Caernarfon: Mam wedi ei 'hysgwyd' gan gamdriniaeth hiliol

Mae dynes a gafodd ei cham-drin yn hiliol yng nghanol Caernarfon yn dweud fod y profiad yn "frawychus" ac yn un "poenus iawn".

Cafodd Shakila Meli a’i phlant eu sarhau gan ddyn mewn gorsaf fysiau yn y dref ar 9 Awst.

Dywedodd Michael Owen Williams, 36 oed o Bwllheli, y dylai hi "fynd adref" a'i bod hi "ddim yn perthyn".

Yn ôl Ms Meli, a symudodd i Lanllyfni ger Caernarfon yn 2017, mae'r digwyddiad wedi ei hysgwyd.

Fe wnaeth Williams gyfaddef aflonyddu hiliol, ac fe gafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis.