'O'n i ffaelu credu' - Canfod fideo priodas o'r 60au mewn siop
Mae menyw wedi dweud iddi gael ei "llorio" ar ôl gweld fideo o'i phriodas yn y 1960au, a gafodd ei ddarganfod gan fyfyriwr ffilm mewn siop hen bethau yn Aberteifi.
Fe wnaeth Beryl Davies, 79, briodi ei diweddar gyn-ŵr, Griff, yng Nghapel Cilfowyr ym mhentref Llechryd, Ceredigion fis Hydref 1966.
Fe brynodd Martyn Forrester rîl ffilm tra ar wyliau yn Aberteifi, a heb yn wybod iddo, priodas y cwpl oedd arno.
Ar ôl gwylio'r ffilm, rhannodd Mr Forrester, o Newcastle-under-Lyme, neges ar gyfryngau cymdeithasol i geisio cysylltu â theulu'r cwpl.
A hithau bellach yn byw ym Mryste, dywedodd Beryl Davies ei bod hi'n "ffaelu credu fe".