Storm Darragh yn gohirio priodas pâr o ogledd Cymru

Fe wnaeth Cymru gyfan weld effaith Storm Darragh dros y penwythnos, ac i un cwpl o Wynedd, bu'n rhaid gohirio eu priodas oherwydd y tywydd garw.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Elan Hughes o Benrhyndeudraeth ei bod wedi cael galwad gan y cofrestrydd ddydd Gwener i ddweud nad oedd modd iddyn nhw briodi ddydd Sadwrn oherwydd y storm.

Dywedodd fod gorfod gohirio'r briodas yn "siom fawr" ac nad oedd yn meddwl y bydden nhw wedi gorfod gohirio.

Bu'n rhaid i Elan Hughes ffonio ei gŵr, Karl, yn ei waith brynhawn Gwener i ddweud am y newid.

Fe benderfynodd y ddau briodi yn ddistaw ddydd Gwener, a hynny heb fawr ddim amser i baratoi.

Dywedodd Elan mai dim ond "awr oedd gynnon ni i gael ein hunain yn barod" gan ddweud "o'n i ddim yn gwisgo make-up, oedd gwallt fi'n ofnadwy".

Ond ychwanegodd: "Dwi mor falch bo' ni wedi 'neud y penderfyniad i briodi ar y dydd Gwener."

Mae'r pâr priod bellach wedi cael dyddiad newydd i ddathlu gyda theulu a ffrindiau.