Dafydd Elis-Thomas yn 'gymeriad unigryw' - Ieuan Wyn Jones
Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn "gymeriad unigryw yng ngwleidyddiaeth Cymru," yn ôl Ieuan Wyn Jones.
Yn siarad cyn y gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf dydd Gwener, dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, a chyn-ddirprwy brif weinidog Cymru, ei fod yn "ddiwrnod i gofio am gyfraniad aruthrol Dafydd Elis-Thomas i Gymru".
"O'dd o'n gymeriad unigryw yng ngwleidyddiaeth Cymru," meddai.
"Beth fyddai'n ei gofio yn bersonol amdano fo ydy fel cyfaill cywir, rhywun o'n i'n edrych i fyny ato fo yn fy nyddiau cynnar fel gwleidydd, wastad yn cael ei farn o a'i farn o bob amser i mi yn ddoeth.
"O'dd o'n berson o argyhoeddiadau cry' iawn a ddim yn fyr iawn o dd'eud hynny.
"Ar hyd ei oes wedi bod yn berson o'dd yn credu mewn pethau'n wirioneddol, ac eisiau gwneud rhywbeth dros Gymru ac nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ond mewn cymaint o wahanol feysydd."