Harris yn methu â chyrraedd y rowndiau cynderfynol

Disgrifiad,

Fe orffennodd Medi yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn y ras 100m dull cefn

  • Cyhoeddwyd

Wedi blynyddoedd o hyfforddi, fe ddaeth yr awr i Medi Harris o Borthmadog gystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.

Er iddi berfformio yn dda yn y ras 100m dull cefn, ni wnaeth Medi lwyddo i gyrraedd y rownd nesaf gydag amser o 1:00:85.

Fe orffennodd Medi yn y pedwerydd safle ar bymtheg, tri safle yn unig o gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Bydd Medi yn troi ei golygon nawr at gystadlu fel rhan o dîm cyfnewid 4x200m dull rhydd Prydain ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae chwiorydd Medi, Corrina (chwith) ac Isobel (ar y dde) yn 'browd iawn' ohoni

Gyda Medi ond wedi cael gwybod rhai wythnosau yn ôl ei bod wedi cael lle i gystadlu yn y ras yma, doedd dim modd i'w theulu fynd allan i'w gweld yn cystadlu.

Fe wnaeth ei chwaer, Corrina Pritchard drefnu bod criw o Borthmadog yn cwrdd fore Llun i'w gwylio yn nofio.

Wrth siarad ar dros Frecwast, dywedodd: "Da ni jyst mor browd, mae'n surreal gweld hi ar y teledu ymysg yr athletes enwog 'ma i gyd, dwi'n meddwl bod o bach yn surreal iddi hi hefyd."

Er iddi weld Medi yn cystadlu yn rhai o bencampwriaethau mwya'r byd, gan gynnwys Gemau'r Gymanwlad ac yn Budapest, dywedodd fod y Gemau Olympaidd "ar lefel wahanol".

"Mae 'di gweithio allan yn grêt iddi, yr holl trainio, codi am bedwar y bore, mae 'di talu off."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y gymuned at ei gilydd ym Mhorthmadog i ddymuno'n dda i Medi

Dywedodd Isobel, chwaer arall Medi ei bod wedi cadw mewn cyswllt agos gyda hi tra ei bod ym Mharis.

"Da ni wedi bod yn tecstio pob diwrnod, dwi'n meddwl bo' hi'n teimlo'n wahanol pob diwrnod, ond mae'n excited heddiw dim nerfus.

"Dwi'n meddwl bod o jyst yn surreal i hi bo' hi'n rubbing shoulders efo'r athletes enwog 'ma i gyd.

"Nath hi decstio fi neithiwr yn deud 'tomorrow I'll be an olympian'."

Gyda ffenestri Porthmadog a threfi cyfagos wedi eu llenwi â lluniau o Medi a negeseuon i ddymuno'n dda iddi, dywedodd Owain, partner Isobel fod yr ymateb yn "crazy".

"Do' ni ddim yn disgwyl gweld cymaint o gefnogaeth, mae'n neis gweld cymuned fel hyn yn dod at ei gilydd, ma' jyst yn briliant."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 50 o ffrindiau a theulu Medi yn Nhafarn Pencei, Porthmadog fore Llun i wylio Medi yn cystadlu yn rhagbrofion y ras 100m dull cefn.

Dywedodd Corrina ac Isobel ei bod hi'n siŵr o fod yn "amser od" i Medi wrth iddi gystadlu ar ôl blwyddyn hynod anodd.

Bu farw mam Medi ac Isobel, Ellie, ym mis Mawrth ar ôl cael diagnosis o ganser.

Wythnos ar ôl ei marwolaeth, roedd Medi yn cystadlu am le ar dîm Prydain.

Dywedodd Corrina y byddai Ellie "mor prowd" o'i merch, gydag Isobel yn credu bod gan eu mam yr "olygfa orau" er mwyn gwylio Medi yn cystadlu.

Bydd y teulu yn teithio i Baris ddydd Mawrth er mwyn gwylio Medi'n cystadlu yn y ras gyfnewid dull rhydd ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig