Gallai biliau dŵr yn Nghymru gynyddu £137 dros 5 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Ofwat wedi cyhoeddi y gallai biliau dŵr ar gyfartaledd godi £94 dros y pum mlynedd nesaf yng Nghymru a Lloegr.
Gyda'r cynnydd blynyddol o £19 ar gyfartaledd - y bwriad yw buddsoddi mewn meysydd sydd angen gwelliannau fel pibau sy'n gollwng.
Bydd yr union gynnydd yn amrywio o ardal i ardal - amcangyfrifir y gall biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru gynyddu £137.
Mae pob cwmni dŵr yn creu cynllun pum mlynedd ar gyfer pa wasanaethau y maen nhw'n bwriadu eu cynnig a phris y dŵr i gwsmeriaid.
Gall cwsmeriaid cwmni Hafren Dyfrdwy ddisgwyl cynnydd o £128 dros y pum mlynedd nesaf.
Er bod y rheoleiddiwr yn gosod terfynau, yn y pen draw y cwmnïau dŵr sy’n penderfynu ar y pris terfynol.
Mae disgwyl y penderfyniad terfynol ym mis Rhagfyr.
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Steve Reed, yn cwrdd â phrif weithredwyr cwmnïau dŵr ddydd Iau i drafod perfformiad a gwelliannau posibl.
Disgrifiodd Prif Weithredwr Ofwat, David Black, y cynllun fel y buddsoddiad mwyaf erioed yn y sector dŵr ac ychwanegodd mai'r nod yw cyflwyno gwelliannau yn y gwasanaeth i gwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd.
Dywedodd hefyd ei fod yn bryderus am faint o fonws y mae prif weithredwyr wedi'i dderbyn.
Bydd y prisiau newydd yn dod i rym o fis Ebrill ymlaen.