'Dirgelwch llwyr' ar ôl canfod fideo o briodas yn y 60au mewn siop
Dywedodd Beryl Davies ei bod "ffaelu credu" bod y ffilm wedi dod i'r amlwg
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi dweud iddi gael ei "llorio" ar ôl gweld fideo o'i phriodas yn y 1960au, a gafodd ei ddarganfod gan fyfyriwr ffilm mewn siop hen bethau yn Aberteifi.
Fe wnaeth Beryl Davies, 79, briodi ei diweddar gyn-ŵr, Griff, yng Nghapel Cilfowyr ym mhentref Llechryd, Ceredigion fis Hydref 1966.
Fe brynodd Martyn Forrester rîl ffilm tra ar wyliau yn Aberteifi, a heb yn wybod iddo, priodas y cwpl oedd arno.
Ar ôl gwylio'r ffilm, rhannodd Mr Forrester, o Newcastle-under-Lyme, neges ar gyfryngau cymdeithasol i geisio cysylltu â theulu'r cwpl.

Dywedodd Beryl fod gweld y fideo yn dod ag atgofion hyfryd yn ôl
Fe ddigwyddodd hynny o fewn diwrnod, meddai, a dywedodd y briodferch ei bod "mewn sioc lwyr".
"Ges i fy synnu gyda'r cyfan! O'n i'n methu credu'r peth, bod e wedi ymddangos ar ôl yr holl flynyddoedd," meddai Ms Davies.
"'Dwi erioed, erioed wedi gweld dim ohono. Mae'n ddirgelwch llwyr pwy wnaeth ei ffilmio.
"O'n i mewn sioc a wrth gwrs yn gwylio ond o'n i'n bles odd e'n grêt i weld pob un."
Roedd gwylio'r fideo yn "emosiynol", meddai.

Fe wnaeth Beryl Davies, 79, briodi ei diweddar gyn-ŵr, Griff, yng Nghapel Cilfowyr, Llechryd yn 1966
Dywedodd Ms Davies mai dim ond un llun priodas oedd ganddi mewn lliw, felly fe wnaeth y fideo ei "rhyfeddu".
"Dim ond un llun sydd o'r morwynion yn eu ffrogiau lliw pinc tywyll, felly roedd lliwiau'r dydd yn hyfryd iawn i'w gweld.
"Roedd hi'n briodas hyfryd, eitha' posh! Roedd e'n ddiwrnod hudolus," ychwanegodd.
"Diolch yn fawr [i Martyn] am ffeindio'r ffilm a wedyn 'neud y gwaith a wedyn rhoi fe ar Facebook.
"Pan ffoniodd Mal [brawd] fi ddydd Sul o'n i'n meddwl odd e'n cal rhyw jôc. Mae hwn yn atgof hyfryd."
Dywedodd bod ei nai a'i nithoedd wedi gweld y fideo ac yn "hapus iawn" yn edrych yn ôl ar y briodas.

Dywedodd Mr Forrester, sy'n astudio ym Manceinion, ei fod yn falch iawn o rannu'r ffilm gyda'r teulu ar ôl trosglwyddo'r ffilm yn ddigidol.
"Roeddwn i'n ei wylio, ac fe wnes i feddwl, mae hon yn ffilm neis iawn, ond does dim gwerth ynddi i fi. Roedd mwy o werth i'r bobl yn y fideo," meddai.
"Es i i chwilio am dudalen cymuned Aberteifi [ar Facebook]. 'Wnes i rannu neges, a do'n i ddim yn disgwyl llawer o ymateb.
"Ond ar ôl awr, roedd gen i bron i 100 o ymatebion!"

Dim ond lluniau du a gwyn oedd gan Beryl o'i phriodas ym 1966
O fewn diwrnod, fe ddaeth i gyswllt gyda brawd Beryl, wnaeth adnabod y cwpl yn y llun.
"Roedd hyn i gyd oherwydd fy chwilfrydedd. Doedd gen i ddim bwriad dod o hyd i beth bynnag oedd ar y rîl a'i anfon i rywun," dywedodd.
"Ond gan mai priodas rhywun oedd y fideo, a'i fod mor bersonol, roedd yn rhaid i fi drio dod o hyd i'r teulu.
"Fydden i wedi bod wrth fy modd yn gweld eu hymateb, mae e mor arbennig iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020