Pam y gallai biliau dŵr godi yng Nghymru?

Mae'n bosib y gall biliau dŵr godi £94 ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf, yn ôl Ofwat.

Mae pob cwmni dŵr yn creu cynllun pum mlynedd ar gyfer pa wasanaethau y maen nhw'n bwriadu eu cynnig a phris y dŵr i gwsmeriaid.

Er bod y rheoleiddiwr yn gosod terfynau, yn y pendraw y cwmnïau dŵr sy’n penderfynu ar y pris terfynol.

Pam y gallwn ni weld cynnydd yma yng Nghymru felly? Ein gohebydd Ben Price sy'n esbonio.