Edrych yn ôl ar yrfa yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf - wedi marw yn 78 oed.
Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn 1974, ac yntau ond yn 27 oed - yr ieuengaf o'r 635 o aelodau.
Bu'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi ac yn arweinydd ar Blaid Cymru cyn cymryd sedd yn y Cynulliad fel yr oedd ar y pryd, ac yna Senedd Cymru.
Ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, gan wasanaethu tan 2011.
Mae wedi ei ddisgrifio fel "un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth".
Wrth gyhoeddi ei farwolaeth fore Gwener, dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn dawel ei gartref yn dilyn salwch byr.