'Problem parcio dal yma ond y bysys yn effeithiol'
Mae ymwelwyr â pharc cenedlaethol mwyaf Cymru yn cael eu hannog i ystyried sut maen nhw'n teithio yno - er mwyn osgoi problemau parcio neu'r perygl y bydd eu cerbyd yn cael ei lusgo oddi yno.
Hyd at fis Tachwedd, bydd angen i'r rhai sy'n mynd i Ben y Pass archebu lle parcio ymlaen llaw - gan dalu £20 am le i barcio am wyth awr.
Dyma oedd yr ymateb gafodd ein gohebydd Dafydd Evans fore Sadwrn wrth holi rhai o'r cerddwyr.