Crynodeb

  • Y canwr, bardd a chynhyrchydd teledu, Geraint Jarman, wedi marw yn 74 oed

  • Cafodd ei eni yn Ninbych a'i fagu yn Rhuthun yn ei ddyddiau cynnar, cyn symud i Gaerdydd fel plentyn

  • Mae wedi cael ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed" yn y teyrngedau iddo

  1. Diolch am ddilyn, a diolch am Jarmanwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich

    Dyma ddiwedd ein llif byw wrth i ni gofio am ddylanwad enfawr y cerddor, bardd a chynhyrchydd teledu Geraint Jarman, wedi ei farwolaeth yn 74 oed.

    "Cawr diwylliannol Cymru", "un o'r mwyaf dylanwadol erioed", "un o’r dylanwadau pwysicaf yn hanes datblygiad canu pop yng Nghymru" - dim ond rhai o'r disgrifiadau ohono fu ar ein llif byw heddiw.

    Mae modd i chi ddarllen yr erthygl sy'n crynhoi'r cyfan yma.

    Diolch am ddilyn, a chydymdeimladau dwysaf gyda'r teulu ar eu colled.

    Geraint Jarman yn chwarae yn Tafwyl yn 2021Ffynhonnell y llun, Ffotonant
    Disgrifiad o’r llun,

    Geraint Jarman yn chwarae yn Tafwyl yn 2021

  2. Rhys Mwyn: Jarman yn 'ddylanwadol efo D fawr'wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich

    Bu'r cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn yn rhoi teyrnged i Geraint Jarman ar raglen Dros Ginio.

    Wrth fesur cyfraniad Jarman dywedodd: “Be ddoth hefo Jarman a’r Cynganeddwyr oedd sain dinesig.

    "Oedd o’n sgwennu am Bute Town, neu strydoedd Pontcanna neu be' bynnag – o bosib Jarman oedd y cynta' i ddod â’r ddinas i mewn i ddiwylliant pop Cymraeg, a hynny’n ofnadwy o bwysig."

    Geraint JarmanFfynhonnell y llun, John Morgan

    Ychwanegodd: “Ddaru o godi’r safon, a pan ti’n edrych ar y corff o waith mae o wedi ei adael, hyd yn oed tan yn ddiweddar iawn pan ti’n meddwl am Cwantwm Dub - yr albwm ddiwethaf - y fersiwn dub o’r album Cariad Cwantwm, wyt ti’n edrych ar ddegawdau o greu a chreu o safon.

    “'Swn i’n deud fy hoff gân Jarman i erioed ydy Ethiopia Newydd. Y caneuon ddaru newid fy mywyd i ydy Rocyrs, Reggae Reggae a Gwesty Cymru – y rhain yn draciau sain pan o’n in tyfu i fyny.

    "Wedyn mae Jarman yn dod i mewn i’r categori yna – wedi cael gymaint o effaith – gymaint o ddylanwad ar gymaint ohonon ni dros gymaint o amser.

    "Pan ’dan i’n sôn am artistiaid dylanwadol mae Jarman yn ddylanwadol efo D fawr. Roedd Jarman wastad efo diddordeb mewn artistiaid newydd.”

    Gyda nifer o ffans ledled y wlad yn dwyn atgofion am “gigs chwedlonol Jarman ar y cyfryngau cymdeithasol", dywedodd Rhys Mwyn: “Mi oedd ganddo fo Tich Gwilym, Neil White – oedd ganddo fo fand o safon rhyngwladol anhygoel.

    "Wnes i erioed weld Jarman yn 'neud gig gwael – doedd hynna jest ddim yn digwydd.”

    Yn ôl i’r cynnwys diweddaraf
  3. Englyn i Geraint Jarman gan Siôn Aled Owenwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich

    Canu Jarman

    Anhygoel gwau mor agos - ein hingoedd

    a’n hangerdd; arddangos

    gwewyr hiraeth, gwae’r aros,

    creu i ni wawr. Crio’r nos.

  4. Mei Gwynedd: 'Diolch am roi cyfleoedd i artistiaid ifanc'wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich

    Er ei fod yn adnabyddus iawn fel cerddor, mae Geraint Jarman hefyd yn cael ei gofio fel un fu’n hyrwyddo artistiaid newydd.

    Fel rhan o dîm Fideo 9 ar S4C rhwng 1988 a 1992 bu’n rhoi llwyfan i fandiau newydd - gan gynnwys Big Leaves yn eu dyddiau cynnar, wnaeth hefyd fynd ar daith gyda Jarman.

    Dywedodd gitarydd Big Leaves Mei Gwynedd, fu hefyd yn chwarae gyda band Geraint Jarman yn ddiweddarach: "Diolch Ger am agor gymaint o ddrysau i ni yn y dyddiau cynner drwy'r holl gyfleoedd gyda Fideo 9.

    “Byswn i, na degau o fandiau ac artistiaid eraill, heb fynd dim pellach na 'stafell gerdd yr ysgol.

    “Diolch i ti hefyd am yr holl ganeuon eiconig, a braint oedd cael rhannu'r llwyfan fel dy gitarydd dros y 10 mlynedd diwethaf.

    "Ond yn gyfan oll, diolch am fod yn ffrind mor annwyl. Nos da Ger.”

    Mei Gwynedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Mei Gwynedd yn chwarae gyda Big Leaves, Sibrydion ac fel gitarydd i fand Geraint Jarman

  5. 'Momentum yw pob dim'wedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich

    Fe gafodd Geraint Jarman ddau gyfnod cynhyrchiol iawn yn creu cerddoriaeth yn ystod ei fywyd.

    Ar ôl rhyddhau sawl albwm ddaeth yn glasuron y Gymraeg rhwng canol yr 1970au a chanol yr 1980au – recordiau fel Gobaith Mawr y Ganrif, Hen Wlad fy Nhadau a Gwesty Cymru – fe ddefnyddiodd ei greadigrwydd i greu rhaglenni teledu.

    Yna rhwng 2011-2020 daeth pum record mewn 10 mlynedd.

    Geraint JarmanFfynhonnell y llun, Ankstmusik

    Dywedodd Geraint Jarman yn 2020: “Tua degawd yn ôl doedd pethau ddim yn rhy wych yn fy mywyd, dipyn o salwch efo cefn gwael, poen parhaol a morphine.

    “Ymhen ychydig flynyddoedd cefais lawdriniaeth ar fy asgwrn cefn ac roedd hynny'n wyrthiol.

    "Er yr oeddwn yn 'sgrifennu cryn dipyn o ganeuon newydd doedd gan Sain ddim diddordeb mewn recordio albwm stiwdio newydd.

    "Aeth hyn yn ei flaen am dipyn tan i Emyr Glyn Williams o Recordiau Ankst a Robin Llywelyn estyn eu cefnogaeth.

    “Heb y ddau yma ni fyddaf wedi medru recordio'r albwm Brecwast Astronot (yn 2011) ac ni fydda'r cyfnod o gigio a rhyddhau recordiau 'di digwydd…

    "Dwi wedi bod yn lwcus fod yr awen wedi dod yn ôl ac wedi aros efo fi. Momentum yw pob dim.”

  6. 'Y dewis amlwg' i ganu llinell gyntaf Dwylo Dros y Môrwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich

    Roedd un o ganeuon eiconig y Gymraeg - Dwylo Dros y Môr - yn dathlu 40 mlynedd ers ei rhyddhau dros y penwythnos, a llais Geraint Jarman sydd i’w glywed gyntaf ar y sengl.

    Dywedodd Dafydd Roberts, fu’n trefnu’r recordiad yn 1985 cyn mynd yn ei flaen i fod yn brif weithredwr cwmni recordiau Sain, nad oedd amheuaeth mai Jarman fyddai’n canu’r llinell gyntaf.

    Meddai: “Mae Geraint wedi cyfrannu gymaint i’n diwylliant cyfoes ni dros y degawdau.

    “Pan oedden ni’n gweithio yn Sain, un o’n prosiectau mwya' ni fel bocs set oedd rhyddhau casgliad Geraint Jarman Atgof fel Angor - 15 albwm a llyfryn swmpus sydd jest yn dangos cymaint yw ei gyfraniad a pha mor gynhyrchiol oedd o.

    Poster Dwylo Dros y MorFfynhonnell y llun, Recordiau Ar Log
    Disgrifiad o’r llun,

    Poster Dwylo Dros y Môr, a gafodd ei rhyddhau ar 1 Mawrth 1985

    “Ac wrth ddathlu 40 mlynedd rhyddhau Dwylo Dros y Môr dros y penwythnos, fel trefnydd, un o’r dewisiadau hawsa' oedd pwy oedd am ganu’r llinell gyntaf.

    "Doedd dim amheuaeth - Geraint Jarman oedd yr un amlwg.

    “Fydd ‘na golled mawr ar ei ôl o, ond diolch byth bydd ei gyfraniad gwerthfawr i’n diwylliant ar gof a chadw am byth.”

  7. 'Dim ond y gorau a wnai'r tro'wedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich

    Mae label recordiau Sain wedi dweud bod Jarman yn "un o gewri adloniant Cymru, ac wedi gosod safon uchel i'r byd cerddorol Cymraeg ers degawdau".

    "Dim ond y gorau a wnai'r tro iddo, o ran y geiriau a'r gerddoriaeth, a daeth a dylanwadau o ddiwylliannau eraill i'r sin heb gyfaddawdu dim ar ei Gymreictod," meddai'r label ar y cyfryngau cymdeithasol.

    "Roedd hi'n fraint fawr i Sain gael cyhoeddi'r fath gasgliad gwych o albyms.

    "Bydd bwlch mawr ar ei ôl, ond bydd ei ganeuon yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru am byth."

    Geraint Jarman yn cael ei urddo i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018
    Disgrifiad o’r llun,

    Geraint Jarman yn cael ei urddo i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018

  8. 'Un o'r unigolion pwysicaf yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes'wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich

    Yn rhoi teyrnged i Jarman ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd cylchgrawn Y Selar eu bod "yn hynod o drist i glywed y newyddion".

    "Does dim amheuaeth bod Geraint yn un o'r unigolion pwysicaf yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac yn eicon.

    "Roedd yn bleser gallu cynnwys cyfweliad arbennig gyda Geraint yn rhifyn Awst 2016, ynghyd â photoshoot gwych gan celf calon.

    "Roedd yn anrhydedd hefyd i ni gyflwyno ein Gwobr Cyfraniad Arbennig iddo yn Chwefror 2017, gan lwyfannu gig anhygoel yn Neuadd Pantycelyn Prifysgol Aberystwyth a sgwrs arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o benwythnos Gwobrau'r Selar."

  9. 'Geraint Jarman a Tich Gwilym wrth ei ochr'wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich

    Yn ôl yr awdur Hefin Wyn, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am gerddoriaeth Gymraeg, roedd Geraint Jarman yn "un o'r cewri cerddorol yn impio arddulliau estronol megis reggae a'u gwneud yn gwbl Gymreig yn ôl ei fyd olwg Cymreig ei hun".

    Ychwanegodd: "Ei ganeuon yn cyfleu profiad dinesig a'r sbectol dywyll yna'n cyfleu dirgelwch y dociau.

    "Dim ond bardd fedrai gyfansoddi caneuon anthemig fel 'Ethiopia Newydd'.

    "A Tich Gwilym wedyn wrth ei ymyl yn bloeddio chwarae 'Hen Wlad Fy Nhadau' ar ei Fender goch nes fod pob dim yn glindarddach. Profiad i'w drysori."

    Tich Gwilym, Geraint Jarman a Keith MurrellFfynhonnell y llun, Wikimedia
    Disgrifiad o’r llun,

    Tich Gwilym, Geraint Jarman a Keith Murrell

  10. 'Aeth y Tacsi i’r Tywyllwch am y tro olaf'wedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich

    'Nôl yn 2023 fe ddywedodd un o drefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau, Ywain Myfyr, wrth Cymru Fyw ei fod yn falch fod yr ŵyl "wedi denu artistiaid Cymreig a rhyngwladol fel Super Furry Animals, Bob Geldof, Cerys Mathews a Geraint Jarman".

    Ac mae'r ŵyl wedi talu teyrnged i'r cerddor ar eu cyfryngau cymdeithasol heddiw.

    "O’r Pinaclau Pop ym Mhontrhydfendigaid efo’r Bara Menyn, nosweithiau gwyllt y Dixieland yn Rhyl i’r Sesiwn Fawr - mae Jarman wedi bod yn drac sain trwy’n ieuenctid i’n henaint.

    "Roedd Jarman yn ‘cool’ pan doedd ‘cool’ ddim yn bod!

    "Diolch am ei gerddoriaeth, ei gyfraniad aruthrol a’i weledigaeth. Aeth y Tacsi i’r Tywyllwch am y tro olaf.

    "Pob cydymdeimlad hefo Nia a’r merched ar yr adeg trist yma."

  11. Geraint Jarman: Cerddoriaeth yn llenwi ‘gwacter’wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich

    Er ei fod yn un o ffigurau amlycaf y sin gerddoriaeth ers degawdau, roedd Geraint Jarman yn disgrifio’i hun fel person swil pan ddechreuodd o ganu – a bod cerddoriaeth wedi llenwi gwacter.

    Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw ar achlysur ei ben-blwydd yn 70, dywedodd: “Pan o'n i'n fy ugeiniau cynnar roeddwn i'n gymeriad swil a chymharol strêt.

    "O'n i wedi bod yn gweithio fel actor efo Cwmni Theatr Cymru a Theatr yr Ymylon ac ar y teledu yn y comedi Glas y Dorlan.

    "Roeddwn hefyd 'di bod yn sgwennu sgriptiau Pobol y Cwm a ballu.

    Islwyn Morris, Geraint Jarman a Stewart Jones yn y gyfres gomedi Glas y Dorlan
    Disgrifiad o’r llun,

    Islwyn Morris, Geraint Jarman a Stewart Jones yn y gyfres gomedi Glas y Dorlan yn 1975

    “Serch hynny roeddwn yn teimlo rhyw wacter ynof, fel petai ryw elfen o fywyd yn gwibio heibio heb i mi gael cyfle i'w flasu.

    "Miwsig newidiodd hyn, ar ôl recordio Gobaith Mawr y Ganrif a Tacsi i'r Tywyllwch dechreuais newid a theimlo'n fwy hyderus, yn ddigon hyderus i ffurfio'r Cynganeddwyr a dechrau gigio a mynd ymlaen i recordio Hen Wlad fy Nhadau a Gwesty Cymru.”

  12. 'Un o gewri'r byd cerddoriaeth Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi teyrnged i Geraint Jarman ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ei ddisgrifio fel "arloeswr ac un o gewri'r byd cerddoriaeth Gymraeg".

    "Cydymdeimlwn â'i deulu a'i gyfeillion yn eu colled.

    "Roedd Geraint yn gefnogol iawn i'r Gymdeithas a bob tro'n barod, ac yn falch iawn, i chwarae mewn gigs i ni, gan weld hynny fel cyfraniad at ein hymgyrchoedd ac fel ffordd o ddod â phobl newydd at ein gwaith a'n hymgyrchoedd.

    "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn iddo am wneud hynny dros gyfnod o sawl degawd."

  13. 'Yn garedig ac yn rhannu ei ddawn'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich

    Mae'r cynhyrchydd a'r cerddor Huw M wedi bod yn ffan enfawr o gerddoriaeth Geraint Jarman ers ei arddegau.

    Blynyddoedd yn ddiweddarach bu'n cynhyrchu rhaglenni gyda Jarman yn cyflwyno i BBC Radio Cymru.

    Dywedodd: "Ges i fy nghyflwyno i gerddoriaeth Geraint Jarman pan oeddwn i yn fy arddegau, ac ers hynny dwi wedi bod yn ffan enfawr.

    "Felly, roedd hi’n fraint i mi, a braint gwirioneddol, i gydweithio efo Geraint ar nifer o gyfresi i Radio Cymru - Geraint yn cyflwyno ac yn dewis y gerddoriaeth.

    "Gafodd hynny ddylanwad mawr arnaf i, a dyna’r math o berson oedd Geraint - yn garedig ac yn rhannu ei ddawn, ei wybodaeth a’i brofiad efo pawb."

    Huw M gyda Geraint Jarman yng Ngŵyl Rhif 6 pan oedd Geraint yn perfformioFfynhonnell y llun, Huw M
    Disgrifiad o’r llun,

    Huw M gyda Geraint Jarman yng Ngŵyl Rhif 6 pan oedd Jarman yn perfformio

    Ychwanegodd: "Doeddech chi methu peidio cael eich dylanwadu ganddo. A’r gwir ydy bod Geraint wedi dylanwadu, nid ar un genhedlaeth yn unig, ond ar genedlaethau o Gymry.

    "Mae Geraint yn un o’r ychydig gerddorion sydd wedi parhau i gyfansoddi a recordio caneuon o’r safon uchaf posib dros gyfnod hir iawn - ac mae ei ganeuon mwyaf diweddar llawn cystal, a llawn cyn bwysiced, â’i albyms cynnar.

    "Diolch amdano, a diolch am ei ddylanwad - rydan ni mor lwcus mai yng Nghymru oedd gwreiddiau Geraint, ac mai Cymraeg oedd iaith ei awen."

  14. 'Dangos beth oedd yn bosib yn Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich

    Mae Huw Jones, cyn-gyfarwyddwr cwmni recordiau Sain, wedi rhoi teyrnged i Geraint Jarman gan ei alw'n "ŵr addfwyn, annwyl" a "chyfaill da".

    "Bardd oedd Geraint yn gyntaf, cyn troi’n gyfansoddwr caneuon ac yna, er syndod i lawer, yn berfformiwr," meddai.

    "A thrwy’r holl arloesi cerddorol, fe ddaliodd ati i greu lluniau geiriol a delweddau cwbl gofiadwy a gwreiddiol.

    "Fe welodd dalent pobl fel Tich Gwilym, Pino Paladino ac Arun Rahmun mewn cylchoedd oedd yn ddieithr i Gymry Cymraeg Caerdydd a’u plethu’n uned ysbrydoledig dan yr enw annhebygol, y Cynganeddwyr.

    Geraint Jarman

    "Ac wedyn gydag un albwm ddisglair ar ôl y llall, fe roddodd i ni Obaith Mawr y Ganrif a dangos i ni Hen Wlad Fy Nhadau ac Ethiopia Newydd ochr yn ochr.

    "Wedi’i hyfforddi fel actor, roedd yn ei elfen ar lwyfan tu ôl i’w sbectol dywyll ond efallai mai yn y stiwdio recordio roedd o yn ei elfen.

    "Yn un o’r rhai cyntaf i roi prawf ar stiwdio newydd Sain ddiwedd y 70au fe ddangosodd beth oedd yn bosib yn Gymraeg pan oedd talent yn cael pen rhyddid.

    "Gŵr addfwyn, annwyl, cyfaill da. Mae’n ddiwrnod trist."

  15. O'r archif: Cerdd Coed Edernwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich

    Geraint Jarman yn darllen un o'i gerddi, Coed Edern.

    Disgrifiad,

    Geraint Jarman yn darllen un o'i gerddi

  16. 'Bardd a cherddor'wedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich

    Astudiodd y bardd Marged Tudur eiriau caneuon Geraint Jarman fel rhan o'i doethuriaeth. Cafodd hefyd y fraint o'i holi am ei ganeuon.

    Dywedodd: "Mae geiriau fel ‘eicon’ ac ‘arloeswr’ yn cael eu defnyddio o hyd heddiw ond heb os, dyna ddau air i ddisgrifio Geraint Jarman. Mae’n amhosib trio dechrau cwmpasu ei waddol.

    "Bardd, cyfansoddwr, cerddor, cynhyrchydd ond eto nid yw’r labeli hynny yn gwneud cyfiawnder ag un o sylfaenwyr y byd roc Cymraeg ac un a arweiniodd y ffordd i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yng Nghymru.

    "Mae geiriau ei gerdd ‘Beirdd Ifanc’ o’r gyfrol Eira Cariad (Llandybie, 1970), yn canu yn fy mhen bore ’ma:

    Ym marddoniaeth caniateir popeth.

    Dim ond gyda’r un amod hwn

    wrth gwrs:

    mae’n rhaid i chwi wella ar y dudalen wag.

    "Wrth gwrs, gwnaeth Geraint Jarman llawer iawn mwy na ‘gwella ar y dudalen wag’. Diolch iddo am gyfraniad amhrisiadwy."

    Marged Tudur yn holi Jarman am ei ganeuon rai blynyddoedd yn ôlFfynhonnell y llun, Barddas
    Disgrifiad o’r llun,

    Marged Tudur yn holi Jarman am ei ganeuon rai blynyddoedd yn ôl

  17. 'Un o’r dylanwadau pwysicaf yn hanes datblygiad canu pop yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich

    Roedd Hywel Gwynfryn yn 'nabod Geraint Jarman ers dros hanner canrif, a'r bore 'ma bu'n rhoi teyrnged i ddoniau'r canwr o Gaerdydd.

    “Mae’n adnabyddiaeth i ohono’n mynd nôl i’r Geraint Jarman ifanc, pan oedd o a Heather Jones a Meic Stevens yn stiwdio Telewele yn y 60au hwyr.

    "Roedd o’n bleser cydweithio efo fo, ac dwi’n teimlo hi’n fraint mod i wedi cael sgwennu caneuon ar ei gyfer o.

    “Mae ei gyfraniad o’n un o gonglfeini cerddoriaeth poblogaidd Cymraeg, ac yn ddarlun o’r Gymru ddinesig oedd o’n ei 'nabod mor dda.

    “Mae un o’i ganeuon mwy diweddar, Brethyn Cartref, yn dangos ei fod o wedi esblygu dros y blynyddoedd, a bod ei apêl yn parhau o hyd.

    “‘Dan ni wedi colli un o’r dylanwadau pwysicaf yn hanes datblygiad canu pop yng Nghymru.”

    Geraint Jarman
  18. O'r archif: Geraint Jarman y barddwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich

    Dyma glip archif o 1976, gyda Geraint Jarman yn trafod ei gyfrol "Cerddi Alfred St" a bod yn fardd.

    Mae'n sôn am ei "gyfnod cyntaf o gyfrifoldeb" pan symudodd i fyw i'r stryd yng Nghaerdydd.

    Disgrifiad,

    Geraint Jarman yn trafod ei gyfrol 'Cerddi Alfred St."

  19. UMCA: 'Colled i'r sin'wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich

    Poster Dawn Ryng-GolFfynhonnell y llun, UMCA
    Disgrifiad o’r llun,

    Poster y Ddawns Ryng-Golegol yn Aberystwyth yn 1980 - gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn cloi'r noson

    Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi talu teyrnged i Geraint Jarman, wnaeth berfformio yn y Ddawns Ryng-Golegol yno yn yr 1980au.

    Gyda'r Gig Eisteddfod Ryng-Golegol wedi digwydd yn y dref dros y penwythnos fe ddywedodd Llywydd UMCA Elain Gwynedd: "Mae gan lawer atgofion melys o Geraint Jarman yn perfformio yn y Ddawns Ryng-golegol yn 1980 a bydd colled mawr ar ei ôl yn enwedig yn y sin gerddoriaeth Gymraeg yma yng Nghymru."

  20. 'Cawr diwylliannol Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich

    Cafodd Gareth Bonello "y fraint o chwarae ar albym Jarman, Brecwast Astronot".

    Fe roddodd deyrnged i'r cerddor ar dudalen Facebook The Gentle Good: "Hynod drist i glywed ein bod wedi colli Geraint.

    "Cawr diwylliannol Cymru, cerddor, bardd a chyfaill annwyl.

    "Braint oedd dod i'w nabod wrth recordio a pherfformio ar ei recordiau diweddar.

    "Cydymdeimladau o waelod fy nghalon i Nia, Lisa, Hanna a Mared. Cwsg mewn hedd Ger."

    Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    I osgoi fideo youtube

    Caniatáu cynnwys YouTube?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    Diwedd fideo youtube