'Cael fy ngham-drin yn hiliol yng Nghaernarfon yn boenus iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei cham-drin yn hiliol yng nghanol Caernarfon yn dweud fod y profiad yn "frawychus" ac un "poenus iawn".
Cafodd Shakila Meli a’i phlant eu sarhau gan ddyn mewn gorsaf fysiau yn y dref ar 9 Awst.
Dywedodd Michael Owen Williams, 36 oed o Bwllheli, y dylai hi "fynd adref" a'i bod hi "ddim yn perthyn".
Yn ôl Ms Meli, a symudodd i Lanllyfni ger Caernarfon yn 2017, mae'r digwyddiad wedi eu hysgwyd.
Fe wnaeth Williams gyfaddef aflonyddu hiliol, ac fe gafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis.
Rhybudd: Gallai rhai o'r sylwadau isod beri gofid
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Ms Meli - sy'n gweithio mewn siop trin gwallt - fod Michael Williams wedi dechrau ei sarhau ar ôl iddi godi llaw ar ei ffrind.
Roedd Williams yn gwneud sylwadau yn Gymraeg i ddechrau, a dywedodd merch Ms Meli - sy'n siarad Cymraeg - wrthi bod y sylwadau yn hiliol.
"Daeth hi'n rhedeg ata i a dywedodd 'Mam - mae'n dweud pethau cas a hiliol'," meddai Ms Melia.
"Dywedodd ei fod yn eich galw chi'n Fwslim budr, bo' chi ddim i fod yma ac eich bod chi'n anghyfreithlon."
'Fy mrifo heb wybod fy stori'
Dywedodd y fam i dri o blant a gafodd ei magu yn Kenya fod y geiriau "wedi brifo'n fawr", yn enwedig y cyhuddiadau o fod wedi dod i Gymru mewn modd anghyfreithlon.
"Rydw i wedi gweithio mor, mor galed ers pum mlynedd - fi a fy ngŵr - i gael yr arian ar gyfer y fisa.
"Erbyn hynny ro'n i’n breswylydd parhaol o’r diwedd ac roeddwn i’n teimlo ei fod yn rhyddhad ar ôl aberthu cymaint.
"Ond iddo ddweud fy mod i'n anghyfreithlon, heb wybod fy stori a pha mor galed o'n i wedi gweithio i wneud popeth yn gyfreithlon. Roedd hynny'n brifo fi."
Dywedodd Shakila Meli fod Williams wedi symud tuag ati mewn modd ymosodol, a bod ei merch ifanc wedi rhedeg oddi yno.
"Roedd hi'n sgrechian, 'Mam mae'n rhaid i ni redeg - mae'n rhaid i ni redeg'.
"Merch fach yw hon, ac roedd hi'n dweud wrth ei mam bod angen i ni redeg.
"Ond nes i ddweud 'na, dydw i ddim am redeg ddim mwy'."
Eglurodd ei bod wedi ffonio'r heddlu wrth i Williams ddod yn agosach, a bod dynes oedd yn digwydd pasio hefyd wedi ymyrryd.
"Rwy'n dal i chwilio am y ddynes yma, ond fe wnaeth hi fy amddiffyn. Dwi'n meddwl ei bod hi wedi gweld ei fod yn mynd i frifo fi," ychwanegodd.
"Roedd hi'n sefyll o fy mlaen ac roedd hynny'n hyfryd iawn i'w weld. Dywedodd hi 'ti ddim yn mynd i wneud unrhyw beth i'r ddynes yma - ti methu gwneud dim byd'."
- Cyhoeddwyd24 Hydref
- Cyhoeddwyd13 Medi
Dywedodd Ms Meli fod yr heddlu wedi cyrraedd a bod Williams wedi'i arestio.
"O'n i'n teimlo cymaint o ryddhad, ac roedd gweld ymdrechion yr heddlu i helpu... roedd hynny'n golygu'r byd i mi."
Dywedodd Shakila Meli fod y digwyddiad wedi ei hysgwyd: "Mae'r bobl yma yn hyfryd a dwi'n eu caru nhw.
"Maen nhw'n gwybod eu bod nhw wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i mi. Wnes i 'rioed feddwl y byddwn i'n gweld y fath beth yng Nghaernarfon.
"Nes i ffonio fy ngŵr Jason, sy'n dod o Brydain, a dweud wrtho 'dwi methu aros yma, dwi angen mynd 'nôl adref... mae fy merch eisiau bod yn Kenya'."
Ychwanegodd fod ei merch bump oed wedi cael ei heffeithio yn ofnadwy gan y digwyddiad.
"Mae hi'n dal i ddweud 'Mam - mae angen i ni fynd i Kenya, dydy fa'ma ddim yn gartref. Mae pawb yn casáu ni. Does neb yn ein hoffi ni'.
"Mae hi'n cael gorbryder, dydy hi ddim yn gallu mynd i Gaernarfon o gwbl a dydy hi ddim yn iawn gwneud i ferch fach deimlo felly."
'Dyma yw fy nghartref'
Ond dywedodd Ms Meli fod gweld Williams yn cael ei garcharu wedi adfer ei ffydd.
“Mae yna faich wedi'i gymryd oddi ar fy ysgwyddau a dwi’n teimlo nawr mai dyma yw fy nghartref,” meddai.
"Os yw'r heddlu yn fy amddiffyn mae hyn yn golygu mai dyma yw fy nghartref."
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts o Heddlu Gogledd Cymru: “Roedd yr ymddygiad yn yr achos yma yn ffiaidd ac wedi ei dargedu tuag at ddynes oherwydd ei hil.
“Ni fydd hyn yn cael ei oddef yng Ngwynedd, a byddwn yn delio’n gadarn ag unrhyw achosion o droseddau casineb.”
Dywedodd Ms Meli ei bod yn awyddus i rannu ei phrofiad.
"Does dim ots pa liw ydych chi. Does dim ots beth ydych chi'n credu ynddo. Yr un teimladau sydd gennym ni. Yr un gwaed sydd gennym ni," meddai.
“Mae cymaint yn digwydd yn y byd ar hyn o bryd. Dylem ganolbwyntio ar y pethau pwysig a dod at ein gilydd a helpu ein gilydd.
"Mae angen i'r genhedlaeth nesaf weld cariad."