Crynodeb

  • Ffigyrau blaenllaw o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi mynd benben mewn dadl deledu cyn yr etholiad cyffredinol

  • Roedd y ddadl yn fyw ar BBC One Wales rhwng 19:00 a 20:00 nos Wener

  • Y newyddiadurwr a chyflwynydd Bethan Rhys Roberts fu'n llywio'r ddadl

  • Mae'r etholiad ymhen llai na phythefnos, ar 4 Gorffennaf

  1. 'Reform yw'r blaid Lafur newydd'wedi ei gyhoeddi 19:22 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Oliver Lewis o blaid Reform y cyhuddo'r pleidiau eraill o "whataboutery" - a darllen o frîff.

    Dywedodd fod Margaret Thatcher wedi gwneud camgymeriad trwy breifateiddio gwasanaethau, a bod angen dod â nhw yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus.

    "Mae preifateiddio gwasanaethau wedi bod yn drychineb," meddai.

    Mae Mr Lewis yn cael ei holi am gynlluniau Reform i dorri biliynau o'r bil lles, a phwy yng Nghymru fydd ddim yn cael budd-daliadau o dan y blaid.

    Gwadodd y byddai'r blaid yn torri lles, gan ddweud mai "ni yw'r blaid Lafur newydd mewn gwirionedd" - sylw a ddenodd cryn dipyn o chwerthin gan y gynulleidfa.

    Lewis
  2. 'Gwneud teuluoedd yn dlotach'wedi ei gyhoeddi 19:17 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae bwyd a thanwydd wedi cynyddu 25% yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

    "Darllenais yn rhywle os ydych yn gwneud sbageti Bolognese nawr mae'n costio £2 yn fwy nag yr oedd dwy flynedd yn ôl."

    Mae hi'n herio'r Ceidwadwyr a Llafur i "ddiddymu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, oherwydd mae hynny'n gwneud teuluoedd yn dlotach".

    Jane Dodds
  3. 'Y DU yn dal i dalu'r pris am gyfnod Liz Truss'wedi ei gyhoeddi 19:15 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Prif Weinidog Cymru, ac arweinydd Llafur Cymru, Vaughan Gething yn dweud bod angen llywodraeth Lafur ar y DU i wella'r economi, gan fod pobl yn dal i deimlo effaith cyfnod Liz Truss fel prif weinidog.

    "Fe wnaeth cyllideb fechan Liz Truss gynyddu cost morgeisi yn barhaol ar draws y wlad ac rydym yn dal i dalu'r pris am hynny nawr," meddai.

    Mae'n dweud y bydd cynllun Llafur i "fuddsoddi'n drwm" mewn ynni gwyrdd - "ynni'r dyfodol" - yn darparu swyddi.

    "Nid yn unig ynni glân sy'n dda i'r blaned, ond yn dda ar gyfer swyddi, a bydd yn golygu nad ydym yn agored i unbeniaid tramor fel Putin am ein cyflenwad ynni."

    Gething
  4. 'Argyfwng costau byw'wedi ei gyhoeddi 19:11 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Daw’r cwestiwn cyntaf gan Anne Reardon-James, sy’n gofyn: “Gyda phrisiau a biliau’n cynyddu, beth fyddwch chi’n ei wneud i helpu pobl yn yr argyfwng costau byw hwn?”

    Y gwleidydd cyntaf i’w ateb yw David TC Davies, y Ceidwadwyr ac Ysgrifennydd Cymru, sy’n beio’r argyfwng ar y rhyfel yn Wcráin.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth y DU wedi "dod â chwyddiant i lawr i 2%" gyda'r "twf cyflymaf ar y cyd yn y G7".

    "Roedd dod â chwyddiant i lawr yn golygu gwneud penderfyniadau anodd dros wariant a benthyca," meddai.

    David TC Davies
  5. Y rhaglen wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 19:01 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Bethan Rhys Roberts a'r gwleidyddion yn eu lle yn barod i ddechrau.

    Mae modd i chi wylio'n fyw ar BBC One Wales neu ar iPlayer.

    Ond wrth gwrs, mae modd i chi ddilyn y cyfan ar ein llif byw ni hefyd!

    Dadl
  6. Beth yw addewidion y pleidiau a phwy sy'n sefyll y fy ardal i?wedi ei gyhoeddi 18:56 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae'r prif bleidiau wedi cyhoeddi eu haddewidion ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

    Ddim yn siŵr pa ffordd i bleidleisio? Mae’r canllaw yma yn cynnig crynodeb o safbwyntiau'r pleidiau ar y pynciau sydd bwysicaf i'r cyhoedd.

    Os nad ydych chi'n siŵr pwy sy'n sefyll yn eich ardal chi, mae'r wybodaeth hynny ar gael yma.

    Etholiad
  7. Pam mai'r pum plaid yma sy'n cymryd rhan?wedi ei gyhoeddi 18:47 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Efallai eich bod yn pendroni sut 'dyn ni'n yn penderfynu pa bleidiau sy'n cael eu cynrychioli mewn dadleuon.

    Mae’r pleidiau wedi’u gwahodd i gymryd rhan yn unol â chanllawiau etholiad y BBC, yn ogystal â chanllawiau Ofcom – mae’r canllawiau hyn ar gael ar-lein.

    Mae pwy sy'n cyfrannu yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys perfformiad etholiadol yn y gorffennol, dros o leiaf ddau gylch etholiadol, yn ogystal â rhoi sylw dyledus i batrymau cadarn mewn polau piniwn perthnasol.

    Mae hefyd yn ystyried nifer yr etholaethau y mae pob plaid yn cyflwyno ymgeiswyr ynddynt.

    PleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Y gynulleidfa yn eu seddiwedi ei gyhoeddi 18:43 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae'r rhaglen heno yn un fyw, ac mae'r gynulleidfa wedi cymryd eu lle cyn i'r ddadl ddechrau am 19:00.

    Cynulleidfa
  9. 'Dwi wir yn mwynhau'r ymgyrch etholiad yma'wedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Bethan Rhys Roberts
    Cyflwynydd dadl etholiad BBC Cymru

    Dwi wedi cynnal llond llaw o ddadleuon mawr fel hyn cyn etholiad neu refferendwm, ond llwyth o rhai eraill efo bob math o wleidyddion rownd Cymru.

    Maen nhw'n gyfle i'r gwleidyddion ddod wyneb yn wyneb gyda'r etholwyr ac yma yn y stiwdio, maen nhw wir yn llygaid ei gilydd - ac mae hynna'n bwysig mewn ymgyrch.

    Mae 'na lwyth o waith paratoi wedi bod ond mae'n rhaid fi ddweud, dwi byth yn teimlo'n barod.

    Y peth anoddaf ydy cadw trefn a bod 'na ddadl egnïol, ond bod o ddim yn ffars, bod o ddim yn ffrae fawr.

    'Di o ddim fel cyfweliad hir lle mae'n bosib mynd i ddyfnderoedd polisïau, ond gobeithio ar ddiwedd y ddadl yma fydd pobl yn teimlo: "Ia, dwi'n deall rhywfaint yn well rŵan be maen nhw'n ei gynnig."

    Gobeithio byddan nhw'n teimlo bod nhw'n deall mwy ar y polisïau, dod i 'nabod y gwleidyddion 'falle, a bod hwn yn help iddyn nhw benderfynu cyn bwrw eu pleidlais - dyna'r nod.

    Gallwch ddarllen argraffiadau Bethan Rhys Roberts cyn y ddadl yma.

  10. Pwy sy'n cymryd rhan heno?wedi ei gyhoeddi 18:32 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Bydd cynrychiolwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Reform UK yn cymryd rhan yn y ddadl heno.

    • Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fydd yn cynrychioli ei blaid ef;
    • Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething fydd yno ar ran y blaid Lafur;
    • Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds fydd yn cynrychioli ei phlaid hi;
    • Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies fydd cynrychiolydd y Ceidwadwyr;
    • Oliver Lewis, sy'n ymgeisydd ar ran Reform yn yr etholiad, fydd yno ar eu rhan nhw.
    Cyfranwyr
  11. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Noswaith dda, a chroeso i'n llif byw arbennig o ddadl etholiad BBC Cymru.

    Gyda llai na phythefnos i fynd bellach tan y diwrnod pleidleisio, beth fydd gan y pum prif blaid yng Nghymru i'w ddweud er mwyn darbwyllo etholwyr i roi eu pleidlais iddyn nhw?

    Bydd y ddadl yn dechrau am 19:00, ac mae modd ei wylio'n fyw ar BBC One Wales a'r iPlayer.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan!