Rob Page yn gadael ei swydd fel rheolwr Cymru

Rob PageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rob Page arwain Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

  • Cyhoeddwyd

Mae Rob Page wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru.

Roedd y pwysau wedi cynyddu ar Page wedi'r canlyniadau siomedig yn erbyn Slofacia a Gibraltar a'r ffaith bod Cymru wedi methu â chyrraedd Euro 2024.

Fe arwyddodd gytundeb newydd pedair blynedd yn 2022 ar ôl arwain Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Gan ddiolch i Page am ei waith, fe ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad eu bod wedi terfynu ei gytundeb.

Unwaith i gefnogwyr Cymru droi yn ei erbyn, roedd Rob Page yn gwybod fod ei amser ar ben.

Dyw’r Wal Goch ddim fel cefnogwyr clwb. Prin maen nhw’n beirniadu chwaraewyr neu reolwyr Cymru – bron byth mae rhywun yn clywed nhw’n bwio.

Ond dyna’r driniaeth gafodd Page ar ôl i Gymru golli 4-0 yn Slofacia yn gynharach y mis yma – tridiau ar ôl yr embaras o gêm ddi-sgôr yn erbyn Gibraltar.

Wrth wylio a gwrando ar y cefnogwyr yn Trnava ac wedyn wrth gyfweld â Page, roedd e’n teimlo yn anochel y byddai cyn-amddiffynnwr Cymru yn cael ei ddiswyddo.

Dywedodd ei fod yn teimlo’n “isel” wrth gydnabod bod ei ddyfodol allan o’i reolaeth ac, erbyn hyn, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu bod angen newid.

Nid y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia oedd yr unig reswm. Mae perfformiadau Cymru wedi bod yn gwaethygu ers amser maith.

Bydd gan Page wastad le arbennig yn hanes pêl-droed Cymru fel y Cymro cyntaf i arwain ei wlad at Gwpan y Byd am 64 o flynyddoedd.

Ond unwaith i Gymru gyrraedd Qatar, diflannodd y llawenydd wrth i dîm Page fethu ag ennill un gêm. Roedd y perfformiadau yn anobeithiol, a roedd nifer yn beirniadu tactegau’r rheolwr.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yr haf ganlynol gyda cholled 4-2 yn erbyn Armenia yng Nghaerdydd, un o ganlyniadau gwaethaf Cymru erioed.

Er i Page godi ychydig o’r pwysau oedd arno wrth i Gymru guro Croatia 2-1 fis Hydref diwethaf, roedd y methiant i gyrraedd Euro 2024 yn gostus.

Roedd rhai yng Nghymdeithas Bêl-Droed Cymru yn dal i gefnogi Page tan y diwedd ond, yn dilyn dros wythnos o drafodaethau, daethon nhw at y casgliad bod angen newid.

Camodd Page i'r swydd dros dro yn Nhachwedd 2020 i gymryd lle Ryan Giggs - a adawodd y rôl wedi iddo gael ei arestio.

Roedd yn rhan o dîm hyfforddi Giggs cyn cymryd yr awenau gyda'r tîm cenedlaethol - a hynny wedi cyfnodau yn rheoli Northampton Town, Port Vale a thîm dan-21 Cymru.

Fel chwaraewr fe enillodd 41 o gapiau dros ei wlad fel amddiffynnwr canol, gan hefyd gynrychioli clybiau fel Watford, Sheffield United, Caerdydd a Coventry.

Fe wnaeth Page lwyddo i arwain Cymru i rowndiau terfynol Euro 2020, lle gollodd Cymru yn yr 16 olaf.

Fe lwyddodd hefyd i sicrhau lle Cymru ymysg y prif ddetholion yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl llwyddo i gyrraedd Qatar, roedd perfformiadau Cymru yng Nghwpan y Byd yn siomedig

Daeth llwyddiant mawr cyfnod Page fel rheolwr pan lwyddodd i arwain Cymru i Gwpan y Byd Qatar yn 2022.

Golygodd buddugoliaethau yn erbyn Awstria ac Wcrain yn y gemau ailgyfle fod Cymru yn hawlio eu lle ar lwyfan mwya'r byd pêl-droed am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.

Ond siomedig oedd perfformiad Cymru draw yn Qatar - wrth i Gymru fethu ag ennill gêm - ac roedd rhai yn dechrau beirniadu tactegau a phenderfyniadau'r rheolwr.

Roedd ei gytundeb gwreiddiol yn dod i ben ar ddiwedd y gystadleuaeth, ond cyn cicio pêl draw yn Qatar, cafodd gynnig cytundeb pedair blynedd tan 2026.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o isafbwyntiau cyfnod Page oedd colled o 4-2 gartref yn erbyn Armenia

Fe wnaeth Cymru fethu ag ennill gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2023 mewn grŵp anodd oedd yn cynnwys yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl a Gwlad Belg.

Ond fe ddechreuodd y pwysau gynyddu ar Page yn ystod ymgyrch ragbrofol Euro 2024.

Wedi gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Croatia a buddugoliaeth yn erbyn Latfia yng Nghaerdydd, fe gollodd Cymru o 4-2 gartref yn erbyn Armenia - gwlad oedd 71 safle yn is na Chymru yn rhestr detholion y byd.

Roedd sibrydion ar y pryd fod Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney yn ystyried diswyddo'r rheolwr.

Fe darodd Cymru nôl yn yr ymgyrch ragbrofol gan sicrhau eu lle yn y gemau ailgyfle, ond fe gollon nhw ar giciau o'r smotyn yn y rownd derfynol yn erbyn Gwlad Pwyl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gêm gyfartal yn erbyn Gibraltar wedi ei disgrifio fel un o ganlyniadau gwaethaf Cymru erioed

Ar ôl methu a chyrraedd Euro 2024 yn yr Almaen, fe ddywedodd uwch-swyddog Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) y byddai Page yn parhau yn ei swydd.

Ond roedd canlyniadau, sydd wedi eu disgrifio fel "embaras" gan rai, mewn gemau cyfeillgar fis Mehefin yn golygu bod ei ddyfodol fel rheolwr yn y fantol.

Roedd cefnogwyr Gymru yn y ddwy gêm honno yn erbyn Gibraltar a Slofacia wedi beirniadu Page ac wedi gwawdio'r ffaith ei fod wedi disgrifio'r tîm fel un "sy'n trawsnewid".

Dywedodd Page wedi'r golled o 4-0 yn erbyn Slofacia ei fod yn teimlo'n "isel" ar ôl gweld ymateb y dorf, ac y byddai'n gwneud yr hyn sydd "orau i Gymru ac yn symud ymlaen".

'Atgofion anhygoel'

Mewn datganiad fore Gwener, dywedodd Dave Adams, prif swyddog pêl-droed CBDC: "Hoffwn ddiolch i Rob am ei waith gyda'r gymdeithas dros y saith mlynedd diwethaf, yn gyntaf fel prif hyfforddwr y tîm dan-21 ac yna fel rheolwr Cymru.

"Mae gwaith Rob wedi arwain at lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y rownd 16 olaf yn Euro 2020 a chymryd y tîm i Gwpan y Byd 2022.

"Yn ystod ei gyfnod fel rheolwr, fe wnaeth 18 chwaraewr gynrychioli Cymru am y tro gyntaf.

"Wrth edrych tuag at y dyfodol, bydd y profiadau hyn yn cefnogi ein nod i sicrhau bod tîm cenedlaethol y dynion yn cyrraedd pencampwriaethau Euro a Chwpan y Byd yn gyson."

Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr y gymdeithas: "Ar ran fy hun a'r holl gymdeithas, hoffwn estyn ein diolch i Rob Page am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i’w swyddi efo’r timau cenedlaethol.

"O dan arweinyddiaeth Rob Page, mae tîm dynion Cymru wedi dathlu buddugoliaethau arwyddocaol sydd wedi creu nifer o atgofion anhygoel i'n cenedl, yn fwyaf nodedig ein Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 o flynyddoedd.

“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein ‘rhagoriaeth', un o werthoedd CBDC, ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd ar gyfer ein timau cenedlaethol a phêl-droed Cymru."