Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw yn 78 oed

Dafydd Elis-ThomasFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei fod wedi marw yn dawel yn ei gartref yn dilyn salwch byr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf - wedi marw yn 78 oed.

Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn 1974, ac yntau ond yn 27 oed - yr ieuengaf o'r 635 o aelodau.

Fe gynrychiolodd Meirionnydd - a Meirionnydd Nant Conwy yn ddiweddarach - tan 1992, pan ddaeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.

Bu hefyd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 a 1991, gan eistedd fel Aelod Cynulliad - ac yna Aelod o'r Senedd - rhwng 1999 a 2021.

Ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, gan wasanaethu tan 2011.

Wrth gyhoeddi ei farwolaeth fore Gwener, dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn dawel ei gartref yn dilyn salwch byr.

Gwleidydd Cymreig Gwynfor Evans (1912 - 2005, canol), Llywydd Plaid Cymru, gydag ASau Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas (chwith) o Feirionnydd (Meirionnydd Nant Conwy yn ddiweddarach) a Dafydd Wigley (dde) o Gaernarfon, yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain, DU, 22 Hydref 1974.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Elis-Thomas (chwith) gyda Gwynfor Evans a Dafydd Wigley yn Nhŷ'r Cyffredin yn Llundain ar 22 Hydref 1974

Yn 2021 fe safodd i lawr fel Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor-Meirionnydd.

Roedd ar un adeg yn cael ei alw'n 'Marcsydd Meirionnydd' ac yn un o brif arweinwyr syniadaeth yr adain chwith yng Nghymru.

Yn 2016 fe adawodd Blaid Cymru gan barhau fel aelod annibynnol o Senedd Cymru.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Bu farw'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn 78 oed yn dawel yn ei gartref ar fore'r 7fed o Chwefror yn dilyn salwch byr.

"Mae'r teulu'n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon."

Disgrifiad,

Rhannodd Llywydd presennol y Senedd, Elin Jones ei hatgofion ar Dros Ginio

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru a bywyd sifig ein cenedl".

"Yn ddi-os roedd Dafydd yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth, a fel Llywydd y Cynulliad cyntaf gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i osod seiliau cadarn i ddatganoli.

"Rydym yn cofio Dafydd fel un a dorrodd dir newydd fel yr Aelod Seneddol ieuengaf yn San Steffan yn 1974 ac aeth ymlaen i arwain Plaid Cymru gydag angerdd ac afiaeth.

"Fe dyfais i fyny efo Dafydd yn ffrind personol a theuluol, a bu'n ddylanwadol arnaf i o fy mlynyddoedd ieuengaf.

"Roedd ei gariad at ein cenedl, ein hiaith, a'n diwylliant yn ddi-wyro.

"Ar ran Plaid Cymru, rwy'n estyn ein cydymdeimladau dwysaf â theulu Dafydd yn eu profedigaeth."

'Craig sylfaen ein Senedd'

Cafodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei ddisgrifio fel "un o gewri gwleidyddiaeth Cymru" gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

"Ni all unrhyw un ddadlau nad oedd ganddo gariad dwfn tuag at Gymru a phobl Cymru," meddai Darren Millar AS.

"Bydd colled enfawr ar ei ôl."

Dywedodd Llywydd presennol y Senedd, Elin Jones, bod Dafydd Elis-Thomas yn "ffigwr hollbresennol" yng ngwleidyddiaeth Cymru ers dechrau'r 1970au.

"Fel Llywydd cyntaf y Senedd, roedd yn eiddgar i sefydlu democratiaeth gyfoes o'r dechrau, a dysgu gan Seneddau eraill beth i'w wneud a beth i beidio ei wneud.

"Dafydd oedd ceidwad y cyfansoddiad Cymreig, ond un oedd bob amser yn barod i feddwl y tu allan i'r bocs.

"Ef oedd craig sylfaen ein Senedd."