Cymru â 'dim byd i golli' yn erbyn Yr Eidal
Mae'r prop Gareth Thomas yn dweud bod gan Gymru ddim i'w golli yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw geisio dod â'u rhediad siomedig i ben.
Mae'r tîm cenedlaethol wedi colli 13 gêm brawf o'r bron ac mae Thomas yn cydnabod bod rhaid sicrhau buddugoliaeth yn Rhufain.
Mae Warren Gatland wedi gwneud dau newid i'r tîm gollodd yn erbyn Ffrainc yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth.
Mae'r wythwr Taulupe Faletau yn holliach i ddychwelyd, a'r canolwr Eddie James yn cael ei gynnwys o'r dechrau am y tro cyntaf mewn gêm ryngwladol.
Fe fydd Faletau yn cymryd lle Aaron Wainwright a James yn cael ei gynnwys yn lle Owen Watkin, sydd wedi ei anafu a ddim ar gael am weddill y gystadleuaeth.