Crynodeb

  • Y canwr, bardd a chynhyrchydd teledu, Geraint Jarman, wedi marw yn 74 oed

  • Cafodd ei eni yn Ninbych a'i fagu yn Rhuthun yn ei ddyddiau cynnar, cyn symud i Gaerdydd fel plentyn

  • Mae wedi cael ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed" yn y teyrngedau iddo

  1. 'Fo oedd y Cool Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich

    Un fu'n gweithio gyda Geraint Jarman yn ystod ei gyfnod fel rheolwr label Ankst - y label sy'n gyfrifol am ei recordiau fel Y Ceubal Y Crossbar A'r Quango a Brecwast Astronot - yw Cyd-sylfaenydd label Ankst a Phrif Weithredwr PYST Cyf - Alun Llwyd.

    Meddai: "Mae dyled cenedlaethau i Geraint yn anferth.

    "Ymhell o flaen ei amser, fe greodd cyd-destun cyfoes a rhyngwladol i’n iaith a’n diwylliant, a thrawsnewid y celfyddydau yng Nghymru yn gerddorol, llenyddol a gweledol am byth.

    "Ac fe wnaeth hynny gyda gwên, gwyleidd-dra, gofal a chreadigrwydd na welwn ei debyg eto; o Gerddi Alfred St i Fflamau’r Ddraig i Fideo 9. Fo oedd y Cool Cymru. Diolch Ger."

    Fideo 9Ffynhonnell y llun, Fideo 9
  2. O'r archif: 20 mlynedd o Geraint Jarman a’r Cynganeddwyrwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich

    Eitem o archif Newyddion S4C o 1997 yn dathlu 20 mlynedd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.

    Disgrifiad,

    O'r archif: 20 mlynedd o Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr

  3. 'Eicon'wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich

    Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Llyr Gruffydd: "Newyddion trist am golli eicon ac un o ddylanwadau cerddorol mawr y genedl.

    "Gwesty Cymru oedd fy albwm cyntaf erioed ac roedd ei ganeuon dros y degawdau yn drac sain fy mywyd.

    "Roedd ‘clustiau Cymru fach yn clywed reggae ar y radio’! Diolch am bopeth Geraint."

  4. 'Gigiau Jarman yn chwedlonol'wedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich

    Symudodd Geraint Jarman o Ruthun i Gaerdydd pan oedd yn blentyn ac fe gafodd ei ddylanwadu gan rai o gerddorion Riverside.

    Dechreuodd ei yrfa fel bardd a chyfansoddwr yn y 60au.

    Roedd yn aelod o fand Y Bara Menyn yn y 70au cynnar gyda Meic Stevens a Heather Jones, gan recordio caneuon fel Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.

    Disgrifiodd yr hanesydd cerddoriaeth Gari Melville ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, fel "cynnyrch artist oedd am wneud argraff sylweddol ar roc Cymraeg".

    Fe wnaeth Tacsi i'r Tywyllwch, a gafodd ei ryddhau yn 1977, "argraff yr un mor drawiadol".

    "Erbyn hyn roedd gigiau Jarman yn chwedlonol, a nosweithiau gwallgof yn rhannu llwyfan gyda'r Trwynau Coch, Edward H ac eraill yn arferol," meddai Gari Melville.

    Roedd yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau yn 1978 yn cynnwys caneuon fel Ethiopia Newydd, Instant Pundits, Sgip ar Dân, Merch Tŷ Cyngor a Methu Dal y Pwysa.

    Yn ôl Gari Melville, Hen Wlad Fy Nhadau oedd "un o albwms y ganrif, heb os".

    Geraint Jarman
  5. Jarman yn 'gynhwysol cyn bod o’n ffasiynol'wedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich

    Roedd Geraint Jarman yn galluogi pobl o bob math o gefndiroedd i ystyried eu hunain yn Gymry naturiol, yn ôl yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis.

    Wrth roi teyrnged i’r artist y daeth o ar ei draws gyntaf hanner canrif yn ôl wrth drefnu gigs Cymdeithas yr Iaith yn Y Rhyl a Neuadd Llangadog, dywedodd ei fod wedi denu’r cerddorion gorau o Gaerdydd, gyda dylanwadau gwahanol, ond i gyd yn naturiol Gymraeg.

    Geraint Jarman a'i fand
    Disgrifiad o’r llun,

    Geraint Jarman a'i fand ar raglen Twndish BBC Cymru yn 1977

    Meddai: “Bu Geraint Jarman yn cyfrannu gwahanol ddulliau cerddorol, yn apelio at ieuenctid mewn mannau mor wahanol â'r Rhyl a Sir Gâr wledig, barddoniaeth a cherddoriaeth, yn apelio at fynychwyr gigs ac at Bryn Terfel!

    “Er mai dychan oedd wrth wraidd y gân, fo oedd 'gobaith mawr' cerddoriaeth flaengar Gymraeg.

    “Yn bell cyn i'r gair 'cynhwysol' ddod yn ffasiynol, bu Geraint yn role-model oedd yn caniatáu i lu o bobl o gefndiroedd newydd ystyried eu hunain yn Gymry naturiol. Diolch am bopeth Geraint.”

  6. 'Cyfraniad enfawr i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich

    Yn 2017 enillodd Jarman wobr Cyfraniad Arbennig gan y Selar.

    Mae'r wobr yn cael ei rhoi i artist neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg.

    Ar y pryd, dywedodd trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone: "Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr, ac mae'r cyfraniad yn ymestyn i'w bumed degawd bellach gyda rhyddhau'r ardderchog 'Tawel yw'r Tymor' ar label Ankst."

    Emyr Glyn Williams o label Ankst gyda Geraint Jarman
    Disgrifiad o’r llun,

    Y diweddar Emyr Glyn Williams o label Ankst gyda Geraint Jarman

  7. 'Un o’r mwyaf dylanwadol erioed'wedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich

    Yn rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iowerth ei fod "yn syfrdan o glywed am farwolaeth Geraint Jarman".

    Dywedodd ei fod yn "rhan mor fawr o hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru - un o’r mwyaf dylanwadol erioed, heb os".

    "Cefais y pleser o sgwrs fer âg o yn ddiweddar. Bydd ei waddol cerddorol gyda ni am byth. Diolch Geraint."

  8. Gobaith Mawr y Ganrifwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich

    Yn enedigol o Ruthun, cafodd albwm cyntaf Jarman, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976.

    Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a gyda'i fand - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr - gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.

    Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus mae Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i'r Tywyllwch, Methu Dal y Pwysau a Gwesty Cymru.

  9. Geraint Jarman wedi marw yn 74 oedwedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich

    Mae'r canwr, bardd a chynhyrchydd teledu, Geraint Jarman, wedi marw yn 74 oed.

    Bu farw yn sydyn gyda'i deulu.

    Mae ei wraig, Nia a'i ferched Lisa, Hanna a Mared yn gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw ddygymod â'u colled.

    Arhoswch gyda ni wrth i Cymru Fyw grynhoi'r teyrngedau i un o ffigyrau amlycaf cerddoriaeth Gymraeg.