Chwe Gwlad: Faletau a James i ddechrau i Gymru yn Rhufain
![Faletau a James](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/2e0e/live/6a671580-e472-11ef-bd1b-d536627785f2.png)
Mae'r wythwr Taulupe Faletau yn holliach a'r canolwr Eddie James wedi ei ddewis
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cyhoeddi dau newid i'r tîm gollodd yn erbyn Ffrainc wrth baratoi i herio'r Eidal yn y Chwe Gwlad.
Mae'r wythwr Taulupe Faletau yn holliach i ddychwelyd a'r canolwr Eddie James yn cael ei gynnwys o'r dechrau am y tro cyntaf mewn gêm ryngwladol.
Fe fydd Faletau yn cymryd lle Aaron Wainwright a James yn cael ei gynnwys yn lle Owen Watkin, sydd wedi ei anafu a ddim ar gael am weddill y gystadleuaeth.
Mae Wainwright wedi ei gynnwys ar y fainc er iddo gael anaf i'w wyneb yn y golled yn y Stade de France.
Tommy Reffell sy'n colli allan ar le yn y garfan o 23.
Tair gwaith mae James wedi cynrychioli Cymru hyd yn hyn, ond fe fydd yn bartner i Nick Tompkins o'r dechrau ddydd Sadwrn.
Fe fydd Warren Gatland yn gobeithio gweld ei garfan yn taro 'nôl wedi'r golled drom o 43-0 yn erbyn Ffrainc ym Mharis y penwythnos diwethaf.
Colli wnaeth yr Eidal ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad eleni, a hynny o 31-19 mewn gêm gyffrous yng Nghaeredin.
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mae Cymru bellach wedi colli 13 gêm brawf o'r bron, gan gynnwys saith gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Y golled ym Mharis oedd y tro cyntaf i Gymru fethu a sgorio pwynt mewn gêm gystadleuol ers 1998, er iddyn nhw orffen yn ddi-sgor mewn colled o 31-0 yn erbyn Awstralia yn 2007.
Y tro diwethaf i Gymru wynebu'r Eidal fe gollon nhw 21-24 yng Nghaerdydd - canlyniad oedd yn golygu eu bod yn gorffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad yn 2024.
Buddugoliaeth i Gymru o 29-17 oedd hi y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd yn Rhufain - y gêm diwethaf i Gymru ennill yn y Bencampwriaeth.
![Cymru yn erbyn yr Eidal 16 Mawrth 2024](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/47f3/live/26666e70-e3ce-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Fe orffennodd Cymru ar waelod y tabl yn y Chwe Gwlad y llynedd ar ôl colli o 21-24 i'r Eidal yng Nghaerdydd
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru bod "llawer o waith caled" wedi ei wneud gan y garfan yn ystod "wythnos bwysig" i'r tîm.
Ychwanegodd Warren Gatland: "Dy'n ni eisiau bod yn gywir a dangos disgyblaeth ddydd Sadwrn. Mae sut fyddwn ni'n rheoli'r gêm yn bwysig.
"Dy'n ni'n gwybod bod Yr Eidal yn dîm da gyda chwaraewyr corfforol ac yn edrych ymlaen at gêm gystadleuol."
Tîm Cymru
Liam Williams; Tom Rogers, Nick Tompkins, Eddie James, Josh Adams; Ben Thomas, Tomos Williams; Gareth Thomas, Evan Lloyd, Henry Thomas, Will Rowlands, Dafydd Jenkins, James Botham, Jac Morgan (capt), Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Freddie Thomas, Aaron Wainwright, Rhodri Williams, Dan Edwards, Blair Murray.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl