Parhau gyda chynllun heddlu mewn ysgolion er i'r llywodraeth dynnu'n ôl
- Cyhoeddwyd
Bydd swyddogion heddlu yn parhau i fynd i ysgolion i siarad gyda disgyblion er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ariannu'r cynllun.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y llywodraeth y byddan nhw'n rhoi'r gorau i ariannu cynllun School Beat Cymru er mwyn arbed £2m y flwyddyn.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys fod y penderfyniad wedi achosi "pryder sylweddol" ac y bydd y rhaglen yn parhau yn yr ardal.
Mae Heddlu'r Gogledd hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n parhau gyda'r cynllun, tra bod Heddlu Gwent wedi symud i fodel o "ymgysylltu agosach rhwng ysgolion a'u timau plismona lleol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen.
Beth yw School Beat Cymru?
Mae School Beat Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng y pedwar llu heddlu.
Roedd 68 o swyddogion yn cael eu cyflogi i fynd i ysgolion ledled Cymru i siarad â disgyblion rhwng pump a 16 oed ynglŷn â materion diogelwch a lles.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, fod y penderfyniad i dynnu'r cyllid wedi ei wneud heb ymgynghoriad ffurfiol gyda heddluoedd Cymru.
Bydd Mr Llywelyn yn ymweld ag Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ddydd Mercher i weld sut mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu yno.
Dywedodd Mr Llywelyn: "Roedd unrhyw ostyngiad yn y gefnogaeth i’r gwasanaeth hwn yn peryglu datblygiad a diogelwch ein pobl ifanc.
"Dyna pam y gwnes hi’n flaenoriaeth i sicrhau bod y Gwasanaeth Ysgolion yn parhau yn ein hardal."
Ychwanegodd fod y rhaglen yn "hanfodol nid yn unig ar gyfer y diogelwch a’r gefnogaeth uniongyrchol y mae’n eu cynnig ond hefyd ar gyfer llwyddiant a lles ein myfyrwyr yn y dyfodol".
"Byddaf yn parhau i frwydro dros ei dyfodol ac i amddiffyn buddiannau gorau ein plant."
Bydd y rhaglen yn parhau yn rhanbarth Dyfed-Powys tan ddiwedd blwyddyn addysgol 2023-24.
'Pwysau ariannol cynyddol'
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gwent, Jane Mudd, fod y penderfyniad i ddod â'r rhaglen i ben "yn ei ffurf flaenorol yng Ngwent [wedi dod] i ben cyn fy ethol".
"Fel rhan o fy ymrwymiad i feithrin hyder mewn plismona o fewn ein cymunedau byddaf yn monitro llwyddiant y model newydd hwn yn agos iawn i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein hysgolion, a'n plant a'n pobl ifanc."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Oherwydd pwysau ariannol cynyddol, fe benderfynon ni ddod â’n cyfraniad i Raglen Ysgolion Heddlu Cymru i ben er mwyn canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen.
"Mae’r dirwedd o amgylch lles ar gyfer dysgwyr ar ystod o faterion pwysig wedi newid yn sylweddol ers i’r rhaglen ddechrau, yn enwedig gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd.
"Rydym yn parhau i ariannu gwaith ataliol gyda phlant sydd mewn perygl o droseddu trwy’r Grant Plant a Chymunedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd3 Mai 2024
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024