£20 am wyth awr - rheolau parcio yn dod i rym yn Eryri cyn y Pasg
Yr ymateb wrth i'r cyfyngiadau parcio Pen y Pass ddod i rym
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau ar gyfer un o leoliadau mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Eryri yn dod i rym ar gyfer y Pasg.
Hyd at fis Tachwedd, bydd angen i'r rhai sy'n mynd i Ben y Pass archebu lle parcio ymlaen llaw - gan dalu £20 am le i barcio am wyth awr.
Mae'n ymgais i annog ymwelwyr i ystyried sut maen nhw'n teithio yno - er mwyn osgoi problemau parcio.
Gall y rhai sy'n torri'r rheolau drwy barcio ar ochr y ffordd wynebu dirwy, neu gallai'r heddlu fynd â'u car oddi yno.
'Anhrefn'
Daw'r drefn newydd i rym wedi golygfeydd o anhrefn yn yr ardal yn y blynyddoedd diwethaf.
Mewn rhai achosion, cafodd cerbydau'r gwasanaethau brys eu hatal rhag gallu mynd heibio am fod gymaint o gerbydau wedi'u parcio ar ochr ffyrdd.

Mae swyddogion y parc yn gobeithio osgoi golygeydd y gorffennol, pan oedd ceir wedi eu parcio'n rhes ar ochrau ffyrdd
Yn ôl swyddogion y parc, mae cyflwyno system o archebu parcio ymlaen llaw ar gyfer Pen y Pass, gweithredu llymach yn erbyn rhai sy'n torri'r rheolau, a gwella'r gwasanaeth bws wedi lleihau'r problemau yn sylweddol.
"Roedd yn rhaid i'r system archebu parcio ymlaen llaw gael ei chyflwyno oherwydd y golygfeydd peryglus welson ni yn ystod ac ar ôl Covid," meddai rheolwr partneriaeth prosiect y parc, Catrin Glyn.
"Roedd ceir wedi parcio yr holl ffordd i lawr y ffordd... doedd ambiwlansys ddim yn gallu mynd drwodd. Roedd yn anhrefn - fel awdurdod y parc, roedd rhaid i ni wneud rhywbeth."

O'r Pasg hyd at fis Tachwedd bydd angen archebu lle ymlaen llaw i barcio ym Mhen y Pass
Dyma'r drydedd flwyddyn i'r system archebu parcio ymlaen llaw gael ei gweithredu, yn dilyn cynllun peilot pan ddaeth y cyfnod clo i ben yn 2021.
Bydd y gost am barcio yn cynyddu i £40 am gyfnod hirach nag wyth awr.
Mae swyddogion y parc yn gobeithio y bydd y tâl yn perswadio ymwelwyr i ddod o hyd i ffyrdd eraill o deithio yn yr ardal.
Maen nhw eisiau annog rhagor o bobl i wneud defnydd o'r rhwydwaith bws o amgylch Yr Wyddfa, gan gynnwys safle parcio-a-theithio lai na 10 munud i ffwrdd, gyda gwasanaethau yn rhedeg bob 15 munud yn y gwanwyn a'r haf.
"Mae'n bwysig iawn i'r parc. Mae ganddon ni argyfwng carbon - mae'n rhaid i ni leihau [allyriadau] carbon," meddai Catrin Glyn.
"Mae'n rhaid i ni feddwl o ddifri ynglŷn â sut rydan ni'n teithio yn y dyfodol.
"Mae'n sicr yn rhywbeth yr ydan ni'n anelu ato - cael yr opsiynau yna i bobl fel y gallan nhw ddod i'r parc gan ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy."

Roedd Deshen a'i deulu o Lundain yn dweud bod y system parcio a theithio wedi gweithio iddo
I Deshen, oedd yn ymweld am y dydd gyda'i deulu o Lundain, doedd parcio ym Mhen y Pass ddim yn opsiwn.
"Wnes i ddim hyd yn oed checio yn fan hyn i ddweud y gwir. I lawr fanna, mae'n costio £5 i barcio, rydach chi'n cael bws - mae'r bws yn neis. Mae'n rheolaidd," meddai.
Dywedodd cerddwr arall oedd wedi dod i'r ardal i weld yr haul yn codi ar gopa'r Wyddfa y byddai wedi bod yn dda iddi wybod ymlaen llaw am y system archebu neu'r bws cyn iddi gyrraedd o Ipswich.
"Roedd yn rhaid i ni barcio tua milltir i ffwrdd. Doedd o ddim yn ddrwg, ond mae'n golygu taith gerdded dipyn yn hirach yn ôl," meddai Rachel Brown.
"Dwi'n credu y mwyaf o drafnidiaeth y gallwch chi ei gael yma, y gorau fydd o."

Byddai Rachel Brown wedi hoffi gwybod cyn cyrraedd am y system archebu ymlaen llaw neu'r bws
Roedd Adam Brown yn ceisio cyrraedd copa'r Wyddfa ddwywaith o fewn diwrnod gyda'i gi Benji.
"Dwi'n gwybod bod yr ardal yn cael ei gwasanaethu'n dda iawn gan fysiau ac fe allwch chi deithio o gwmpas a chyrraedd yr holl lwybrau i fyny'r Wyddfa," meddai.
Roedd o wedi talu £6 i barcio ar ochr arall y mynydd ac yn dweud na fyddai wedi dewis talu £20 i gael slot ym Mhen y Pass.
"Faswn i ddim wedi talu hynny - mi faswn i'n sicr yn cael bws, gan bod cŵn yn gallu mynd arnyn nhw, fel y galla' i ddod â fy nghi gyda fi hefyd."

Mae rhwydwaith fysiau Sherpa'r Wyddfa yn gwasanaethu cymunedau lleol, yn ogystal ag ymwelwyr
Cafodd rhwydwaith fysiau Sherpa'r Wyddfa ei had-drefnu ar ôl Covid, i wasanaethu'r cymunedau lleol, yn ogystal ag ymwelwyr.
Wrth ymuno â theithwyr oedd yn anelu am Ben y Pass o Fetws-y-coed, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates mae rhoi profiad cadarnhaol i ymwelwyr ydi'r bwriad.
"Mae o ynglŷn â mwynhau'r tirwedd mewn amgylchedd ymlaciedig, yn hytrach na gorfod mynd drwy'r boen o yrru o gwmpas yn ceisio dod o hyd i le i barcio. Mae'n rhan o'r profiad i dwristiaid.
"Mae parcio mewn rhannau prysur o'r parc yn broblem ddifrifol, nid dim ond i'r ymwelwyr, ond i'r bobl sy'n byw yma.
"Felly drwy roi cynlluniau trafnidaeth ychwanegol, drwy wneud yn siŵr eu bod yn ddibynadwy ac ar amser, rydan ni'n annog pobl i ddod allan o'u ceir a mynd ar y bysiau i fwynhau'r tirwedd yma lawer mwy."
'Cynllunio ymlaen llaw'
Wrth i'r haf agosáu, mae Heddlu'r Gogledd wedi ategu'r neges ynglŷn â pharcio, yn ogystal â galw ar y cyhoedd i wneud yn siŵr eu bod yn aros yn ddiogel tra'n ymweld â'r parc cenedlaethol.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Pawson: "Mae Heddlu'r Gogledd wedi, ac yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys ein Timau Achub Mynydd Gwirfoddol sydd yn profi pwysau digynsail ar eu gwasanaethau eleni.
"Mae ganddon ni i gyd ddyletswydd i gymryd gofal ychwanegol os ydyn ni yn anelu am gopa'r Wyddfa neu unrhyw fynydd arall yn Eryri.
"Os ydach chi yn bwriadu ymweld â'r Wyddfa neu ardaloedd cyfagos gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw.
"Mae cynllunio parcio hefyd yn ffactor bwysig, gan nad ydyn ni eisiau gweld parcio peryglus neu anghyfrifol fel sydd wedi bod mewn blynyddoedd blaenorol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020