Fideo: Dyn yn torri i mewn i gartref nain cyn ei lladd

Mae dyn a lusgodd nain fregus o'i gwely a thorri pob asgwrn yn ei hwyneb wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth.

Fe gafodd Catherine Flynn, 69 oed, anafiadau difrifol yn yr ymosodiad a barodd am bron i funud yn ei chartref yn Y Rhyl, Sir Ddinbych ym mis Hydref 2024.

Fe wrthododd y rheithgor honiadau Dean Mears, 34 oed, bod ei ymddygiad o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl.

Mae'r fideo uchod - gafodd ei recordio ar gamera cloch drws - yn dangos Mears yn cerdded i gartref Ms Flynn ar Ffordd Cefndy yn Y Rhyl, ac yn torri ffenest i fynd mewn i'r adeilad.

Bydd Mears yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad dedfrydu, ond cafodd wybod gan y barnwr y dylai ddisgwyl dedfryd o oes yn y carchar.