Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2025
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2025 dal yn fyw ar ôl curo Slofacia o 2-0 ar ôl amser ychwanegol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd cryn bwysau ar y tîm cartref yn dilyn colled annisgwyl o 2-1 yn y cymal cyntaf nos Wener, ond roedd yr ymateb yn galonogol o'r cychwyn cyntaf.
Jess Fishlock sgoriodd y gôl gyntaf wedi 39 o funudau, a daeth yr ail hollbwysig gan Ceri Holland gydag ychydig dros bum munud yn weddill o amser ychwanegol.
Golygodd gôl Holland fod Cymru ar y blaen o 3-2 ar gyfanswm goliau.
Fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Digon rhwystredig oedd yr hanner awr gyntaf i Gymru - er yn rheoli'r meddiant, prin oedd y cyfleoedd o safon.
Cafodd Ffion Morgan ac Angharad James hanner cyfleoedd i roi Cymru ar y blaen ar y noson, ond fe lwyddodd amddiffyn ystyfnig Slofacia i aros yn gadarn.
Ond ar ôl 39 o funudau, fe wnaeth James basio'n hyfryd trwy ganol amddiffyn yr ymwelwyr, ac fe lwyddodd Fishlock i godi'r bêl dros y golwr ac i gefn y rhwyd.
Bron i Ffion Morgan ychwanegu ail cyn yr egwyl wedi gwaith da lawr yr asgell dde, ond cafodd ei hergyd ei rwystro.
Cafodd Morgan gyfle euraidd cwta dau funud mewn i'r ail hanner ond fe grymanodd hi'r bêl heibio'r postyn pellaf.
Roedd sawl cyfle arall i Gymru wedi hynny hefyd, gyda Ceri Holland yn achosi problemau mawr i Slofacia lawr yr asgell dde.
Fe darodd Fishlock y bêl i gefn y rhwyd ddwywaith yn yr ail hanner, ond roedd hi'n camsefyll yn ar y ddau achlysur.
Er i Gymru ennill 1-0 wedi 90 munud, roedd buddugoliaeth Slofacia yn y cymal cyntaf yn golygu bod angen amser ychwanegol i wahanu'r ddau dîm.
Roedd y chwarae yn ystod yr hanner awr ychwanegol ychydig yn fler gyda'r ddau dim yn amlwg wedi blino.
Ond gyda 112 o funudau wedi chwarae, fe darodd Fishlock y bêl dros amddiffyn Slofacia tuag at Kayleigh Barton a darodd y postyn - ond fe adlamodd y bêl i gyfeiriad Holland a lwyddodd i ergydio'n bwerus heibio'r golgeidwad.
Er rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn ag a oedd Barton yn camsefyll neu beidio, fe wnaeth VAR gadarnhau fod y gôl yn un dilys.
Fe fydd gemau'r rownd derfynol yn cael eu cynnal ar 27 Tachwedd a 3 Rhagfyr.
Yn y Swistir fydd rowndiau terfynol Euro 2025 yn cael eu cynnal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Hydref
- Cyhoeddwyd23 Hydref