a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    Dyna'r cyfan gan ein criw ar y llif byw am heddiw.

    Diwrnod mawr iawn yn y byd gwleidyddol yn y DU, wrth i'r Prif Weinidog Rishi Sunak gyhoeddi - yn y glaw y tu allan i 10 Downing Street - y dyddiad ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

    Y dyddiad hwnnw, ar gyfer eich dyddiaduron, ydy 4 Gorffennaf.

    Mae chwe wythnos brysur o ymgyrchu wedi dechrau, a bydd modd i chi ddilyn y cyfan ar Cymru Fyw.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.

    Rishi Sunak
  2. Pa seddi fydd y pleidiau’n targedu yng Nghymru?

    Elliw Gwawr

    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Os yw Syr Keir Starmer am wireddu ei obeithion o fod yn brif weinidog, yna fe fydd y canlyniadau yng Nghymru yn holl bwysig iddo.

    Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 fe drodd nifer o seddi Llafur traddodiadol yn las, ond mae'r arolygon barn yn awgrymu y bydd 'na dipyn mwy o goch i'w weld yng Nghymru y tro hwn.

    Gyda nifer yr aelodau seneddol Cymru yn disgyn o 40 i 32, mae ffiniau'r rhan fwyaf o etholaethau wedi newid hefyd, heblaw am Ynys Môn.

    Ond mi fydd Llafur yn gobeithio gallu cipio etholaethau newydd y gogledd-ddwyrain - Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd, Gogledd Clwyd a Wrecsam.

    Mi fydd hi'n frwydr dair ffordd ar Ynys Môn, ond mae'n sedd y bydd Plaid Cymru yn gobeithio ei hennill os ydyn nhw'n cael canlyniad da.

    Yn y de mi fydd hi'n werth cadw llygad ar Ganol a De Sir Benfro, Bro Morgannwg a Sir Fynwy - seddi dau gyn-ysgrifennydd gwladol yn Stephen Crabb ac Alun Cairns, a'r un presennol David TC Davies. Ar noson wael i'r Ceidwadwyr fe allai'r tri fod dan fygythiad.

    Mae gan y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru siawns yn sedd newydd Caerfyrddin, ac mae'n debygol o fod yn fwy diddorol byth os yw'r cyn aelod Plaid Cymru Jonathan Edwards yn penderfynu amddiffyn ei sedd fel ymgeisydd annibynnol.

    Dydi o ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol eto, ond dwi wedi cael awgrym cryf y bydd o'n sefyll. Beth fydd hynny yn ei olygu i bleidlais Plaid Cymru?

    A beth am y Democratiaid Rhyddfrydol? Oes 'na obaith iddyn nhw gael Aelod Seneddol Cymreig unwaith eto?

    Gallwn ddisgwyl gweld lot fawr o felyn yn Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe - cadarnle iddyn nhw yn y gorffennol ac un o'u prif seddi targed y tro hwn. Mae'n werth cadw golwg ar blaid Reform hefyd.

    Dy'n nhw ddim yn debygol o ennill sedd, ond faint o gefnogaeth fydd 'na iddyn nhw, a chefnogaeth pwy fydden nhw'n ei ddwyn?

    Mae 'na rai aelodau Llafur yng nghymoedd y de yn poeni y gallen nhw golli pleidleisiau i'r blaid oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Plaid Brexit.

  3. Pwy sy'n gallu pleidleisio?

    Unrhyw un sydd ar y gofrestr etholiadol, sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, cyn belled â'u bod:

    • Yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu'n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon gyda chyfeiriad yn y DU;
    • Gall holl ddinasyddion y DU sy'n byw dramor gofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth lle roedden nhw'n ar y gofrestr etholiadol;
    • Heb eu heithrio'n gyfreithiol rhag pleidleisio.
    Etholiad
  4. 'Nifer o seddi ymylol Cymru yn rhai gwledig'

    Steffan Messenger

    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae polisi amaeth wedi'i ddatganoli i Fae Caerdydd - ond heb os fe allwn ni ddisgwyl clywed cryn dipyn am ffermio yng Nghymru yn ystod y ras i gipio seddi yn San Steffan.

    Dim ond wythnos ddiwethaf oedd hi pan oedd Llywodraeth Cymru'n ceisio diffodd fflamau'r protestio diweddar gan ffermwyr - gan gyhoeddi oedi i'w chynlluniau i weddnewid cymorthdaliadau’r diwydiant.

    Mae Rishi Sunak wedi bachu ar bob cyfle i ladd ar y sefyllfa yng Nghymru, a Llafur ar lefel Brydeinig wedi dweud hefyd nad oes bwriad ganddyn nhw gyflwyno mesurau fel y rheol 10% coed dadleuol yn Lloegr.

    Ond wrth gwrs mae eraill yn gweld y cynlluniau fel rhai hynod flaengar o ran yr amgylchedd.

    Cofiwch fod nifer o seddi ymylol yma yng Nghymru yn rhai gwledig - a hyn yn siŵr o godi ar y stepen drws.

  5. Angen 'sgyrsiau aeddfed' wrth edrych tua'r dyfodol

    Yn trafod blaenoriaethau aelodau corff busnes y CBI yn yr etholiad yma, dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr CBI Cymru: “Ar hyn o bryd, mae gormod o fusnesau a chartrefi yn dal i wynebu costau cynyddol sy'n gohirio penderfyniadau buddsoddi ac yn lleihau gwariant defnyddwyr.

    “Mae ein haelodau eisiau gweld gwleidyddion yn cael sgyrsiau aeddfed am sut rydym yn meithrin y buddsoddiad sydd ei angen i gael marchnad lafur sy’n darparu safonau byw uwch, i gyflymu ein trawsnewid i sero net a gwneud y Deyrnas Unedig yn le deniadol i redeg a thyfu busnes."

  6. 'Cyfle am lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4'

    Dywedodd llefarydd y blaid Lafur am Gymru, Jo Stevens: “Mae Llafur yn barod - yn barod i dynnu sylw at 14 mlynedd o fethiant y Ceidwadwyr, a’r ffyrdd y maen nhw wedi dal Cymru yn ôl.

    “Byddwn yn dadlau ar garreg y drws ledled Cymru y gall plaid Lafur newydd Keir Starmer gyflawni’r degawd o adnewyddiad cenedlaethol sydd ei angen ar y Deyrnas Unedig.

    “Mae gennym ni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gyflwyno llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4, gan gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol ym mywydau pob dydd pobl.

    "Mae’n amser am newid.”

    Jo Stevens
  7. Beth oedd canlyniadau'r etholiad diwethaf?

    Mae'n werth cadw mewn cof beth oedd y tirlun gwleidyddol yng Nghymru ar ôl yr etholiad diwethaf yn 2019, gyda thair plaid yn rhannu'r 40 sedd.

    Llafur - 22 Sedd

    632,035 o bleidleisiau (40.9%)

    Ceidwadwyr - 14 Sedd

    557,234 o bleidleisiau (36.1%)

    Plaid Cymru - 4 Sedd

    153,265 o bleidleisiau (9.9%)

    Democratiaid Rhyddfrydol - 0 Sedd

    92,171 o bleidleisiau (6.0%)

    Map
  8. Galw am 'ddangos parch' yn ystod yr ymgyrch

    Yn ei ymateb ef i gyhoeddiad y Prif Weinidog, mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn annog pobl i ddangos parch a moesgarwch yn ystod yr ymgyrch.

    Mae hefyd yn annog pobl i bleidleisio ac yn galw am gofio am y bobl dlotaf a’r rhai sydd fwyaf ar y cyrion.

    "Byddwn yn galw ar wleidyddion, sylwebyddion a'r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses mewn ysbryd o barch a gwareidd-dra ac i gydnabod, beth bynnag yw ein safbwyntiau gwleidyddol, ein bod i gyd yn rhannu'r un nod o hyrwyddo lles cyffredin a chreu cymdeithas well," meddai.

    Andrew John
  9. Costau byw am fod yn bwnc trafod pwysig

    Huw Thomas

    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    Mae’r hinsawdd economaidd wedi gwella ychydig i aelwydydd hefyd, gyda chyfradd chwyddiant yn gostwng i 2.3% ac felly yn agosach at darged Banc Lloegr o 2%.

    Ond dyw’r ffaith bod chwyddiant yn gostwng ddim yn golygu bod prisiau yn gostwng, ac mae pobl yn dal i ymdopi â’r cynnydd sydyn mewn costau byw a ddechreuodd yn 2021.

    Bydd Rishi Sunak yn gobeithio y bydd Banc Lloegr yn torri cyfraddau llog ym mis Mehefin yn sgil patrwm y gyfradd chwyddiant, ond mae’r marchnadoedd rhyngwladol wedi tawelu’r disgwyl i hynny ddigwydd fan bod ffigwr chwyddiant heddiw dal ychydig yn uwch na’r hyn roedd economegwyr yn ei ddisgwyl.

  10. 'Ochr draw i Glawdd Offa y bydd y frwydr go iawn'

    Vaughan Roderick

    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mewn erthygl arbennig i BBC Cymru Fyw mae Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, yn ein hatgoffa "ac eithrio trigolion Ynys Môn fe fyddwn ni gyd yn pleidleisio mewn etholaethau newydd sbon."

    Ond mae Vaughan hefyd yn awgrymu mai rhan ymylol fydd gan Gymru i'w chwarae yng nghanlyniad yr etholiad.

    "Fe fydd arweinwyr y pleidiau Prydeinig yn ymweld â Chymru ac fe fydd maniffestos Cymreig yn cael eu cyhoeddi.

    "Serch hynny mae'n amhosib osgoi'r casgliad mai ar yr ochr draw i Glawdd Offa y bydd y frwydr go iawn."

    etholaethau
    Image caption: Etholaethau Cymru ar eu newydd wedd
  11. Etholiad yn ystod gwyliau ysgol yn 'dangos dirmyg tuag at Yr Alban'

    Mae Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, yn croesawu’r newyddion am yr etholiad cyffredinol: “Mae’n gyfle i’w groesawu i gael gwared ar y llywodraeth Dorïaidd ac i roi’r Alban yn gyntaf.”

    Ond ychwanegodd: “Efallai mai dyma’r weithred ddiweddaraf o ddiffyg parch gan lywodraeth Geidwadol, i alw etholiad yn ystod gwyliau haf ysgolion Yr Alban.

    “Fe fydd yna ysgolion yn Yr Alban ar wyliau erbyn i’r diwrnod pleidleisio ddod ac ni fydd cynllunwyr etholiad y Torïaid wedi rhoi eiliad o feddwl i hynny.

    "Mae'n dangos y dirmyg sydd gan y Torïaid tuag at Yr Alban."

    Swinney
  12. GIG Cymru'n siŵr o fod yn bwnc llosg

    Owain Clarke

    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Er bod iechyd yng Nghymru wedi'i ddatganoli, a bydd pwy bynnag sy'n fuddugol yn yr etholiad cyffredinol ddim yn rhedeg y gwasanaeth iechyd fan hyn, mae'n siŵr y bydd cyflwr a pherfformiad y gwasanaeth yng Nghymru yn bwnc llosg yn ystod yr ymgyrch.

    Heb os, ar rai mesurau mae'r gwasanaeth yng Nghymru yn perfformio'n waeth o gymharu â'r ochr draw i Glawdd Offa.

    Cymerwch y niferoedd sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth - y ffigwr yw 22,980 yng Nghymru, ond dim ond 252 yn Lloegr.

    Felly mae'n debygol y bydd y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol am ddefnyddio ystadegau fel hyn i ymosod ar record y blaid Lafur.

    Ond mae'n debygol hefyd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru am daro nôl gan sôn am fesurau eraill sy'n awgrymu fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn perfformio cystal, os nad gwell, nag yn Lloegr.

    Mae perfformiad unedau brys mawr yng Nghymru, yn erbyn y targed aros pedair awr, wedi bod yn well yng Nghymru nag yn Lloegr am 15 o'r 18 mis diwethaf.

    Fe fyddan nhw'n dadlau hefyd fod gwariant ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn mynd i gynyddu 4% yn ystod y flwyddyn hon o gymharu ag 1% yn Lloegr.

  13. 'Rishi Sunak yn gwneud yn dda'

    Post Prynhawn

    BBC Radio Cymru

    Yn siarad ar raglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd y cynghorydd Ceidwadol Aled Thomas fod cyhoeddiad Rishi Sunak yn un "annisgwyl".

    Wrth gael ei holi gan Dylan Jones am y ffaith bod y Ceidwadwyr wedi bod mewn grym am dros ddegawd, ychwanegodd bod yn deall rhwystredigaeth y cyhoedd ond bod hi’n bwysig cymharu’r sefyllfa wleidyddol yma yng Nghymru.

    “Mae 14 mlynedd yn amser hir – wrth gwrs, dyw e ddim mor hir â 25 mlynedd o Lafur yn Senedd Cymru", meddai'r Cynghorydd Thomas.

    “Mae Rishi Sunak wedi gwneud yn dda.

    "Mae Liz Saville Roberts yn sôn am yr economi - wrth gwrs, ni wedi cael y newyddion nawr bod ni lan 0.6% a bod hwnna lot yn well nag ro’dd bobl yn feddwl.

    "Mae pethau yn mynd y ffordd iawn, yn enwedig am brisiau bwyd.”

  14. Y Teulu Brenhinol yn gohirio ymrwymiadau

    Yn ôl ffynhonnell yn y Palas, fe wnaeth y prif weinidog gyfarfod â’r Brenin yn gynharach y prynhawn 'ma am tua 15 munud.

    Digwyddodd ar yr un diwrnod â gwrandawiad arferol y prif weinidog ym Mhalas Buckingham, bob dydd Mercher.

    Dywedodd llefarydd ar ran y Palas: “Yn dilyn datganiad y prif weinidog y prynhawn yma yn galw etholiad cyffredinol, bydd y Teulu Brenhinol - yn unol â’r drefn arferol - yn gohirio ymrwymiadau a allai ymddangos fel pe baent yn dargyfeirio sylw neu’n tynnu sylw oddi wrth yr ymgyrch etholiadol.

    “Mae eu mawrhydi yn anfon eu hymddiheuriadau diffuant at unrhyw un o’r rhai a allai gael eu heffeithio o ganlyniad.”

    Charles
    Image caption: Cyfarfu’r prif weinidog â’r Brenin yn gynharach y prynhawn yma am tua 15 munud
  15. Addysg yng Nghymru yn debygol o fod yn darged

    Bethan Lewis

    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Dros y misoedd diwethaf mae’r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd a San Steffan wedi sôn am record addysg Llafur Cymru bron mor aml â rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd.

    Er bod polisi addysg wedi’i ddatganoli, mae wedi dod yn rhan o’r gwrthdaro gwleidyddol yn San Steffan a hynny’n debygol o ddwysau yn yr ymgyrch etholiadol.

    Fe ddaeth Cymru’n is nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yng nghanlyniadau diweddaraf profion rhyngwladol mathemateg, darllen a gwyddoniaeth (PISA) i ddisgyblion 15 oed.

    A phan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ddiwedd 2023 roedd y bwlch gyda gweddill y Deyrnas Unedig yn fwy nag erioed o’r blaen.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru roedd y sefyllfa’n gwella cyn y pandemig, ond fe allwn ni ddisgwyl ffraeo dros ba blaid ddylai’r etholwyr ymddiried ynddyn nhw i hybu safonau addysg a chyfleoedd plant a phobl ifanc.

    Mae addysg uwch hefyd wedi’i ddatganoli ond mae polisi Llywodraeth y DU yn cael effaith mawr ar brifysgolion yma.

    Mae ffrae am sut mae rheolau’r DU ar fewnfudo yn effeithio ar niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, ac felly ariannu prifysgolion Cymru, yn enghraifft ddiweddar.

    A wedyn dyna bleidlais myfyrwyr – grŵp sydd wedi ei dargedu mewn etholiadau blaenorol gan bleidiau’n cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, a sy’n debygol o gael dylanwad mewn rhai trefi a dinasoedd prifysgol.

  16. Yr ymateb yng Nghaerdydd

    Pobl ar y stryd yng Nghaerdydd sy'n ymateb yn dilyn y cyhoeddiad y bydd etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

    "Mae'n bryd i gael newid, dwi'n meddwl," meddai un, tra bod un arall yn dweud ei bod hi'n amser cael etholiad.

    Video content

    Video caption: Mae pobl yng Nghaerdydd yn ymateb i'r newydd o etholiad cyffredinol yn mis Gorffenaf
  17. Liz Saville Roberts: 'Pobl yn ysu am newid'

    Post Prynhawn

    BBC Radio Cymru

    Hefyd yn cyfrannu ar y Post Prynhawn oedd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

    Yn dilyn cyhoeddiad Rishi Sunak, dywedodd bod pobl yn "ysu am newid".

    “Hir yw pob aros. Mae'n rhaid dweud mod i’n bersonol yn hynod falch bod ni wedi cael y newyddion hyn," meddai.

    “Mae pobl yn ysu am newid. 'Dw i’n teimlo’n bersonol ein bod wedi bod yn aros mewn limbo am y cyhoeddiad yma.

    “Yr hyn ma’ nhw [y cyhoedd] yn gweld, o ran y polisïau, fedrwch chi bron ddim rhoi papur rhwng polisïau Llafur a’r Ceidwadwyr.

    "Maen nhw hefyd yn gwybod yn iawn yng Nghymru fod y Ceidwadwyr wedi chwalu’r economi a maen nhw’n gwybod hefyd bod Llafur yn cymryd Cymru yn ganiataol.

    "Felly, mae Plaid Cymru rŵan hyn, yr un mor allweddol ag erioed.”

    LSR
  18. Beth yw blaenoriaethau'r byd busnes?

    Huw Thomas

    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    Sicrwydd a sefydlogrwydd yw’r hyn mae busnesau fel arfer yn gobeithio cael gan y llywodraeth, ac maen nhw’n dueddol o osgoi’r byd gwleidyddol ar y cyfan.

    Ond mae penderfyniadau yn San Steffan yn cael effaith ar ystod eang o fyd busnes - o’r trethi sy’n cael eu talu, i’r rheolau sydd ynghlwm â mewnforio ac allforio nwyddau.

    Gweinidogion y DU sy’n gyfrifol am gefnogi, ac weithiau ariannu, datblygiadau isadeiledd mawr a’r datblygiadau yn y diwydiannau dur, niwclear ac ynni gwynt.

    Mae busnesau wedi ymdopi â chostau ynni uchel a’r cynnydd cyffredinol mewn prisiau.

    Felly, fe fyddan nhw am weld ymrwymiadau ynglŷn â sefydlogrwydd economaidd ac, mewn rhai achosion, cymorth ychwanegol i ymdopi â’r costau uchel o redeg busnes.

  19. Keir Starmer yn addo 'sicrhau dyfodol gwell'

    Wrth ymateb, dywedodd Syr Keir Starmer mai "dyma’r amser i newid cymunedau a’r wlad", ac mae’n galw’r ymgyrch etholiadol hon yn "gyfle i sicrhau dyfodol gwell".

    Dywedodd bod y blaid Lafur wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gofyn am gyfle i wneud yr un peth i'r wlad.

    Mae'n addo gwrthdroi pethau fel carthffosiaeth yn cael ei bwmpio i afonydd, pobl yn aros am driniaeth mewn adrannau brys, a’r duedd o gynnydd mewn morgeisi a phrisiau bwyd.

    "Mae'r dyfodol yn eich dwylo chi," meddai'r arweinydd Llafur.

    “Ar 4 Gorffennaf, mae gennych chi ddewis.

    “Gyda’n gilydd gallwn atal yr anhrefn, troi’r dudalen, a gallwn ddechrau ailadeiladu Prydain a newid ein gwlad.”

    Starmer
  20. 'Record Llafur yng Nghymru yn sefyll fel rhybudd'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Yn ymateb i gyhoeddi Rishi Sunak dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae Keir Starmer yn dweud mai Cymru yw ei las-brint am lywodraeth, a tra bod y Ceidwadwyr yn cyflawni dros Gymru, mae record Llafur yng Nghymru yn sefyll fel rhybudd i weddill y Deyrnas Unedig.

    "Mae gennym brif weinidog Llafur yng nghanol dadl am gymryd arian budur, terfyn cyflymder 20mya sydd wedi'i ysgogi oherwydd ideoleg, a chynlluniau i wario £120m ar 36 gwleidydd ychwanegol.

    "Diolch i Lafur, mae gan Gymru'r rhestrau aros hiraf ym Mhrydain, y gyflogaeth isaf ym Mhrydain, a'r safonau addysg gwaethaf ym Mhrydain.

    "Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cymryd y neges i'r wlad bod ein cynllun economaidd yn gweithio, ac oherwydd bod yn Llafur methu rhedeg Cymru, ni allwn ni ymddiried ynddynt i redeg y Deyrnas Unedig."

    Andrew RT Davies