'Dŵr yn dod trwy'r waliau' ar ôl glaw trwm
Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn sawl ardal yn y de, wrth i un gwleidydd egluro sut y gwnaeth dŵr "lifo drwy waliau" ei dŷ.
Fe dderbyniodd gwasanaethau tân y de, y canolbarth a'r gorllewin 180 o alwadau ffôn a bu'n rhaid iddyn nhw ymateb i ddegau o ddigwyddiadau nos Wener.
Mae'r Aelod o Senedd Cymru, Tom Giffard ar ei wyliau dramor ond cafodd wybod bod dŵr wedi mynd i'w gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros nos.
Dywedodd: "O be fi'n deall fe wnaeth y dŵr ddod lan i tua foot yn y tŷ. Mae pawb yn iawn a dyna be' sy'n bwysig ond ni ddim yn gwybod eto y difrod sydd wedi cael ei wneud i'r tŷ a pethau yn y tŷ.
"O un eiliad i'r llall oedd dŵr yn dod trwy'r waliau oherwydd dyna pa mor gyflym o'dd e'n dod trwyddo."
Mae 'na rybudd melyn am ragor o law trwm, gyda phosibilrwydd o fellt a tharanau, o 21:00 nos Sadwrn ym Mhowys, y de a'r gorllewin.