Cau porthladd 'yn cael effaith anferthol' ar Gaergybi

Mae rhai wedi colli swyddi yn barod yn sgil cau Porthladd Caergybi oherwydd difrod storm, meddai Llinos Medi, AS Ynys Môn, sy'n rhybuddio am "effaith enfawr" ar y dref.

Mae'r porthladd ar gau ers i seilwaith y porthladd gael ei ddifrodi yn ystod Storm Darragh dros wythnos yn ôl.

Mae llefarydd ar ran Porthladd Caergybi wedi dweud eu bod nhw'n rhagweld na fydd modd i fferis deithio drwy Gaergybi "tan 19 Rhagfyr ar y cynharaf", gan bwysleisio mai diogelwch staff, contractwyr, teithwyr a chwsmeriaid yw'r prif flaenoriaeth.

Dywed Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru hefyd bod angen blaenoriaethu diogelwch ond bod hi'n "hanfodol" bod pethau'n dychwelyd i'r drefn arferol yng Nghaergybi "ar y cyfle cyntaf posib".