Cannoedd yn angladd y 'cawr gwleidyddol' Dafydd Elis-Thomas

Gwasanaeth Dafydd Elis-ThomasFfynhonnell y llun, Athena
  • Cyhoeddwyd

Mae angladd cyn-arweinydd Plaid Cymru a Llywydd cynta'r Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Roedd cannoedd yn bresennol - yn eu plith y Prif Weinidog a chyn-brif weinidogion y Senedd, aelodau presennol a blaenorol y cabinet, gweision sifil a degau o wleidyddion eraill o bob plaid.

Yn bresennol hefyd roedd cynrychiolwyr o fyd y celfyddydau, y wasg a'r rhai y cyfarfu yr Arglwydd Elis-Thomas â nhw yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd Bwrdd yr Iaith a'i gyfnod yn weinidog diwylliant.

Bu farw'r Arglwydd Elis-Thomas ar 7 Chwefror yn 78 oed, yn dilyn salwch byr.

Cynrychiolodd etholaeth Dwyfor Meirionnydd ym Mae Caerdydd am 22 mlynedd, ar ôl treulio 18 mlynedd fel Aelod Seneddol yn San Steffan.

Tri Aelod Seneddol Plaid Cymru a gafodd eu hethol i San Steffan yn 1987; Ieuan Wyn Jones, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd WigleyFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tri Aelod Seneddol Plaid Cymru a gafodd eu hethol i San Steffan yn 1987; Ieuan Wyn Jones, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley

Yn ystod yr angladd fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan ddarllen adnodau 4-9 o Philipiaid 4 a darllenodd Robin Llywelyn y gerdd 'Pa Beth yw Dyn?' gan Waldo.

Gan arwain y gwasanaeth, dywedodd Y Gwir Barchedig Dr Barry Morgan fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn "wleidydd, Llywydd, provocateur, arweinydd cynhwysol ac ysbrydoledig, hwyliog, bon viveur."

"Carreg sylfaen ein Senedd," ychwanegodd.

Aled EirugFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Aled Eirug yn ei deyrnged fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn "un o wleidyddion mwyaf dylanwadol Cymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf"

Ei ffrind agos a'i fywgraffydd Dr Aled Eirug a roddodd y deyrnged iddo a dywedodd ei fod yn cael ei gydnabod "fel un o wleidyddion mwyaf dylanwadol Cymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf, yn 'garreg sylfaen' Senedd Cymru ac yn gawr gwleidyddol".

Cyfeiriodd yna at gerrig milltir ei yrfa wleidyddol fel AS Meirionnydd – Aelod Seneddol ieuengaf Tŷ'r Cyffredin yn 1974 wedi iddo gael ei ethol yn 27 oed.

Wedi'i ethol yn Llywydd Plaid Cymru yn 1984 dywedodd Dr Eirug ei fod wedi arwain y blaid "i gefnogi streic y glowyr, ac uniaethodd gydag achosion mawr y degawd – gwrth-Thatcheriaeth, y mudiad iaith, Comin Greenham, a'r ymgyrch gwrth-apartheid".

"Drwy gydol ei fywyd, bu ganddo gysylltiad agos â chefn gwlad. Roedd e'n gerddwr a rhedwr brwdfrydig yn nhirwedd Parc Cenedlaethol Eryri, ac yn gefnogwr cynnar i'r mudiad amgylcheddol," meddai.

"Ar ôl 18 mlynedd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn 1992, cymerodd y cam dadleuol o dderbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, lle sicrhaodd fod yr iaith yn cael ei gweld fel iaith i bawb, a'i bod uwchlaw gwleidyddiaeth plaid."

Gwasanaeth Dafydd Elis-ThomasFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Prif Weinidog yn darllen adnodau o lythyr Paul at y Philipiaid

"Uchafbwynt ei yrfa, heb os oedd dod yn Llywydd cyntaf y Cynulliad," ychwanegodd Dr Eirug.

"Gweithiodd gyda'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, i wreiddio'r sefydliad newydd ym mywyd Cymru, a sicrhaodd gartref eiconig i'r Cynulliad – adeilad y Senedd… Daeth refferendwm 2011 â breuddwyd y Dafydd ifanc o Senedd ddeddfwriaethol yn fyw."

Nododd Dr Eirug hefyd ymadawiad Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru a'i benodiad yn Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru.

"Roedd yn ddrygionus, yn heriol, yn ddifyr a phryfoclyd, ond roedd Dafydd hefyd yn ddyn dwys a difrifol – cynhaliodd ei ddiddordeb mewn semioteg iaith, athroniaeth a'r celfyddydau, ac mewn crefydd," ychwanegodd.

Hers Dafydd Elis-ThomasFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images

"Roedd yn graff, yn fywiog, yn rhyfeddol o swynol, yn gwrtais ac yn ysbrydoledig. Mae ei feirniaid wedi ei gymharu i gameleon gwleidyddol, a'i farnu am fethu ffrwyno ei hyblygrwydd deallusol.

"Yn sicr, gallai fod yn gyndyn a thynnu'n groes, ac roedd ei allu i gyflwyno barn wleidyddol anghonfensiynol yn medru bod yn rhyfeddol.

"Ond roedd yn driw i'w gred sylfaenol fod yr hyn a wnâi er lles Cymru.

"Deallodd yr angen i Blaid Cymru ymestyn ei thiriogaeth wleidyddol, ac fel Llywydd, gwyddai am bwysigrwydd sicrhau cyfreithlondeb y Cynulliad newydd, a gydnabyddid gan aelodau'r teulu Brenhinol er enghraifft, a fynychodd bob agoriad o'r Senedd."

Neges gan y Brenin Charles

Wrth gloi ei deyrnged cyfeiriodd Dr Eirug at y llu o lythyrau y mae ei weddw Mair wedi ei derbyn ac roedd yna un gan y Brenin Charles oedd yn dweud wrth gydymdeimlo: "Ym mhopeth, daeth eich gŵr ag annibyniaeth meddwl a haelioni ysbryd, heb sôn am ei ffraethineb, a oedd yn arbennig o drawiadol i mi.

"Bydd ein bywyd cyhoeddus gymaint tlotach heb ei bresenoldeb meddylgar ac ysgogol.

"Ychydig iawn o bobl sydd wedi cyfrannu gymaint i fywydau eu cenedl, mewn cymaint o feysydd, am gyhyd. Rwy'n gobeithio y bydd o gysur i chi yn eich colled, i wybod am y parch enfawr at eich gŵr sydd gan gymaint o bobl o bob rhan o gymdeithas."

Disgrifiad,

Y canu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ystod angladd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Yn ystod y cymun a oedd yn rhan o'r gwasanaeth bu'r canwr gwadd Gwyn Hughes Jones yn perfformio nifer o hoff ganeuon yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Fe wnaeth y gynulleidfa ganu pedwar emyn sef 'Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist Fab Duw', 'O Iesu Mawr, rho d'anian bur', 'Rho im yr hedd' a'r emyn Saesneg 'King of glory, king of peace'.

Cafodd y gwynfydau eu darllen gan y Deon, y Tra Pharchedig Dr Jason Bray a'r fendith ei thraddodi gan Esgob Llandaf Mary Stallard.

Yn dilyn y gwasanaeth fe wnaeth yr hers basio Senedd Cymru ym Mae Caerdydd, lle'r oedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn Llywydd drwy gydol 12 mlynedd gyntaf datganoli.

Karl Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn "gymeriad mor hawddgar, mor glên, mor ddymunol", meddai Karl Davies

Yn siarad cyn y gwasanaeth, dywedodd cyn-brif weithredwr Plaid Cymru, Karl Davies fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn "benderfynol o symud y blaid i fod yn bendant ar y chwith yn yr 80au - 'da ni'n cofio'r dadleuon ynglŷn â hynny".

"O'n i'n brif weithredwr ar ddiwedd y 90au, adeg pan sefydlwyd y Cynulliad, adeg pan gafodd y blaid ei llwyddiannau etholiadau mwya' erioed yn ei hanes, yn etholiad Ewrop, yn lleol, ac wrth gwrs yn y Cynulliad yn 1999.

"Fydda' hynny ddim wedi gallu digwydd oni bai bod Dafydd Êl wedi gosod y seiliau yn yr 80au a gosod y blaid fel alternative realistig go iawn i'r Blaid Lafur, ac iddo fo mae'r diolch yn helaeth iawn am y llwyddiannau gafo' ni yn 1999."

Ychwanegodd: "Oedd o'n licio bod yn ddadleuol, weithiau oedd o'n cythruddo pobl, a weithiau oeddech chi'n teimlo fod hynna'n fwriadol rhywsut er mwyn cael dadl, er mwyn cael gweld i ba gyfeiriad oedden ni'n mynd i gael trafodaeth go iawn.

"Ond wrth gwrs, roedd o bob tro'n cael maddeuant - neu bron bob tro - achos bod o'n gymeriad mor hawddgar, mor glên, mor ddymunol - ac oeddech chi methu dal dig efo fo'n hir iawn."

Disgrifiad,

"O'dd o'n gymeriad unigryw yng ngwleidyddiaeth Cymru," meddai Ieuan Wyn Jones

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, a chyn-ddirprwy brif weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones ei fod yn "ddiwrnod i gofio am gyfraniad aruthrol Dafydd Elis-Thomas i Gymru - gwleidyddiaeth Cymru, ond mewn llawer maes hefyd - ac yn arbennig iawn fel Llywydd y Cynulliad, wedi arwain ni trwy ddyfroedd dyfnion iawn, i mewn i'r sefyllfa rŵan lle mae gynnon ni Senedd go iawn".

"O'dd o'n gymeriad unigryw yng ngwleidyddiaeth Cymru," meddai.

"Beth fyddai'n ei gofio yn bersonol amdano fo ydy fel cyfaill cywir, rhywun o'n i'n edrych i fyny ato fo yn fy nyddiau cynnar fel gwleidydd, wastad yn cael ei farn o a'i farn o bob amser i mi yn ddoeth.

"O'dd o'n berson o argyhoeddiadau cry' iawn a ddim yn fyr iawn o dd'eud hynny.

"Ar hyd ei oes wedi bod yn berson o'dd yn credu mewn pethau'n wirioneddol, ac eisiau gwneud rhywbeth dros Gymru ac nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ond mewn cymaint o wahanol feysydd."

Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Fe wnaeth o osod Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer yr 21ain ganrif," meddai Elin Jones

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones fod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi bod yn "holl bresennol yng ngwleidyddiaeth Cymru ers hanner canrif".

"Fe roddodd ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus, ac yn arbennig i mi fel aelod o'r Senedd. Roedd yn un o'r rhai a sefydlodd y Senedd, Llywydd y Cynulliad cyntaf yn '99," meddai.

"Fe wnaeth e osod Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer yr 21ain ganrif.

"Roedd yn boblogaidd iawn gan lawer o bobl, roedd bob amser yn gyfeillgar ac roedd yn cael ei hoffi a'i barchu ar draws y pleidiau gwleidyddol.

"Roedd yn gweld gwerth ym mhob plaid wleidyddol ac fe geisiodd adeiladu pontydd rhwng pleidiau gwleidyddol."

Ychwanegodd: "Felly heddiw mae yna bobl o bob plaid wleidyddol, pobl o du allan i'r byd gwleidyddol, a phobl o'i etholaethau yng ngogledd orllewin Cymru a oedd yn arbennig iawn iddo.

"Bydd Cymru gyfan yn cofio Dafydd Elis Thomas heddiw ac yn diolch iddo am ei oes o wasanaeth cyhoeddus i'n gwlad."

Pynciau cysylltiedig