Gôl wych gan Fishlock yn erbyn Yr Eidal
Er i Gymru golli'n drwm o 4-1 yn erbyn Yr Eidal yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth, mi sgoriodd Jess Fishlock dipyn o gôl.
Hon oedd gôl rhif 47 iddi ar y llwyfan rhyngwladol, ac un o'r goreuon iddi sgorio dros ei gwlad.
Y gêm yn Abertawe oedd un olaf Cymru cyn iddyn nhw chwarae yn Euro 2025 yn Y Swistir.