Y Seintiau Newydd yn colli yn erbyn Fiorentina

Tim y Seintiau newydd Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd y gêm fwyaf yn hanes y Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd

Mewn gêm gofiadwy, colli o 2-0 fu hanes y Seintiau Newydd oddi cartref yn erbyn cewri’r Eidal, Fiorentina, nos Iau.

Hon oedd y gêm fwyaf yn hanes y Seintiau ac roedd saith o’r tîm a gychwynnodd ar eu rhan heno yn Gymry.

Yn dilyn perfformiad arwrol gan y tîm o Gymru yn yr hanner cyntaf, di-sgôr oedd hi ar yr egwyl.

Yn ôl y disgwyl, y tîm cartref oedd ar y droed flaen gan dargedu gôl yr ymwelwyr ddwsin o weithiau yn ystod y 45 munud cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth gôl gynta’r gêm wedi ychydig dros awr o chwarae wrth i Adli rwydo i’r tîm cartref. Bedair munud yn ddiweddarach roedd yr eilydd, Dean, wedi dyblu’r fantais.

Er y golled, bydd y tîm o Gymru a’u cefnogwyr yn falch iawn o’r perfformiad yn Stadio Artemio Franchi.

Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Wedi’r gêm yn Fflorens heno, bydd y Seintiau’n wynebu Djurgårdens o Sweden, Astana o Kazakhstan, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathinaikos o wlad Groeg a Celje o Slofenia yng Nghyngres UEFA eleni.

Pynciau cysylltiedig