Storm Darragh: Rhybudd coch a 'pherygl i fywyd' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh dros y penwythnos.
Mae'r rhybudd coch am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o orllewin a de Cymru rhwng 03:00 ac 11:00 fore Sadwrn.
Mae hyrddiadau o hyd at 90mya yn bosib, ac mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod "perygl i fywyd" oherwydd y risg y bydd coed yn disgyn a malurion yn cael eu taflu gan y gwynt.
Y tro diwethaf i rybudd tywydd coch fod mewn grym yng Nghymru oedd yn Chwefror 2022 adeg Storm Eunice.
Dywedodd y prif weinidog, Eluned Morgan "bod angen cymryd y rhybuddion o ddifrif".
"Mae rhybudd coch yn golygu bod perygl posib i fywyd a ddylai pobl ddim teithio, oni bai bod hynny'n hanfodol."
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu canslo a bydd nifer o safleoedd ar gau yn sgil y storm.
Mae'r rhybudd coch yn un o bum rhybudd sydd mewn grym gan y Swyddfa Dywydd rhwng prynhawn dydd Gwener a bore Sul.
Mae 'na ddisgwyl glaw trwm yn ogystal, gyda llifogydd yn bosib mewn mannau, yn enwedig mewn ardaloedd a gafodd eu taro gan Storm Bert yn ogystal.
Beth yw'r rhybuddion eraill?
Mae rhybudd oren am wynt mewn grym ar gyfer bron Cymru gyfan o 01:00 tan 21:00 ddydd Sadwrn.
Mae 'na rybudd oren am law yn weithredol ar gyfer rhannau helaeth o'r canolbarth a'r de rhwng 03:00 a 18:00 ddydd Sadwrn.
Mae hwnnw mewn grym ar gyfer Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Mae rhybudd melyn ehangach am wynt mewn grym dros y wlad i gyd o 15:00 ddydd Gwener tan 06:00 fore Sul.
Mae 'na rybudd melyn am law hefyd mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru o 15:00 ddydd Gwener tan 12:00 brynhawn Sadwrn.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, llifogydd mewn mannau a thoriadau i gyflenwadau trydan.
Trafferthion teithio
Mae Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin yn dweud eu bod nhw wedi achub person o gerbyd aeth yn sownd ar ffordd yn Y Trallwng fore Gwener.
Dywedodd llefarydd na ddylai pobl yrru ar ffyrdd lle mae llifogydd a "bod y dŵr yn gallu bod yn ddyfnach ac yn llifo'n gynt na'r disgwyl".
Mae gwasanaethau o Faes Awyr Caerdydd wedi eu canslo rhwng 03:00 a 11:00 ddydd Sadwrn "i sicrhau diogelwch teithwyr a gweithwyr" ac maen nhw'n annog pobl i gysylltu â'u cwmnïau teithio.
Mae Traffig Cymru yn annog pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Yn sgil y rhybudd am law trwm a gwyntoedd cryfion, gallai gwasanaethau gael eu dargyfeirio, eu canslo neu fe allai teithwyr wynebu oedi."
Mae cwmni Stena Line eisoes wedi dweud na fydd gwasanaethau fferi yn rhedeg rhwng Abergwaun a Rosslare ddydd Sadwrn.
Canslo digwyddiadau
Mae'r tywydd wedi cael effaith ar nifer o ddigwyddiadau ar draws Cymru, gyda degau eisoes wedi'u canslo dros y penwythnos.
Mae Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gohirio eu holl gemau ddydd Sadwrn.
Mae'r gêm rhwng Caerdydd a Watford wedi ei chanslo "am resymau diogelwch cefnogwyr" yn dilyn cyngor gan y Swyddfa Dywydd, Cyngor Caerdydd a Heddlu'r De.
Mae safle Gŵyl y Gaeaf yng nghastell Caerdydd a Neuadd y Ddinas wedi cau yn gynnar, ac fe wnaeth y goleuadau ym Mharc Bute gau hefyd.
Bydd safle Gŵyl y Gaeaf yn Abertawe a Chasnewydd hefyd yn cau'n gynnar a bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar gau ddydd Sadwrn.
Mae Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ddydd Gwener wedi cael ei ohirio, a chyngerdd Côr Cynhaearn ym Mhwllheli.
Ni fydd Ffair y Gaeaf ym Margod, Sir Caerffili, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, ac mae Cyngor Tref Aberdaugleddau wedi canslo ymweliad Sïon Corn ddydd Sadwrn hefyd.
Mae ffair Nadolig Llancaiach Fawr wedi'i chanslo hefyd ddydd Sadwrn, ac mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw ar gau.
Mae pob perfformiad o sioe Nadolig Cyw S4C yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach, Llanelli ddydd Sadwrn wedi eu canslo hefyd.
Yn ôl cynghorau sir Ceredigion a Chaerfyrddin, bydd eu llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, amgueddfeydd a safleoedd gwastraff yn cau ddydd Sadwrn.
Bydd holl ganolfannau ymwelwyr, coedwigoedd, llwybrau cerdded a meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru ar gau ddydd Sadwrn, am resymau diogelwch.
Mae'r rhybuddion eisioes wedi effeithio ar fusnesau.
Dywedodd Richard Griffiths o Westy'r Richmond, Aberystwyth bod "lot o bobl di canslo dod i'r gwesty, yn enwedig os ydyn nhw'n dod i weld teuluoedd neu achlysur yn lleol sydd wedi ei ganslo".
"Mae pobl sy'n dod i weld teuluoedd, falle bod dim cyfle iddyn nhw ddod 'to cyn Dolig felly ma' hynna'n effeithio arnon ni."
Un o'r ardaloedd gafodd ei tharo waethaf yn ystod Storm Bert fis diwethaf oedd Pontypridd.
Er nad oes disgwyl gymaint o law y tro hwn, mae pobl yn y dref yn paratoi at effaith bosib Storm Darragh dros y penwythnos.
Dywedodd Rhys Williams o gwmni nwyddau adeiladu Hughes Forrest eu bod wedi bod yn rhoi tywod i bobl sy'n poeni am eu cartrefi a'u busnesau.
"Mi wnaethon ni drio archebu sachau ond roedd gormod o alw amdanyn nhw felly rydyn ni wedi rhoi tunnelli o dywod i bobl," meddai.
"Mae pobl yn defnyddio pethau fel casau gobennydd i greu eu sachau tywod eu hunain."
Dywedodd Wyn Jones, sy'n byw ar Ffordd Berw ym Mhontypridd, ei fod wedi cysylltu gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i ofyn am fagiau tywod.
Dywedodd wrth BBC Cymru bod dyn yn ei 80au yn byw gerllaw "wedi colli'r cwbl a ni'n trio trefnu bod dau pallet o'r sandbags yn dod yma bydd yn helpu bod pawb yn cael eu hamddiffyn".
"So ni'n gwybod sy'n mynd i ddigwydd... ni rhyw chwe metr o'r afon a pan mae'n mynd, mae'n mynd a mae'n ddiwedd y gân."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd