Pwy mae Gwennan Harries eisiau gweld yn olynu Page?

Mae'r cyn-ymosodwr Gwennan Harries yn credu bod Osian Roberts neu Craig Bellamy yn opsiynau posib i fod yn rheolwr newydd ar dîm cenedlaethol dynion Cymru.

Mae Rob Page wedi cael ei ddiswyddo ar ôl tair blynedd a hanner yn y swydd, mewn cyfnod a welodd Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae Roberts newydd ennill dyrchafiad i Serie A gyda Como 1907 yn Yr Eidal, ac mae Bellamy yn rheolwr dros dro ar Burnley yn y Bencampwriaeth ar ôl bod yn is-reolwr i Vincent Kompany cyn iddo adael Turf Moor i fod yn rheolwr newydd Bayern Munich.

Ond ychwanegodd efallai ei bod hi'n amser i'r Gymdeithas Bêl-droed edrych tu hwnt i Gymru.