Ymwybyddiaeth lipoedema: 'Oedd coesau hi fel coesau fi'
Treuliodd Emma Griffiths flynyddoedd yn pendroni pam bod ei choesau hi yn fwy na rhai ei ffrindiau.
"O'n i'n edrych yn y drych a meddwl 'na, mae rhywbeth yn bod fan hyn. Pam mae coesau fi yn wahanol i ferched fy oedran i?'
Er gwaethaf byw bywyd iach, a cholli pum stôn, roedd hanner isaf ei chorff yn parhau i fod yn fwy - a dyna pryd dechreuodd amau bod rhywbeth o'i le.
Ond pan ymddangosodd Shaughna Phillips ar raglen Love Island yn 2020 a rhannu ei hanes hi o fyw gyda lipoedema, fe sylweddolodd Emma bod ganddi hi yr un cyflwr.
"Oedd coesau hi fel coesau fi... a o'n i'n gwybod wedyn - a siŵr o fod pawb arall yn yr un sefyllfa - hyn sydd gyda fi."