'Pobl wedi cael llond bol' ar ansicrwydd safle Wylfa
Mae galw ar Gyngor Môn i drefnu cyfarfod brys gyda Llywodraeth y DU yn sgil diffyg eglurder dros unrhyw ddatblygiad niwclear ar yr ynys.
Ym mis Mai fe gyhoeddodd llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr.
Daeth hyn fisoedd wedi i'w lywodraeth brynu'r safle am £160m.
Ond gydag adroddiadau bod y llywodraeth Lafur newydd yn adolygu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr, mae'r diffyg sicrwydd wedi bod yn destun pryder i rai.
Yn ôl un cyngor cymuned sydd eisoes wedi anfon llythyr i'r gweinidog Ed Miliband, os nad yw gorsaf niwclear yn cael ei gwireddu, dylid darparu "cyllid sylweddol" i ogledd Môn er mwyn darparu cyfleon gwaith a hyfforddi.
Bydd cyfarfod o Gyngor Môn brynhawn Mawrth yn trafod galwadau i gynnal cyfarfod brys gyda Mr Miliband i drafod y sefyllfa.
Yn ôl y Cynghorydd Derek Owen, fydd yn cyflwyno'r cynnig, mae'r drafodaeth dros ail orsaf niwclear yn yr ardal wedi bod yn rhygnu 'mlaen ers degawdau.
"'Da ni 'di bod i i fyny ac i lawr, mae Wylfa'n dod... dydy o ddim yn dod, a mae pobl Llanbadrig wedi cael llond bol o ddim yn cael gwybod yn union be' sy'n mynd ymlaen," meddai.