'Cafodd pedwar litr o fraster ei dynnu o fy nghoesau'
Emma Griffiths yn rhannu ei stori hi am sut y dysgodd bod ganddi gyflwr meddygol tra'n gwylio Love Island
- Cyhoeddwyd
Treuliodd Emma Griffiths flynyddoedd yn pendroni pam bod ei choesau hi yn fwy na rhai ei ffrindiau.
Ar ôl darganfod bod ganddi gyflwr cronig lipoedema, gwariodd filoedd o bunnau ar lawdriniaeth oedd ddim ar gael iddi trwy'r Gwasanaeth Iechyd – yn y gobaith byddai ei bywyd yn gwella.
Mae lipoedema yn achosi braster i adeiladu yn anarferol yn y cluniau, pen-ôl a choesau gan fwyaf, sydd yn ei dro yn cael effaith ar siâp y corff.
Mae Emma, 35, yn galw am fwy o ymwybyddiaeth a chymorth seicolegol, ac i lawdriniaeth liposugno (liposuction) fod ar gael yn fwy eang trwy'r Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw liposugno yn cael ei gynnig i bobl sydd â lipoedema yn unig, ond fe allai fod ar gael i rai sy'n byw â chyflyrau eraill hefyd.

Mae Emma Griffiths wedi gwario miloedd o bunnau ar lawdriniaeth oedd ddim ar gael iddi trwy'r GIG
"O'n i'n ofnus bydd e'n progressio yn gloi. O'n i just yn gobeithio oedd e'n mynd i reoli'r symptomau a helpu fi gyda fy mywyd," esboniodd Emma, mam i ddau o Rydaman, Sir Gaerfyrddin.
Yn 2023 cafodd pedwar litr o fraster ei dynnu o'i chluniau drwy lawdriniaeth liposugno.
Nid yw corff NICE - sy'n cynghori pa driniaethau a meddyginiaethau ddylai fod ar gael ar y gwasanaeth iechyd - yn argymell liposugno am lipoedema cronig oni bai ei fod ar gyfer ymchwil, gan fod prinder tystiolaeth am ei ddiogelwch a'i effeithlonrwydd.
Mae triniaethau presennol yn gallu cynnwys newid i ffordd o fyw a chywasgu (compression).
Mae'r hyn sy'n achosi lipoedema yn aneglur, ond mae'n bosib bod newidiadau hormonau yn ffactor. Nid yw bod dros bwysau yn ei achosi.
Mae rhai yn amcangyfrif fod y cyflwr yn cael effaith ar tua 11% o'r boblogaeth ar draws y byd, ond byddai gan y mwyafrif llethol o'r rheiny symptomau ysgafn.
Beth yw lipoedema?
Mae lipoedema yn achosi braster i adeiladu yn anarferol yn y cluniau, pen-ôl a choesau fel arfer - sy'n arwain at effeithio siâp y corff.
Mae cael effaith ar fenywod yn bennaf.
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys trymder, poen a chleisio'n hawdd, gyda rhannau o'r corff yn aml yn ymddangos fel 'cellulite' eithafol.
I rai, mae symptomau yn ysgafn, ond i eraill mae'n cael effaith andwyol ar eu bywydau.
Mae'r cyflwr yn cael ei gategoreiddio mewn camau o 1 i 4, gyda cham 4 y mwyaf difrifol - sy'n cael effaith ar allu person i symud.
Mae'n bosib iddo waethygu dros amser, felly mae'n bwysig cael diagnosis cynnar i gael mynediad at driniaethau i leihau'r risg o symptomau'n gwaethygu.

Cafodd Emma lawdriniaeth i dynnu pedwar litr o fraster o'i choesau
Ar ôl gadael yr ysgol gynradd, sylweddolodd Emma bod ei choesau'n llawer mwy na gweddill ei chorff a'u bod hefyd yn teimlo yn drwm, ac yn boenus ar adegau.
"O'n i'n edrych yn y drych a meddwl 'na, mae rhywbeth yn bod fan hyn. Pam mae coesau fi yn wahanol i ferched fy oedran i?'
Er gwaethaf byw bywyd iach, a cholli pum stôn, roedd hanner isaf ei chorff yn parhau i fod yn fwy - a dyna pryd dechreuodd amau bod rhywbeth o'i le.
Ond pan ymddangosodd Shaughna Phillips ar raglen Love Island yn 2020 a rhannu ei hanes hi o fyw gyda lipoedema, fe sylweddolodd Emma bod ganddi gyflwr meddygol.
"Oedd coesau hi fel coesau fi... a o'n i'n gwybod wedyn - a siŵr o fod pawb arall yn yr un sefyllfa - hyn sydd gyda fi."
Fe aeth Emma at ei meddyg teulu, ond dywedodd: "Oedd e ddim yn gwybod beth o'n i'n siarad amdano."
Gofynnodd am gael ei chyfeirio at glinig lymffoedema - cyflwr tebyg i lipoedema.

Mae Emma wrth ei bodd yn cystadlu mewn treiathlonau
Cafodd Emma ddillad cywasgu trwy'r Gwasanaeth Iechyd ond fe aeth i weld llawfeddyg preifat yn 2022, ble cafodd ddiagnosis o lipoedema cam 2.
Penderfynodd gael llawdriniaeth breifat, sydd wedi helpu ei symptomau, ond dydyn nhw ddim wedi diflannu'n llwyr.
"Dim embarrassment, ond o'n i'n siomedig o'r blaen bod corff fi mas o proportion i fenywod eraill," meddai Emma.
"Ond nawr fi'n teimlo'n lot gwell bod diagnosis gyda fi."
Mae Emma bellach yn rheoli'r cyflwr drwy fyw bywyd iach, gwisgo sanau cywasgu yn ddyddiol a brwsio ei chroen, sy'n helpu hi gyda chwydd a phoen.
'Fi ddim cweit yna eto'
Er bod Emma wrth ei bodd yn cystadlu mewn treiathlonau, dyw hi ddim yn teimlo ei bod yn gallu hyfforddi mewn grwpiau am nad yw hi eisiau dangos ei choesau.
"Mentally a physically mae'r cyflwyr yn absolutely drainio chi," meddai.
"Fi'n ifanc, dwlu ar fashiwn, a ddim yn gallu gwisgo dillad fi moyn gwisgo.
"Rhaid i chi dderbyn eich corff fel mae e - fi'n deall hwnna - ond mae'n cymryd amser, a fi ddim cweit yna eto."
Dywedodd bod ymwybyddiaeth o lipoedema yn tyfum ond mae'nawyddus i godi rhagor o ymwybyddiaeth drwy rannu ei stori.
Mae hefyd yn galw am fwy o gymorth seicolegol ac am i lawdriniaeth liposugno fod ar gael ar y gwasanaeth iechyd i fenywod pan fo'r cyflwr yn cael effaith ar ansawdd eu bywyd.

Mae Victoria Jones yn credu bod angen mwy o arbenigwr sy'n deall lipoedema ac yn gallu gwneud diagnosis cywir
Mae Emma wedi cael ei chyfeirio at y gwasanaeth cymorth seicolegol Rhwydwaith Lymffoedema Cymru - gwasanaeth y GIG - yn y gobaith y bydd hyn yn helpu ei hyder.
Dyma'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU i bobl sy'n byw â'r cyflwr.
"Mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus," meddai Victoria Jones, prif ddietegydd y rhwydwaith.
Mae hi'n cytuno bod angen codi ymwybyddiaeth a'i bod yn allweddol bod doctoriaid yn derbyn hyfforddiant ac yn cael eu haddysgu am y cyflwr.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian fel eu bod yn gallu cynnig llawdriniaeth liposugno i bobl sy'n byw â lipoedema, er mwyn gweld pa mor effeithiol yw'r driniaeth.
'Poenau tyfu' neu 'cellulite difrifol'
Mae BBC Cymru wedi siarad gyda 15 o fenywod dros Gymru a Lloegr sydd â lipoedema.
I lawer, dylanwadwyr ar-lein neu ymchwil eu hunain arweiniodd at ddiagnosis.
Dywedodd rhai bod eu meddyg teulu wedi disgrifio eu symptomau fel "cellulite difrifol", "poenau tyfu", gordewdra neu arthritis.
Roedd un person yn ei arddegau yn barod i ddefnyddio ei etifeddiaeth i dalu am liposugno, ac roedd un fenyw yn defnyddio ei harian pensiwn ac yn fodlon gwerthu ei thŷ er mwyn talu am lawdriniaeth ei merch.
Fe wnaeth pob un o'r 15 sôn am effaith feddyliol byw gyda lipoedema – gyda dau yn dweud eu bod wedi datblygu anhwylderau bwyta, a dau arall yn dweud eu bod wedi meddwl am hunanladdiad.
Yn ôl ymchwil BBC Cymru, trwy gais rhyddid gwybodaeth, fe welodd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru 8,485 o fenywod rhwng Ebrill a Thachwedd 2024.
Cafodd 459 o'r rheiny ddiagnosis o lipoedema.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Lymffoedema Cymru i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am lipoedema ledled Cymru.
"Mae liposugno ar gael i grŵp bach o gleifion o dan rai amgylchiadau penodol ac yn cael ei gynnig i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
"Fe allai hynny, o bosib, gynnwys cleifion sydd â lipoedema a lymffoedema.
"Nid yw liposugno ar gael i gleifion sydd yn byw gyda lipoedema yn unig, gan fod hynny yn mynd yn erbyn canllawiau Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal."
Mae GIG Lloegr hefyd wedi cael cais am sylw.
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.