Rhybudd am ragor o law trwm ar ôl llifogydd yn y de
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn sawl ardal yn y de, wrth i un gwleidydd egluro sut y gwnaeth dŵr "lifo drwy waliau" ei dŷ.
Fe dderbyniodd gwasanaethau tân y de, y canolbarth a'r gorllewin 180 o alwadau ffôn a bu'n rhaid iddyn nhw ymateb i ddegau o ddigwyddiadau nos Wener.
Cafodd pobl eu hachub o gar gan ddiffoddwyr tân yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd llifogydd mewn 10 tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr a cafodd un person ei achub.
Roedd 'na dirlithriad ger ffordd Cwm Afan ym Mhort Talbot a bu'n rhaid i bobl adael eu cartref gan fod pryderon y gallai wal ddymchwel.
Yn Abertawe, fe achosodd llifogydd drafferthion i yrwyr a cafodd pedwar o bobl a chi eu hachub o ardd yn y ddinas.
Mae 'na rybudd melyn am ragor o law trwm, gyda phosibilrwydd o fellt a tharanau, o 21:00 nos Sadwrn ym Mhowys, y de a'r gorllewin.
Mae'r Aelod o Senedd Cymru, Tom Giffard ar ei wyliau dramor ond cafodd wybod bod dŵr wedi mynd i'w gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros nos.
Dywedodd: "O be fi'n deall fe wnaeth y dŵr ddod lan i tua foot yn y tŷ. Mae pawb yn iawn a dyna be' sy'n bwysig ond ni ddim yn gwybod eto y difrod sydd wedi cael ei wneud i'r tŷ a pethau yn y tŷ.
"Mae hwn yn anodd ond mae'n mynd i fod yn anodd i llawer o bobl ar draws de Cymru.
"O un eiliad i'r llall oedd dŵr yn dod trwy'r waliau oherwydd dyna pa mor gyflym o'dd e'n dod trwyddo."
Ychwanegodd Tom Giffard: "Mae'n drist iawn i gweld pobl yn cael eu heffeithio. Ni wedi gweld hyn o'r blaen wrth gwrs a'r peth mwyaf yw'r uncertainty.
"Ni ddim yn gwybod sut yn union mae pobl yn mynd i adeiladu nôl felly y peth pwysig yw bod pobl yn iawn a wedyn mae'n rhaid i ni ddelio gyda tai pobl a beth sydd yn tai pobl."
Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Derek Brockway: "Ym Mharc Victoria yn Abertawe, fe syrthiodd gwerth mis o law mewn diwrnod ddoe - 87.2mm. Fe syrthiodd 18.88mm mewn 15 munud yn ystod glaw trwm."
"Parc Victoria oedd y lleoliad gwlypaf yn y DU ddydd Iau a Gwener, wrth i 107.8mm o law ddisgyn."
Yng Nghastell Nedd Port Talbot, cafodd bagiau tywod eu gosod ar strydoedd yn Aberafan dros nos.
Dywedodd Stephanie Grimshaw, cynghorydd yng Nghastell Nedd Port Talbot, wrth BBC Cymru: "Neithiwr, mi gawson ni law trwm a mellt a tharanau. Roedd gymaint o law ac mi aeth dŵr fewn i rai tai yn anffodus. Mi siaradais i gyda 10-15 o deuluoedd ddoe ac mi es i fewn i'w tai nhw ac fe welais i'r difrod yn eu tai nhw.
"Roedd pobl allan drwy'r nos. Roeddwn i fyny tan tua 3yb yn ceisio cael bagiau tywod."
'Amodau dychrynllyd'
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd David Rees, sy'n cynrychioli Aberafan: "Mae'r amodau'n ddychrynllyd. Cofiwch gymryd gofal. Mae llifogydd ofnadwy mewn rhai ardaloedd."
Dywedodd Heddlu'r De bod Ffordd Talbot ym Mhort Talbot wedi cau i'r ddau gyfeiriad wrth i stormydd o fellt a tharanau daro'r ardal.
Roedd Ffordd Merthyr yng nghanol yr Eglwys Newydd, Caerdydd, dan ddŵr ar ôl glaw trwm.
Tan 08:00 fore Sadwrn roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod un rhybudd llifogydd yn Nant Ilston yn Llanilltud Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr a dau rybudd i fod yn barod am lifogydd ar Benrhyn Gŵyr ac yn ardal Ewenni a gorllewin Bro Morgannwg.
Roedd gan y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am law mellt a tharanau tan 02:00 fore Sadwrn gyda rhybudd y gallai 7cm o law syrthio mewn rhai oriau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi
- Cyhoeddwyd2 Medi