'Rhybudd coch, prin' mewn grym yng Nghymru ddydd Sadwrn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh dros y penwythnos.
Mae'r rhybudd coch am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o orllewin a de Cymru rhwng 03:00 ac 11:00 fore Sadwrn.
Mae hyrddiadau o hyd at 90mya yn bosib, ac mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod "perygl i fywyd" oherwydd y risg y bydd coed yn disgyn a malurion yn cael eu taflu gan y gwynt.
Y tro diwethaf i rybudd tywydd coch fod mewn grym yng Nghymru oedd yn Chwefror 2022 adeg Storm Eunice.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu canslo a bydd nifer o safleoedd ar gau yn sgil y storm.
Ar y prom yn Aberystwyth ddydd Gwener, Craig Duggan fu'n egluro beth sydd i ddod dros y dyddiau nesaf.