Dyn yn euog o lofruddio nain 69 oed yn ei chartref
Cafodd Mears ei recordio ar gamera cloch drws yn torri i mewn i'r tŷ
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae dyn a lusgodd nain fregus o'i gwely a thorri pob asgwrn yn ei hwyneb wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth.
Fe gafodd Catherine Flynn, 69 oed, anafiadau difrifol yn yr ymosodiad a barodd am bron i funud yn ei chartref yn Y Rhyl, Sir Ddinbych ym mis Hydref 2024.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe sathrodd Dean Mears, 34 oed, arni o leiaf 15 gwaith.
Fe wrthododd y rheithgor honiadau Mears bod ei ymddygiad o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl.

Cafodd Catherine Flynn ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef niwed difrifol i'w hwyneb a bu farw'r diwrnod canlynol
Yn ystod achos a barodd naw diwrnod, fe wnaeth Mears gyfaddef ei fod yn gyfrifol am farwolaeth Catherine Flynn ond roedd yn honni nad oedd yn cofio'r digwyddiad.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon sut y gadawodd Mears dŷ cyfagos ar noson 24 Hydref, 2024, ar ôl cymryd y cyffuriau cetamin a chanabis.
Cerddodd i gartref Ms Flynn ar Ffordd Cefndy yn y dref, a thorri ffenest i fynd mewn.
Cafodd y digwyddiad ei recordio ar gamera cloch drws, a wnaeth rybuddio merch Ms Flynn, Natasha.
Yn y fideo mae modd clywed Mears yn gweiddi "ble mae'r allweddi?", tra bod Ms Flynn yn erfyn arno i beidio â'i brifo.

Dywedodd Mears nad oedd yn cofio'r digwyddiad
Mae hefyd modd ei weld yn neidio drwy'r ffenest oedd wedi torri er mwyn dianc.
Ar ôl dychwelyd i gartref ei ffrind, mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn ei ddangos yn cerdded o amgylch y dref yn hanner noeth yn ddiweddarach y noson honno.
Clywodd y llys hefyd gan dystion eraill fod Mears wedi mynd i'w cartrefi nhw, ac ar un achlysur wedi cymryd ffôn symudol gan ddyn arall.
Cafodd Ms Flynn ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef niwed difrifol i'w hwyneb yn yr ymosodiad, a bu farw'r diwrnod canlynol.
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
Dywedodd yr Erlynydd Andrew Jones fod Ms Flynn wedi dioddef o broblemau iechyd a symudedd difrifol, a'i bod yn defnyddio ffrâm i'w helpu i gerdded a sêt i fyny'r grisiau yn ei thŷ.
Dywedodd y patholegydd, Dr Brian Rodgers fod Ms Flynn wedi marw o ganlyniad i anafiadau catastroffig i'w hwyneb.
"Dyma'r math o anafiadau fyddai rhywun yn disgwyl eu gweld mewn gwrthdrawiad ffordd cyflymder uchel," meddai.
Ychwanegodd mai'r unig esboniad oedd bod ei hwyneb wedi cael ei sathru sawl tro.
'Dim esboniad'
Er i Mears gyfaddef cyflawni'r ymosodiad, dywedodd yn ystod yr achos nad oedd ganddo unrhyw gof o'r hyn ddigwyddodd na pham.
"Does gen i ddim esboniad ar gyfer y peth ofnadwy yma yr ydw i wedi ei wneud. Dwi'n derbyn fy mod yn gyfrifol, ond do'n i ddim yn bwriadu brifo neb," meddai.
Roedd ei dîm cyfreithiol wedi dadlau ei fod yn dioddef o PTSD ar ôl cael ei drywanu ddwywaith ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.
Yn 2021, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd am fod a chocên a cetamin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u dosbarthu.
Fe wnaeth seiciatrydd oedd yn rhoi tystiolaeth ar ran yr amddiffyn awgrymu y gallai problemau iechyd meddwl esbonio gweithredoedd Mears - ond gwrthod hynny wnaeth arbenigwr arall.
Ar ôl ystyried am bedair awr, fe wnaeth y rheithgor wrthod y posibilrwydd fod Mears yn euog o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, ac fe'i gafwyd yn euog o lofruddiaeth.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod trosedd Mears yn "wirioneddol erchyll" ac yn "gwbl ddisynnwyr".
Bydd Mears yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad dedfrydu, ond cafodd wybod gan y barnwr y dylai ddisgwyl dedfryd o oes yn y carchar ac y byddai difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y ddedfryd honno.