'Dim penderfyniad eto' ar agor porthladd Caergybi cyn y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Does dim penderfyniad eto a fydd porthladd Caergybi ar gau tan ar ôl y Nadolig, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae llywodraeth Iwerddon yn dweud bod y porthladd yn "annhebygol iawn" o ailagor cyn y Nadolig wedi difrod i'w seilwaith yn ystod Storm Darragh.
Dywed Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, y bydd y cwmni sy'n rhedeg y porthladd, Stena Line, yn cadarnhau erbyn dydd Mercher a fydd wedi ailagor erbyn dydd Gwener.
Mae llefarydd ar ran Porthladd Caergybi wedi dweud eu bod nhw'n rhagweld na fydd modd i fferis deithio drwy Gaergybi "tan 19 Rhagfyr ar y cynharaf", gan bwysleisio mai diogelwch staff, contractwyr, teithwyr a chwsmeriaid yw'r prif flaenoriaeth.
Yn ôl Aelod Seneddol Ynys Môn, mae rhai pobl eisoes wedi colli swyddi yn sgil cau'r porthladd.
Yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr Stena a swyddogion Llywodraeth y DU, dywedodd Ken Skates wrth BBC Cymru ddydd Llun, bod "deifwyr yn y dŵr yr eiliad hon yn asesu'r difrod".
Dywedodd eu bod "newydd gael sicrwydd... y bydden ni wedi cael gwybod erbyn dydd Mercher fan bellaf a fydd porthladd Caergybi yn ailagor erbyn diwedd yr wythnos, fel y gobeithiwn y bydd".
Yn y cyfamser, meddai, mae cwmnïau Stena ac Irish Ferries "yn gwneud yr holl drefniadau posib i gael nwyddau a phobl yn ôl i Iwerddon, a'r ffordd arall, cyn Nadolig" gan ddefnyddio porthladdoedd ar draws y DU.
'Sefyllfa gymhleth'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd Llinos Medi AS bod swyddi wedi'u colli yng Nghaergybi yn sgil cau'r porthladd.
"Mae rhai wedi colli swyddi'n barod achos doedd 'na ddim incwm yn dod i fewn i'w cyflogi nhw a heini'n yrwyr lorïau.
"Mi o'n i'n siarad hefo cwmni dros y penwythnos sydd 'di gweld dros 10 o unigolion yn ddiwaith dechrau wythnos diwethaf," meddai.
Y gobaith yw bod y porthladd yn ailagor dydd Iau, ond mae'r sefyllfa yn "gymhleth", meddai Ms Medi.
"Mae o'n ddifrod sydd 'di digwydd i rywbeth sydd ar y môr sydd yn adio mwy o gymhlethdod idda fo.
"Be' sy'n bwysig wan ydi bod y cwmni yn cyfathrebu gyda'r holl rhanddeiliaid yna er mwyn gwybod yn gynt na hwyrach fod yr amserlen yna'n gyraeddadwy neu beidio."
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Caergybi bod "dau ddigwyddiad angori ar wahân" - un ddydd Gwener 6 Rhagfyr a'r llall ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr - "yn effeithio ar angorfa Terfynfa 3 sy'n cael ei defnyddio gan Irish Ferries".
Canlyniad y digwyddiadau hynny yw bod "rhan o strwythr yr angorfa wedi cwympo a'i wneud yn amhosib i'w ddefnyddio".
"Yn sgil maint y difrod, bu'n rhaid cynnal archwiliadau tanddwr ar gyflwr stwythurol angorfeydd cyfagos Terfynfa 3 a Therfynfa 5, oedd ond yn bosib eu dechrau wedi i Storm Darragh ddarfod, yn gynnar fore Mawrth.
"Mae'r broses yma'n parhau a byddwn yn rhoi gwybodaeth newydd gynted ag y gallwn ni."
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn deall bod cau'r porthladd wedi cael effaith sylweddol ar fasnach, teithwyr a chwsmeriaid y porthladd ac rydym yn ymwybodol o'r tarfu mae hyn wedi ei achosi.
"Diogelwch pawb sy'n rhan o'r trefniadau angori, gan gynnwys ein staff, contractwyr ac wrth gwrs ein cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth a byddwn ni ond yn caniatáu i wasanaethau fferi ailddechrau unwaith rydym yn sicr bod hynny'n ddiogel."
Dywedodd Llinos Medi bod angen rhoi dyddiau o rybudd i gwmnïau iddyn nhw allu arallgyfeirio eu lorïau mewn amser.
"Dyna pam ma' cyfathrebu yn holl, holl bwysig 'ŵan," meddai.
"Fydd 'na lorïau yn gwneud eu ffordd tuag at Gaergybi cyn dydd Iau yn gobeithio fod nhw'n agor.
"Mae'n rhaid iddyn nhw roi rhai dyddiau o rybudd i'r cwmnïau fel bo' nhw'n gallu arallgyfeirio eu siwrna fel bod nhw'n mynd y ffordd arall yn lle bod nhw'n dod am Ynys Môn a'n cael eu dal yma fel yn ystod y storm."
Ychwanegodd yr AS bod trafodaethau am drydedd bont i'r ynys yn "allweddol bwysig" a bod angen ystyried "sut mae traffig yn dod fewn i'r porthladd".
Mae'r cau yn cael "effaith bersonol ar bobl a'u teuluoedd" yn barod, meddai.
"Mae pethau angen mynd o'i le weithiau cyn i bobl sylweddoli gwerth rhywbeth.
"Dwi'n gobeithio, wrth symud ymlaen, bydd llywodraethau Cymru a'r DU yn gweld fod Porthladd Caergybi angen cefnogaeth."
Mewn datganiad yn gynharach ddydd Llun, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ei fod yn "annog rheolwyr y porthladd i gysylltu os oes angen cefnogaeth unrhyw lywodraeth i ailddechrau gwasanethau".
Dywedodd Ken Skates hefyd bod hi'n "hanfodol" bod pethau'n dychwelyd i'r drefn arferol yng Nghaergybi "ar y cyfle cyntaf posib", tra'n blaenoriaethu diogelwch.
Roedd y difrod i'r seilwaith angori, meddai, "yn fwy sylweddol nag a gafodd ei dybio yn wreiddiol ac fe allai cymryd cryn amser i'w adfer".
Gan ddweud ei fod yn "boenus ymwybodol [o] effeithiau sylweddol" cau'r porthladd ar gludo nwyddau rhwng Cymru ac Iwerddon ar adeg mor bwysig o'r flwyddyn, dywedodd bod y sector logisteg wedi ymateb gyda "hyblygrwydd a gwytnwch" trwy ddefnyddio porthladdoedd eraill dros dro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024