'Pwysig bod yr heddlu yn cefnogi ysgolion'

Bydd swyddogion heddlu yn parhau i fynd i ysgolion i siarad gyda disgyblion er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ariannu'r cynllun.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y llywodraeth y byddan nhw'n rhoi'r gorau i ariannu cynllun School Beat Cymru er mwyn arbed £2m y flwyddyn.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys fod y penderfyniad wedi achosi "pryder sylweddol" ac y bydd y rhaglen yn parhau yn yr ardal.

Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Dafydd Llywelyn fod ymddygiad o fewn ysgolion wedi bod yn "heriol" ers y pandemig, a'i bod hi'n "bwysig fod yr heddlu yno i gefnogi ysgolion ac yn ymgysylltu gyda phobl ifanc".

"Mae'n bwysig fod pobl ifanc yn teimlo'n hyderus eu bod nhw'n gallu ymgysylltu gyda swyddogion lleol," meddai.