Cyfnod 'emosiynol' i deulu Medi Harris

Roedd chwiorydd Medi Harris yn falch iawn ohoni ar ôl iddi gystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf ddydd Llun.

Dywedodd Corrina Pritchard ac Isobel Harris ei bod hi'n siŵr o fod yn gyfnod "od" i'w chwaer ar ôl iddi golli ei Mam.

Bu farw Ellie ym mis Mawrth ar ôl cael diagnosis o ganser.

Er yr heriau amlwg, fe lwyddodd Medi i sicrhau ei lle ar dîm Prydain yn nhreialon y Gemau Olympaidd wythnos wedi marwolaeth ei mam.

Dywedodd Corrina y byddai Ellie "mor prowd" o'i merch, tra bod Isobel yn credu bod gan eu Mam y "best seat in the house" i wylio Medi yn cystadlu.

Roedd tua 50 o ffrindiau a theulu Medi yn Nhafarn Pencei, Porthmadog fore Llun i wylio'r nofwraig yn cystadlu yn rhagbrofion y ras 100m dull cefn.

Er iddi berfformio yn dda, doedd ei hamser o 1:00:85 ddim yn ddigon i gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Bydd y teulu yn hedfan i Baris er mwyn gwylio Medi yn cystadlu fel rhan o dîm cyfnewid 4x200m dull rhydd Prydain ddydd Iau.