Crynodeb

  • Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak yn cyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf

  • Gallwch wrando nôl ar raglen arbennig Post Prynhawn BBC Radio Cymru trwy glicio ar yr eicon uchod

  1. Sunak yn 'defnyddio’r un tric oedd ar gael iddo - syrpréis'wedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Post Prynhawn
    BBC Radio Cymru

    Yn siarad ar Post Prynhawn BBC Radio Cymru dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Guto Harri, a fuodd yn bennaeth cyfathrebu i’r cyn-Brif Weinidog Boris Johnson, fod cyhoeddiad y Prif Weinidog yn "syrpréis i ni gyd".

    "Mae wedi llwyddo i ddefnyddio’r un tric oedd ar gael iddo fe, sef syrpréis - a mae wedi bod yn syrpréis i ni gyd mwy neu lai," meddai.

    “Fydd pobl efallai’n meddwl bod ‘na fwy o asgwrn cefn i’r dyn yma nag o’n ni’n tybio.

    "Mae’n sicr yn rhoi rhyw fath o ddechreuad da i’r Ceidwadwyr.

    “Pam bod e wedi dewis nawr? Rydw i’n credu bod etholiad mis Gorffennaf yn fwy deniadol i’r mwyafrif o bobl na etholiad jest cyn ‘Dolig.”

    Guto HarriFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Democratiaid Rhyddfrydol yn beirniadu 'blynyddoedd o anhrefn'wedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Ymatebodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae’n hen bryd i’r cyhoedd gael dweud eu dweud ynghylch pwy sy’n rhedeg y wlad, ar ôl blynyddoedd o anhrefn.

    "Dyma gyfle i'r etholwyr anfon neges i San Steffan a Bae Caerdydd eu bod am weld newid ystyrlon.

    "Peidiwch â gwneud unrhyw gamgymeriad, nid yw'r Ceidwadwyr na Llafur yn cynnig dim byd gwahanol i'r sefyllfa bresennol.

    "Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol bob amser wedi bod â hanes balch o sefyll dros fuddiannau pobl yma yng Nghymru, ac ni fydd hyn yn newid."

    Jane Dodds
  3. Llwyddiant Euros Lloegr i roi hwb i Sunak?wedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Yn siarad ar Post Prynhawn, BBC Radio Cymru

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Roedd 'na ddisgwyl y byddai’r etholiad cyffredinol yn cael ei alw ar gyfer yr hydref, neu yn wir i mewn i’r gaeaf.

    Ond mae rhai yn awgrymu [taw] hwn yw'r cyfle gorau gan Rishi Sunak i alw etholiad cyffredinol tra bod e yn y sefyllfa gorau posib.

    Mae chwyddiant, er enghraifft, wedi cwympo eto heddiw i 2.3%, ar ei isaf ers Medi 2021.

    Mae 'na bryder o bosib petai yn aros yn hirach, mi allai pethau mynd yn ôl yn economaidd.

    Wedyn pwy a ŵyr, efallai yn wir ei fod yn gobeithio hefyd gallu manteisio ar unrhyw lwyddiant y bydd tîm pêl-droed Lloegr yn ei gael yn ystod pencampwriaeth yr Euros yn yr wythnosau i ddod.

    Dyna’r math o beth mae arweinwyr gwleidyddol yn ystyried hefyd.

    Wedi dweud hynny i gyd, allwch chi ddim dianc o'r arolygon barn, sydd yn dal i awgrymu bydd hwn yn etholiad caled iawn i'r Ceidwadwyr a Rishi Sunak.

    SouthgateFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Allai llwyddiant i dîm Gareth Southgate yn Euro 2024 fod yn hwb i Rishi Sunak?

  4. Etholaethau newydd yn golygu 8 aelod yn llai i Gymruwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Bydd yr Etholiad Cyffredinol yma'n gweld Cymru'n gyrru 32 Aelod i San Steffan, yn hytrach na'r 40 sydd wedi bod ym mhob etholiad ers 1997.

    Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau mawr i rai ardaloedd o Gymru, yn enwedig efallai y rhannau mwyaf gwledig o'r wlad.

    Bydd rhai etholaethau yn uno, ac eraill yn diflannu'n llwyr.

    MapiauFfynhonnell y llun, COMISIWN FFINIAU I GYMRU
  5. Plaid Cymru 'yn barod i ymladd am degwch i Gymru'wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Plaid Cymru

    Yn ymateb i’r cyhoeddiad am yr etholiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: “Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn yr etholiad hwn.

    “Rydyn ni’n barod i fynd â’r frwydr hon i bleidiau Llundain i fynnu’r tegwch y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.

    "Mae'r Torïaid wedi chwalu'r economi ac mae pobl yn dal i dalu’r pris. Mae Llafur, ar y llaw arall, yn cymryd Cymru'n ganiataol. Wnaiff dim un o bleidiau Llundain roi Cymru'n gyntaf."

    Mae Plaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n mynnu "bargen ariannu decach" er mwyn buddsoddi yn yr economi, y gwasanaeth iechyd ac ysgolion.

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Sunak: 'Cynllun y llywodraeth yn gweithio'wedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Dywedodd Rishi Sunak bod y pum mlynedd ddiwethaf wedi gweld y wlad yn brwydro trwy'r amseroedd mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd.

    Cyfeiriodd at y pandemig Covid-19 a “rhyfel yn dychwelyd i Ewrop wrth i Vladimir Putin ymosod ar Wcráin” a gafodd effaith ar filiau ynni pobl, meddai.

    "Sefydlogrwydd economaidd yw sylfaen unrhyw lwyddiant," ychwanega.

    Dywedodd bod economi'r DU yn dal i dyfu a chwyddiant wedi dychwelyd i normal, cyfraddau llog wedi dod i lawr a bod "cynllun y llywodraeth yn gweithio".

    Dywedodd Mr Sunak y bydd ef neu Syr Keir Starmer yn brif weinidog ar 5 Gorffennaf, ac mae'n cyhuddo ei wrthwynebydd "o wneud unrhyw beth i sicrhau pŵer".

    Dros yr wythnosau nesaf, mae Mr Sunak yn dweud y bydd yn ymladd am bob pleidlais.

  7. Gething: 'Pobl Cymru yn galw am newid'wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu'r newyddion am etholiad cyffredinol.

    Gyda Vaughan Gething dan bwysau, mae'n siŵr y bydd yn falch o weld y ffocws yn troi tuag at San Steffan dros y misoedd nesaf.

    "Mae Rishi Sunak o’r diwedd wedi dod i’r un casgliad â gweddill y wlad: mae angen Etholiad Cyffredinol nawr," meddai ar X.

    "Mae pobl ar draws Cymru yn galw am newid llywodraeth, rhoi diwedd ar anhrefn Torïaidd a dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio - i Gymru a Phrydain."

    GethingFfynhonnell y llun, Senedd
  8. Rishi Sunak yn cyhoeddi etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennafwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai
    Newydd dorri

    Fel y disgwyl, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4 Gorffennaf.

    SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Y Prif Weinidog ar fin siaradwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Mae lectern wedi cael ei osod y tu allan i 10 Downing Street bellach - arwydd ein bod ni'n nesáu at gyhoeddiad y Prif Weinidog.

    Mae hi'n dal i lawio yn Llundain, ond mae hi i weld yn lleddfu ychydig.

  10. Sut mae llywodraeth yn cael ei ffurfio wedyn?wedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfri, mae'r Brenin yn gofyn i arweinydd y blaid sydd â'r nifer fwyaf o Aelodau Seneddol ddod yn brif weinidog ac i ffurfio llywodraeth.

    Arweinydd y blaid sydd â'r ail nifer uchaf o Aelodau Seneddol sy'n dod yn arweinydd yr wrthblaid.

    Os nad oes unrhyw blaid â mwyafrif o Aelodau Seneddol yn y pen draw - sy'n golygu na all basio deddfwriaeth gyda dim ond ei Haelodau Seneddol ei hun - mae'r canlyniad yn cael ei galw'n Senedd grog.

    Ar y pwynt yma, efallai y bydd y blaid fwyaf yn ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid arall.

    O dan y trefniant yma, mae Aelodau Seneddol o'r ddwy blaid yn gwasanaethu fel gweinidogion y llywodraeth.

    Fel arall, gall ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan lenwi'r holl swyddi gweinidogol gyda'i Haelodau Seneddol ei hun, ond bydd yn dibynnu ar bleidleisiau gan bleidiau eraill i basio unrhyw ddeddfau.

    SeneddFfynhonnell y llun, PA Media
  11. Felly... beth ydy etholiad cyffredinol?wedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Mae'r DU wedi cael ei rhannu'n 650 o ardaloedd, sy'n cael eu galw'n etholaethau.

    Mae pob un yn ethol Aelod Seneddol i gynrychioli ei thrigolion yn Nhŷ'r Cyffredin yn Llundain.

    Ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleiswyr cofrestredig ym mhob etholaeth yn pleidleisio dros ymgeisydd o'i dewis nhw yn eu gorsaf bleidleisio leol.

    Mae rhai pobl yn pleidleisio drwy'r post ymlaen llaw.

    Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn cynrychioli plaid wleidyddol benodol, ond mae rhai yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol. Mewn etholiad cyffredinol, mae gan bob person un bleidlais.

    O dan y system "cyntaf i'r felin", yr ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n dod yn Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal honno.

    San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Glaw yn achosi oedi i'r cyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Y disgwyl oedd y byddai Rishi Sunak yn gwneud y cyhoeddiad y tu allan i rif 10 Downing Street am 17:00.

    Ond mae hi newydd ddechrau tywallt y glaw yn Llundain, felly mae'n debyg y bydd ychydig o oedi cyn y cyhoeddiad.

    Ac os nad ydy Mr Sunak yn awyddus i wneud ei gyhoeddiad dan ymbarél, mae'n debygol mai tu mewn i'r adeilad fydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud bellach.

  13. Sut mae'r Prif Weinidog yn galw etholiad?wedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Mae'r Prif Weinidog yn gofyn yn ffurfiol i'r Brenin "ddiddymu'r Senedd" - y term swyddogol am gau'r Senedd cyn etholiad.

    Fel arfer, mae'r bleidlais yn digwydd 25 diwrnod yn ddiweddarach.

    Adeg diddymu'r Senedd, mae Aelodau Seneddol yn colli eu statws, ac yn gorfod ymgyrchu dros gael eu hail-ethol os ydyn nhw am barhau.

    Mae rhai Aelodau Seneddol yn dewis rhoi'r gorau iddi.

    Mae'r llywodraeth hefyd yn dechrau cyfnod cyn-etholiadol - a oedd yn cael ei alw'n "purdah" - sy'n cyfyngu ar weithgarwch gweinidogol ac adrannol yn ystod yr ymgyrch.

    Brenin a SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Beth mae Sunak wedi’i ddweud – yn gyhoeddus – am etholiad heddiw?wedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Yng nghwestiynau i’r prif weinidog y prynhawn yma, gofynnodd Stephen Flynn o’r SNP yn uniongyrchol i’r prif weinidog a oedd yn bwriadu galw etholiad cyffredinol.

    "Mae dyfalu'n rhemp, felly rwy'n meddwl bod y cyhoedd yn haeddu ateb clir i gwestiwn syml.

    "A yw'r prif weinidog yn bwriadu galw etholiad cyffredinol yn yr haf neu a yw'n ofnus?" gofynnodd Flynn.

    "Bydd etholiad cyffredinol yn ail hanner y flwyddyn hon,” meddai Sunak - ei unig sylwadau cyhoeddus heddiw am bennu dyddiad.

    Mae ail hanner y flwyddyn yn dechrau ar 1 Gorffennaf.

    Stephen FlynnFfynhonnell y llun, Tŷ’r Cyffredin
    Disgrifiad o’r llun,

    Gofynnodd Stephen Flynn o’r SNP yn uniongyrchol i’r prif weinidog a oedd yn bwriadu galw etholiad cyffredinol

  15. Pwy sy'n penderfynu pryd mae etholiad?wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Prif Weinidog y DU sy'n penderfynu, ond nid yw hynny wastad wedi bod yn wir.

    Yn 2011 fe wnaeth deddfwriaeth ddileu pŵer y Prif Weinidog i ddewis dyddiad etholiad, a rhoddwyd rheolaeth i Dŷ'r Cyffredin yn lle hynny.

    O dan y rheolau hynny, dim ond o dan rhai amgylchiadau y gallai etholiad cynnar gael ei alw - er enghraifft, pe bai dwy ran o dair o Aelodau Seneddol yn cytuno.

    Er hynny, ar ôl ennill etholiad 2019, cyflwynodd y Ceidwadwyr Ddeddf Diddymu a Galw Senedd y DU 2022.

    Fe wnaeth hyn adfer pŵer y Prif Weinidog i alw etholiad cyffredinol ar adeg o'u dewis, o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

    SunakFfynhonnell y llun, PA Media
  16. Oedd rhaid cael etholiad cyffredinol nawr?wedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Yr hwyraf y gellir diddymu Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol yw pum mlynedd union ers y diwrnod cyntaf iddyn nhw gwrdd.

    Ar gyfer y Senedd bresennol, y dyddiad hwnnw oedd 17 Rhagfyr 2024.

    Ond mae 25 diwrnod gwaith yn cael ei ganiatáu i baratoi ar gyfer yr etholiad.

    Roedd hynny'n golygu bod yn rhaid cynnal yr etholiad nesaf erbyn 28 Ionawr 2025.

    Felly bydd yr etholiad yn cael ei gynnal rhyw chwe mis cyn y dyddiad hwyraf yr oedd modd ei gynnal.

    BlwchFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Mae ar fin bod yn swyddogol - etholiad cyffredinol yn yr hafwedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 22 Mai

    Prynhawn da a chroeso i'r llif byw!

    Mae Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak ar fin cyhoeddi pryd y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal.

    Mae'r BBC yn deall mai'r diwrnod mawr felly, i chi ei roi yn y calendr, ydy 4 Gorffennaf.

    Mae disgwyl cadarnhad swyddogol gan Mr Sunak am 17:00.

    Arhoswch gyda ni ar y llif byw am yr holl ymateb i'r cyhoeddiad.

    SunakFfynhonnell y llun, PA Media