Sïon am ddyfodol Wylfa yn achosi 'rhagor o ansicrwydd'

Llinos Medi
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion yr ynys wedi gorfod delio ag ansicrwydd ers dros ddegawd, meddai Llinos Medi AS

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiadau bod Llywodraeth y DU yn adolygu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr ar safle Wylfa yn Ynys Môn yn achosi rhagor o "ansicrwydd" i gymunedau, yn ôl yr Aelod Seneddol lleol.

Dros y penwythnos roedd sôn bod yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Milliband wedi galw ar swyddogion i adolygu’r cynlluniau mewn ymdrech i gyflymu’r broses o gynhyrchu rhagor o ynni.

Yn ôl Llinos Medi AS, mae angen "sicrwydd a phendantrwydd" i weithwyr a chymunedau’r ynys ynglŷn â dyfodol y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU nad oes penderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol y safle hyd yn hyn.

Ym mis Mai eleni fe gyhoeddodd llywodraeth geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr, gyda’r llywodraeth yn prynu’r safle yn gynharach yn y flwyddyn.

Ond yn ôl adroddiadau yn y Telegraph dros y penwythnos. mae Ed Milliband wedi gofyn i weision sifil adolygu’r cynllun gyda sôn ei fod yn ffafrio adweithyddion llai allai gynhyrchu ynni yn gynt.

“Ma’n fwy o ansicrwydd”, meddai Llinos Medi AS.

“Dyma mae trigolion yr ynys wedi byw efo ers dros ddegawd a dyna pam dwi’ 'di bod yn erfyn ar y llywodraeth i roi sicrwydd i ni.

“Beth bynnag ydi’r penderfyniad, 'da ni angen gwybod... os ydyn nhw am fynd am orsaf fechan neu am orsaf fawr ar yr ynys.

“'Da ni 'di cael yr oedi ac yn byw drwy boen yr oedi ers degawd”.

Disgrifiad,

Ymateb rhai o drigolion yr ynys i'r "ansicrwydd" ynglŷn â dyfodol safle Wylfa

Yn 2019 fe gefnodd cwmni Hitatchi ar eu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr gan ddweud bod diffyg cyllid ac ymrwymiad gan Lywodraeth Prydain ar y pryd a hynny’n dod a’r gobaith o filoedd o swyddi i ben.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd Sefydliad y Diwydiant Niwclear yn y Deyrnas Unedig ffigyrau newydd yn dangos bod llai o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y sector niwclear nag yn 2014.

Roedd 40% yn llai yn gweithio yn y sector yng Nghymru o gymharu â deng mlynedd yn ôl ac etholaeth Ynys Môn wedi profi’r gostyngiad fwyaf dros y cyfnod hwnnw.

Dros y ffin yn Lloegr roedd cynnydd o 65% yn y nifer oedd yn gweithio yn y sector niwclear dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o’r llun,

ae llywodraeth y DU wedi cytuno i brynu safle Wylfa oddi ar Hitachi

Yn ôl yr Athro Catrin Mair Davies o Goleg Imperial Llundain, mae’r angen am ynni yn fawr.

“Mae Wylfa yn le addas i godi atomfa fawr a hefyd yn le addas i godi rhai bach”, meddai.

“Mae angen lot o bŵer trydan arnom ni o ddulliau di-garbon a ni angen nid jest un mawr yn wylfa ond rhai mawr neu lot o rai bach ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.

“Does dim sicrwydd ynni wedi bod ‘da ni ers sbel”.

Wrth ymateb i’r honiadau fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain nad oedd unrhyw benderfyniad ar y prosiectau na chwaith y technolegau fydd yn cael eu darparu ar draws safleoedd.

“Fydd y penderfyniadau yn cael eu cyhoeddi maes o law," meddai'r llefarydd.