Cowbois Rhos Botwnnog yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Disgrifiad,

Fe wnaeth mab Iwan Huws, Now, ymuno â gweddill Cowbois Rhos Botwnnog i dderbyn y wobr

  • Cyhoeddwyd

Mynd â’r tŷ am dro gan Cowbois Rhos Botwnnog sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ddydd Gwener.

Treuliodd prif leisydd y band o frodyr, Iwan Huws, gyfnod yn yr ysbyty fis diwethaf ar ôl cael ei daro'n wael wrth berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Fe wnaeth ei fab, Now, dderbyn y wobr ar lwyfan y pafiliwn ar ei ran ynghyd â'i frodyr.

Mae'r band wedi gohirio "pob sioe dros y misoedd nesaf", gan gynnwys rhai yn y brifwyl yn sgil salwch Iwan Huws.

Wrth dderbyn y wobr, fe ddywedodd Aled Huws eu bod wedi cael "tair wythnos ddigon rhyfedd".

"Ond ma' hwn yn dipyn o fraint i gael cloi’r 'Steddfod.

"Mae’n albwm 'dan ni gyd yn hapus iawn efo hi, a 'dan ni just yn falch bod hi 'di cydio a 'di cysylltu efo pobl eraill.

"'Di Iwan methu bod efo ni heddiw felly ma' Now ei fab e 'di dod efo ni yn lle.

"A 'dan ni gyd yn dweud diolch yn fawr iawn!"

Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd prif leisydd y band Iwan Huws ei daro'n wael wrth berfformio ym mis Gorffennaf

Dywedodd un o'r beirniaid, Tomos Jones, ei fod yn flwyddyn "hynod gystadleuol," gyda dros 30 o recordiau'n gymwys am y wobr.

Fe ddisgrifion nhw Mynd â’r tŷ am dro, sef chweched record hir y band, fel un "hynod o gryf".

"Roedd yn apelio at y rhai oedd yn hen gefnogwyr o’r band yn ogystal â gwrandawyr newydd."

Disgrifiad,

Wrth siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Aled ei bod hi wedi bod yn "flwyddyn grêt, ond tair wythnos anodd iawn".

Dywedodd Dafydd fod ennill o wobr yn "brofiad arbennig iawn."

"Mae'n braf clywed beirniadaeth fel 'na, yn enwedig yn ganol albums cryf hefyd," meddai.

Ychwanegodd Aled: "Mae just yn neis bod yr albwm wedi cysylltu efo pobl."

Roedd 10 artist wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:

  • Amrwd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes

  • Bolmynydd - Pys Melyn

  • Caneuon Tyn yr Hendy - Meinir Gwilym

  • Dim dwywaith - Mellt

  • Galargan - The Gentle Good

  • Llond Llaw - Los Blancos

  • Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog

  • Sŵn o’r stafell arall - Hyll

  • Swrealaeth - M-Digidol

  • Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym