif y ffaith y byddai'r feirws yn ôl pob tebyg yn gwasgaru i Gymru?
    • Oedd yna ddealltwriaeth lawn o oblygiadau peidio cymryd camau i reoli'r feirws?
    • Ydy methiant y cabinet yng Nghymru i drafod Covid o gwbl ym mis Ionawr 2020 yn dangos nad oedd Llywodraeth Cymru'n cymryd bygythiad y feirws o ddifrif?
    • Neu a oedd Llywodraeth Cymru'n credu bod Llywodraeth y DU yn gofalu am y sefyllfa ac nad oedd angen ymateb annibynnol?
    • Oedd yna ddiffyg arweiniad strategol gan Lywodraeth Cymru'n ystod y cyfnod cynnar allweddol yma?

    Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru - gan gynnwys y prif weinidog, Mark Drakeford - yn rhoi tystiolaeth yn y dyddiau a'r wythnosau i ddodFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru - gan gynnwys y prif weinidog, Mark Drakeford - yn rhoi tystiolaeth yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod

  6. Rheolau gwahanol yng Nghymru, Lloegr a'r Albanwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth siarad ar Dros Frecwast bore 'ma, dywedodd un meddyg teulu o ardal Amlwch ym Môn ei bod hi'n "angenrheidiol" fod yr ymchwiliad yn rhoi sylw i'r rheolau gwahanol rhwng y gwledydd.

    "Pan oeddan ni’n siarad ar yr adag hynny, un peth oeddan ni’n ei drafod wythnos ar ôl wythnos oedd bod y canllawiau yn wahanol yng Nghymru, yn Lloegr, yn yr Alban ac oedd hyn wrth gwrs yn creu dryswch enfawr i bobl," meddai'r Dr Harri Pritchard.

    Dr Harri Pritchard

    Ychwanegodd: "[Mae] pobl sy’n gwrando ar Radio Cymru yn tueddu i gael rheolau Cymru, ond mae 'na lawer iawn o bobl yng Nghymru sydd ddim yn gwrando ar y cyfryngau Cymraeg ac yn gwrando ar y cyfryngau yn Lloegr.

    "O ganlyniad, roeddan nhw'n cael y canllawiau anghywir. Mae’n dod i’r amlwg rŵan nad oedd y llywodraethau datganoledig ddim yn trafod efo’i gilydd. Pan 'da chi yn sbïo 'nôl ar y peth, oedd y peth yn hollol anfaddeuol."

  7. 'Cwestiynau i'w hateb' i Lywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Wrth i'r pandemig fynd yn ei flaen, dywed Mr Poole bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu eu strategaethau a rheoliadau eu hunain i ymateb i Covid, ar wahan i Lywodraeth y DU.

    Mae hynny'n golygu felly bod gan weinidogion yng Nghymru gwestiynau i'w hateb, meddai, er enghraifft:

    • A wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb yn ddigon cyflym ar ddechrau 2020 ar ôl clywed yn gyntaf am Covid?
    • A ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi rhoi sylw ynghynt i wybodaeth oedd ar gael iddi gan arbenigwyr a thrwy gyfundrefnau Llywodraeth y DU?
    • A ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy ynghynt i gynllunio ar gyfer ymateb i'r feirws?
    • A ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU?
    • Pe bai Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn wahanol yn ystod y cyfnod allweddol yna ar ddechrau 2020, a allen nhw fod wedi newid trywydd y pandemig yn sylweddol?

    Yn ôl Mr Poole, mae yna rai sy'n dadlau pe bai Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda mwy o frys ym misoedd Ionawr a Chwefror 2020, efallai na fyddan nhw fod wedi gorfod gwneud penderfyniadau mor bell-gyrhaeddol yn hwyrach.

    Yn y cyfamser, ar ôl toriad o ryw 20 munud, mae'r gwrandawiad ar fin ailddechrau.

  8. Marwolaethau Covid yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywed Mr Poole bod 12,300 o bobl wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i Covid.

    Mae hwnnw'n ffigwr "brawychus" ac yn "golled bywyd ofnadwy", meddai.

    Mae'r ffigwr yna'n "codi'r cwestiwn, 'oedd yn rhaid i bethau fod felly?'," ychwanega.

    "Mae'n rhaid i'r ymchwiliad ymchwilio i'r cwestiwn yna a'i ateb."

    graff
  9. Datganiad gan Gwnsler i'r Ymchwiliadwedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywed Tom Poole KC taw pwrpas y modiwl yma fydd craffu ar rai o'r penderfyniadau mawr gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

    Dywed y bydd yr ymchwiliad yn croesholi rhai o'r bobl oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau yna, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y cyn-weinidog iechyd, Vaughan Gething, Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton a chyn-brif weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Andrew Goodall.

  10. Mwy o brofiadau dirdynnolwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Roedd y fideo hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl sy'n trafod eu profiadau'n ymdopi gyda'r cyfyngiadau gafodd eu cyflwyno yn ystod y pandemig.

    Rydyn ni wedi clywed gan bobl oedd yn gorfod ynysu, pobl oedd yn methu â ffarwelio gydag anwyliaid a phobl sydd wedi dioddef gydag effeithiau Covid hir.

    Yng Nghymru wrth gwrs, Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y penderfyniadau y tu ôl i'r cyfyngiadau yma ac mae'r holl gyfweliadau yn dangos maint y dasg fydd yn wynebu'r ymchwiliad dros y tair wythnos nesa wrth iddo graffu ar yr hyn ddigwyddodd yma.

    Mae'r fideo bellach ar ben ac mae Cwnsler i'r Ymchwiliad, Tom Poole KC, ar ei draed.

  11. 'Fideo yn atgoffa rhywun o effaith y pandemig'wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Owain Clarke
    Gohebydd BBC Cymru

    Cyfraniadau helaeth a phwerus yn Gymraeg ac yn Saesneg gan nifer o unigolion gafodd eu heffeithio gan y pandemig mewn gwahanol ffyrdd.

    Yn cynnwys unigolion gollodd anwyliaid o ganlyniad i ddal y feirws, ond hefyd unigolion gollodd berthnasau a chyflyrau eraill oherwydd yr oedi yn eu triniaeth.

    Diddorol hefyd fod 'na gyfraniadau gan unigolion oedd yn "cysgodi" yn ystod Covid oherwydd bod gyda nhw afiechydon penodol yn disgrifio’r effaith gafodd torri cysylltiadau gyda'r byd tu allan ar eu hiechyd meddwl.

    Bedair blynedd ar ôl dechre'r pandemig, mae'r cyfraniadau hyn yn atgoffa rhywun o faint o effaith gafodd y feirws a'r ymateb iddo ar gymaint o unigolion.

  12. Pwy sy'n arwain yr ymchwiliad?wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Mae'r ymchwiliad dan gadeiryddiaeth cyn-farnwr y Llys Apêl, y Farwnes Heather Hallett DBE.

    Mae eisoes wedi cynnal gwrandawiadau yn Llundain a'r Alban.

    Heather Hallett DBEFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Fideo o brofiadau personolwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r gwrandawiad heddiw'n cychwyn gyda fideo sy'n cynnwys cyfres o gyfweliadau emosiynol a phwerus yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda phobl a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.

    Mae fideos fel yr un yma'n cael eu chwarae ar ddechrau pob modiwl, eglura'r Farwnes Hallett, er mwyn cofio am y rhai fu farw.

    Mae modd gwylio'r fideo ar dop y dudalen yma - mae'r cyfraniadau yn ddwyieithog.

  14. Dechrau'r sesiwnwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae sesiwn heddiw wedi cychwyn wrth i'r Farwnes Heather Hallett groesawu pawb i leoliad gwrandawiadau'r ymchwiliad ar gyrion Caerdydd.

    Dywed y Farwenes Hallett ei bod hi'n ymwybodol bod yna alwadau wedi bod am ymchwiliad Covid yn benodol i Gymru, ond nad penderfyniad i'r ymchwiliad hwn oedd hynny.

    Ychwanega y bydd yr ymchwiliad yma - ymchwiliad y DU - yn gwneud ei orau i ymchwilio'n drylwyr i'r hyn ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod y pandemig.

  15. Y gwrandawiad wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Mae'r gwrandawiad yng Nghaerdydd wedi dechrau ar ôl oedi o ryw chwarter awr.

  16. Ffocws y dystiolaethwedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Owain Clarke
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Bydd tystiolaeth gan deuluoedd a gollodd anwyliaid yng Nghymru yn rhan ganolog o'r ymchwiliad yn ystod y dyddiau cyntaf y gwrandawiadau yng Nghaerdydd.

    Mae 'na dros 12,500 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru yn gysylltiedig â'r feirws.

    Ond fe effeithiodd y pandemig mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar fywydau pob un ohonon ni.

    Cofiwch am y cyfnodau clo, a phobl yn cael eu gorfodi i aros adre, a methu gweld eu teuluoedd na'u ffrindiau.

    Y gweithwyr iechyd a gofal 'na oedd yn gweithio ddydd a nos ac yn wynebu risg sylweddol o wneud hynny yn yr ymdrech i achub bywydau.

    Y plant a gollodd fisoedd lawer ac addysg werthfawr. A'r busnesau hynny wnaeth ddioddef oherwydd y cyfyngiadau.

  17. Teuluoedd yn cyrraeddwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Mae rhai o'r teuluoedd a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig wedi cyrraedd y lleoliad yn nwyrain Caerdydd lle mae ymchwiliad Covid-19 yn eistedd.

    Roedd tocynnau ar gael ar gyfer seddi yn yr oriel gyhoeddus ac mae pob un wedi'i lenwi.

    Mae mwy yn cyrraedd yn y gobaith o gael sedd yn un o'r ardaloedd sydd wedi'i sefydlu ar gyfer y cyhoedd.

    Mae 'na rywfaint o oedi y bore 'ma ac mae disgwyl i'r gwrandawiad ddechrau yn y munudau nesa'.

    ymchwiliad Covid
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r ymchwiliad yn digwydd mewn gwesty ar gyrion Caerdydd

  18. 'Emosiynol ofnadwy'wedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Roedd Kim Ombler yn rheolwr cartref gofal Glan Rhos, Brynsiencyn yn Ynys Môn yn ystod y pandemig.

    Dywedodd wrth Dros Frecwast y bydd gwrando ar yr ymchwiliad yn "emosiynol ofnadwy".

    "Fe fydd 'na lot o deimlada' yn dod yn ôl o’r adag yna. Bydd emosiwns yn rhedeg yn uchel iawn," meddai.

    "Pan oedd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbytai a dim yn cael eu testio, roedd hynna yn rhywbeth mawr.

    "Ac wedyn oedd yr unigolyn wedyn yn gorfod aros yn ei ystafell am 14 diwrnod a jest staff yn mynd i mewn – dim teulu yn dŵad.

    "Y peth gora' wnaethon ni oedd gneud Facetime i’r teuluoedd a 'da ni’n dal i barhau i 'neud hynna efo pobl sy’n byw i fwrdd.

    "Oedd hwnnw yn adeg cyffrous ac yn heriol i’r staff a’r cleifion a’r bobl yn dod i mewn i gartref newydd ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen. Oedd hwn yn rhywbeth newydd i ni gyd yn y cartref."

    Kim Ombler
  19. 'Colli fy chwaer, 42, yn ystod Covid yn ofnadwy'wedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Disgrifiad,

    Collodd Gwenno Hodson ei chwaer Carys Evans yn ystod y pandemig

    Mae dynes o Ynys Môn wedi disgrifio pa mor anodd, oherwydd cyfyngiadau'r pandemig, oedd methu rhoi mwy o gefnogaeth i'w chwaer yn Sir Fynwy cyn iddi farw o ganser.

    Roedd Carys Evans yn byw ym Mrynbuga gyda'i gŵr a'u dwy ferch fach, ac fe gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn Cam 4 yn ystod haf 2020.

    Bu farw yng Ngorffennaf 2021 yn 42 oed.

    Dywed Gwenno Eyton Hodson bod gwaeledd a marwolaeth ei chwaer ieuengaf yng nghyfnod y pandemig wedi effeithio'n fawr arni hi a gweddill y teulu.

    Mae Gwenno ymhlith y bobl sydd wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad, ac fe fydd ei stori yn cael ei rhannu ar ffurf fideo.

    Darllenwch fwy am y stori yma.