Cymru yn colli i'r Eidal yn eu gêm olaf cyn Euro 2025

Y capten Cristiana Girelli o'r Eidal yn dathlu ail gol ei thîm nos FawrthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capten Yr Eidal, Cristiana Girelli yn dathlu ail gôl ei thîm nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Daeth ymgyrch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni - a'r paratoadau ar gyfer Euro 2025 - i ben gyda cholled o 4-1 yn erbyn yr Eidal yn Abertawe.

Yr ymwelwyr oedd yn llwyr reoli'r gêm yn ystod yr hanner cyntaf, gyda'r Eidalwyr bedair gôl ar y blaen ar yr egwyl yn Stadiwm Swansea.com.

Yn yr ail hanner, fe gafodd Cymru eu hysbrydoli gan ymddangosiad Jess Fishlock o'r fainc - gyda'r ymosodwr 38 oed yn sgorio gôl unigol wych i wneud y sgôr terfynol yn fwy parchus.

Ond mae'r golled yn golygu nad yw Cymru wedi ennill gêm ers y fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Iwerddon fis Rhagfyr.

Fe fydd Rhian Wilkinson a'i charfan nawr yn troi eu golygon at Euro 2025 yn y Swistir fis nesaf.

Disgrifiad,

Gwyliwch: Jess Fishlock yn sgorio gôl unigol wych ar ôl dod ymlaen fel eilydd

Er i Cymru ddechrau'n addawol, Elena Linari sgoriodd y gôl agoriadol i'r Eidal wedi ond naw munud o chwarae.

Gydag amddiffyn Cymru yn parhau yn fregus yn y ciciau gosod, fe lwyddodd Cristiana Girelli i ddyblu'r fantais wedi 20 munud o chwarae.

Fe beniodd Sofia Cantore y drydedd i'r Eidalwyr, cyn i'r capten Girelli sgorio ei hail o'r noson toc cyn yr egwyl.

Bu'n rhaid i golwr Cymru, Olivia Clark, ddod oddi ar y cae gydag anaf yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i golwr Cymru, Olivia Clark, ddod oddi ar y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf

Roedd hi'n argoeli'n noson hir i'r Cymry, a oedd eisoes wedi disgyn o brif haen y gystadleuaeth wedi'r golled yn erbyn Denmarc nos Wener.

Ond fe lwyddodd y tîm cartref - diolch i eiliad ysbrydoledig gan Fishlock - i orffen y gêm ar nodyn uchel.

Fe gododd Fishlock y bêl dros y golwr o ryw 30 llath i sicrhau fod y Cymry yn gorffen gyda rhywfaint o obaith cyn y gystadleuaeth fawr fis nesaf.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru yn gorffen ar waelod Grŵp 4 Cynghrair y Cenhedloedd.