Storm Darragh: 'Digwyddiad difrifol' a miloedd heb drydan
- Cyhoeddwyd
Mae 95,000 o gartrefi a busnesau heb drydan ac mae digwyddiad difrifol wedi ei gyhoeddi mewn sawl sir yng Nghymru yn sgil Storm Darragh.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol ar draws siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys.
Mae'r heddlu yn yr ardal yn dal i gael nifer uchel o alwadau am drafferthion ar y ffyrdd wrth i goed syrthio ac amodau gyrru anodd, er bod y rhybudd coch wedi dod i ben.
Yn y gogledd, mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n "gweithio'n galed i wneud y ffyrdd yn ddiogel" ond bod "maint y dinistr yn golygu ei bod hi'n amhosib codi'r holl goed sydd wedi syrthio cyn iddi nosi".
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd, Owain Llewellyn, na fydd modd rhoi arwyddion yn rhybuddio gyrwyr o bob perygl ac y dylai gyrwyr "yrru gyda gofal mawr a pheidio gyrru o gwbl os ydi hynny'n bosib".
Dywedodd hefyd bod rhybuddion llifogydd yn y sir.
Edrychwch yn ôl ar brif ddigwyddiadau'r dydd yma.
Ar un adeg ddydd Sadwrn, roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan.
Erbyn 17:30, roedd dros 64,000 o gartrefi wedi colli pŵer yn y de a'r gorllewin.
Yn y gogledd, dywedodd y cyflenwr, SP Energy, bod dros 30,000 heb drydan yno.
Mae 'na rybudd na fydd modd adfer y trydan mewn rhai ardaloedd tan ddydd Sul.
Mae modd cadw golwg ar y sefyllfa mewn ardaloedd unigol ar wefannau National Grid, dolen allanol a SP Energy, dolen allanol.
Am 19:00 roedd 28 rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol - y mwyafrif yn y canolbarth a'r gorllewin.
Maen nhw'n cynnwys ardaloedd o amgylch Afon Gwy ger Llanfair-ym-muallt, Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan ac Afon Wysg yn Aberhonddu.
Mae 'na hefyd 70 rhybudd "i fod yn barod am lifogydd".
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol ar gyfer gwyntoedd cryfion - rhybudd coch - rhwng 03:00 a 11:00 fore Sadwrn, ar gyfer 13 o siroedd Cymru.
Er bod y rhybudd coch wedi dod i ben, mae rhybuddion oren a melyn am wynt a glaw yn parhau mewn grym.
Mae'r Swyddfa Dywydd bellach yn dweud bod y rhybudd melyn am law wedi cael ei ymestyn tan 21:00 heno ac mae rhybudd melyn am wynt wedi ei ymestyn tan 18:00 ddydd Sul.
Yn wreiddiol roedd y rhybudd melyn i fod yn dod i ben am 06:00 fore Sul, ond mae hynny bellach wedi cael ei ymestyn 12 awr at 18:00.
Mewn neges ar y cyd â'i dirprwy Huw Irranca-Davies, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, eu bod "yn meddwl am bobl sydd wedi dioddef difrod i'w heiddo yn y storm".
Gan ddiolch i'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill "sydd wedi gweithio drwy'r nos mewn amodau ofnadwy", maen nhw'n rhybuddio y gallai effeithiau'r storm bara am "rai dyddiau eto".
Ychwanegodd y neges: "Mae rhybuddion yn parhau i fod mewn lle, felly parhewch i fod yn wyliadwrus, a gofalwch am eich gilydd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Sadwrn, dywedodd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru fod "rhybuddion llifogydd allan ar draws Cymru gyfan".
"'Da ni wedi bod yn monitro lefelau'r afonydd, mae'r afonydd yn codi.
"Dydyn ni ddim yn disgwyl cymaint o law a be' welson ni adeg Storm Bert bythefnos yn ôl, ond mae'r tir yn andros o wlyb ers hynny.
"'Da ni wedi cael glaw rhwng hynny a rŵan, felly ma' bosibilrwydd bydd yr afonydd yn codi i ymateb i'r glaw 'da ni'n gael."
Mae'r tywydd yn effeithio ar nifer o ffyrdd a theithwyr, wrth i'r M48 dros Bont Hafren a'r A55 dros Bont Britannia gau ddydd Sadwrn.
Cafodd rhannau o'r M4 ei gau mewn sawl man, gan gynnwys yn ardal Llansawel, Pen-y-bont a Chasnewydd.
Cafodd yr A470 ei gau yn Nolgellau, Rhaeadr Gwy a Merthyr Tudful a'r A40 mewn sawl man yn y gorllewin.
Yn Abertawe, mae nifer o goed wedi syrthio yn ystod gwyntoedd cryfion ac mae'r Cyngor Sir yn atgoffa pobl i fod yn "ofalus iawn os oes rhaid gyrru yn ystod y storm".
Wedi i Storm Bert achosi difrod i ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf, mae'r cyngor sir yn dweud bod o leiaf 40 o goed wedi syrthio dros nos a ddydd Sadwrn.
Cafodd degau o ddigwyddiadau, gwasanaethau a safleoedd eu cau neu eu canslo ar draws Cymru.
Doedd 'na ddim hediadau o faes awyr Caerdydd tan 13:00 ddydd Sadwrn ac mae nifer o wasanaethau trên wedi eu canslo.
Cafodd gwasanaethau Stena Line rhwng Caergybi a Dulyn yn Iwerddon eu canslo, a hefyd rhwng Abergwaun a Rosslare.
Mae holl gemau Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi eu gohirio ddydd Sadwrn, gyda'r gêm rhwng Caerdydd a Watford wedi ei chanslo "am resymau diogelwch".
Mae safle Gŵyl y Gaeaf yng nghastell Caerdydd a Neuadd y Ddinas a'r goleuadau ym Mharc Bute wedi cau, yn ogystal â safle Gŵyl y Gaeaf yn Abertawe a Chasnewydd.
Roedd nifer o adeiladau ac atyniadau wedi cau ddydd Sadwrn hefyd, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a holl safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru.
'Cymuned wedi eu llorio'
Cafodd to eglwys babyddol Pentre yn Mochdre ym Mhowys ei chwythu i ffwrdd yn llwyr yn y gwyntoedd cryfion.
Dywedodd Jonathan Rees, sydd wedi bod yn cydlynu'r help, bod "y gymuned wedi eu llorio" ac y byddai nifer o bobl sydd yn byw yn yr ardal "wedi ei magu yn yr eglwys".
Mae'n dyfalu y gallai fod yna gorwynt wedi taro'r eglwys gan bod y to ar wasgar ar draws y fynwent.
Roedd wedi ceisio rhoi neges ar y cyfryngau cymdeithasol am help i geisio achub yr organ a'r pulpud ond ei bod yn "rhy beryglus a bod y gwyntoedd yn dal yn gryf iawn".
Mae Marc Morris yn byw yn ardal Llangynnwr yn Sir Gaerfyrddin, lle mae nifer o goed wedi syrthio.
Dywedodd: "Fi'n cadw llygad ar fenyw sy'n 94 sy'n byw ar bwys, a s'dim pwer na dŵr gyda hi, felly fi 'di bod lawr i'r siop i gael torch a cwpwl o bethau iddi achos so ni'n disgwyl cael trydan nôl tan bwti saith o'r gloch heno."
Nos Wener, cafodd rhybudd ei anfon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ffonau symudol yn cyngori pobl "i beidio mentro allan oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol, oherwydd perygl i fywyd".
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Dwi ddim yn credu y gallen ni fod wedi gwneud mwy i rybuddio pobl."
"Dyma'r tro cyntaf i'r system larwm gael ei ddefnyddio ar raddfa fawr iawn ac felly yn amlwg bydd ganddon ni bethau i'w dysgu o hynny ond dwi'n meddwl o'dd pobl yn ymwybodol bod storm ar y ffordd a'u bod nhw wedi talu sylw i'r rhybuddion hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024