Cowbois: 'Blwyddyn grêt, ond tair wythnos anodd'

Mynd â’r tŷ am dro gan Cowbois Rhos Botwnnog sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ddydd Gwener.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Aled ei bod hi wedi bod yn "flwyddyn grêt, ond tair wythnos anodd iawn" i'r band wedi i'w frawd a phrif leisydd y band, Iwan Huws gael ei daro'n wael.

Mae'r band wedi gohirio "pob sioe dros y misoedd nesaf", gan gynnwys rhai yn y brifwyl yn sgil salwch Iwan.

Fe wnaeth mab Iwan, Now, dderbyn y wobr ar ei ran.

Dywedodd Dafydd ei fod yn "brofiad arbennig iawn."

"Mae'n braf clywed beirniadaeth fel 'na, yn enwedig yn ganol albums cryf hefyd," meddai.

Ychwanegodd Aled: "Mae jyst yn neis bod yr albwm wedi cysylltu efo pobl."