Y Seintiau'n dangos eu bod yn 'gallu cystadlu gyda'r goreuon'

Er y golled o 2-0 yn erbyn Fiorentina nos Iau, mae chwaraewr canol cae Y Seintiau Newydd, Leo Smith yn dweud fod perfformiad ei dîm yn dangos y gallan nhw fod yn gystadleuol yng Nghynghrair Cyngres UEFA.

Roedd hi'n dalcen caled i bencampwyr Cymru yn erbyn un o enwau mwyaf adnabyddus Serie A yn yr Eidal yn eu gêm gyntaf yn rownd y grwpiau yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Ychwanegodd Smith fod y cael chwarae yn erbyn clwb o faint Fiorentina yn brofiad arbennig.

Fe fydd y Seintiau hefyd yn wynebu Astana o Kazakhstan, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Djurgårdens o Sweden, Panathanaikos o Groeg a Celje o Slofenia.