Gwyliwch: Cymru yn trechu Slofacia i gamu'n nes at Euro 2025
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2025 dal yn fyw ar ôl curo Slofacia o 2-0 ar ôl amser ychwanegol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd cryn bwysau ar y tîm cartref yn dilyn colled annisgwyl o 2-1 yn y cymal cyntaf nos Wener, ond roedd yr ymateb yn galonogol o'r cychwyn cyntaf.
Jess Fishlock sgoriodd y gôl gyntaf wedi 39 o funudau, a daeth yr ail hollbwysig gan Ceri Holland gydag ychydig dros bum munud yn weddill o amser ychwanegol.
Golygodd gôl Holland fod Cymru ar y blaen o 3-2 ar gyfanswm goliau.
Fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Dyma rai o uchafbwyntiau'r gêm.